Prosiect i adfer ffos ddraenio yn parhau i leihau perygl llifogydd yn Llanbedr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod wrthi’n clirio 225 metr o ffos ddraenio sydd wedi tyfu’n wyllt, a hynny er mwyn amddiffyn cartrefi rhag llifogydd.
Mae’r Ardaloedd Draenio Mewnol wedi bod yn gweithio ar brosiectau o’r fath ers ymuno â CNC yn gynharach eleni, ac roeddent wedi trefnu i weithio ar Wastadeddau Gwent, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Aeth yr Ardal Ddraenio Fewnol i drafferthion pan ddaethpwyd o hyd i lygredd hanesyddol ar y safle, a allai ymledu ymhellach i’r afon a rhoi’r holl brosiect yn y fantol.
Diolch i wybodaeth leol ein timau, bu modd i CNC glirio’r llygredd hwn yn ddi-oed a pharhau gyda’n gwaith i leihau perygl llifogydd i gartrefi ger y ffos.
Meddai John Hogg, Pennaeth Gweithrediadau’r De ar gyfer CNC:
“Gwych yw gweld timau o fewn y sefydliad yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau canlyniad o’r fath.
“Gwnaed hyn yn ôl amserlen dynn iawn; ond oherwydd gwybodaeth a phrofiad lleol heb eu hail, cafodd y gwaith ei gwblhau er mawr lawenydd i’r trigolion, ac ar yr un pryd bu modd delio â llygredd a oedd wedi bod yn broblem ers tro byd.
“Mae cynlluniau o’r fath mor bwysig i gymunedau lleol. Mae pob un ohonom yn gwybod am y niwed y gall llifogydd ei achosi, felly gorau po fwyaf o’r prosiectau yma a gaiff eu rhoi ar waith.
Cafodd y gwaith hwn, a gwblhawyd yn ddiweddar yn Llanbedr, ei gychwyn ym mis Medi, a dyma’r trydydd cam i gael ei gwblhau.
Bydd y cynllun hwn nid yn unig yn lleihau perygl llifogydd, ond bydd hefyd yn rhoi hwb i’r planhigion a’r anifeiliaid sy’n tyfu ar Wastadeddau Gwent.