Adferiad Llygod Pengrwn y Dŵr

Mae llygod pengrwn y dŵr yn cael eu hailgyflwyno yng Nghymru wedi iddynt gael eu rhestru fel y mamaliaid sydd dan fwyaf o fygythiad yn y DU.
Roedd y rhywogaeth yn arfer bod yn gyffredin iawn hyd afonydd Cymru, ond ers y 1970au mae dros 90% o’r boblogaeth wedi’i golli.
Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn cynnal prosiect magu llygod pengrwn y dŵr, ac ers hynny mae bron i fil o unigolion wedi cael eu rhyddhau i’r gwyllt gan wella siawns y rhywogaeth o oroesi.
Trwy gydweithio â phartneriaid lleol, mae CNC wedi sefydlu nythfeydd llwyddiannus mewn pedwar safle hyd de, gorllewin, a chanolbarth Cymru.
Dywedodd Richard Davies, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae bywyd gwyllt yn rhan hanfodol o’n hamgylchedd, ein treftadaeth, a’n diwylliant- ac mae llygod pengrwn y dŵr angen ychydig o hwb gan fod eu poblogaethau wedi cwympo’n sylweddol
“Caiff y llygod eu paru ym mis Mawrth, gan gynhyrchu oddeutu chwe nythaid o ryw 4-6 epil erbyn Medi ar gyfartaledd.
“Bydd yr epil yn cael eu rhyddhau yn yr Haf i chwe safle penodol sydd â chysylltedd da, fel bod modd iddynt boblogaethu’r ardal ehangach.”
Mae newidiadau mewn defnydd tir ar draws y DU, yn ogystal â newidiadau mewn technegau rheoli glannau afonydd, wedi arwain at golli cynefinoedd a chwymp ym mhoblogaeth llygod pengrwn y dŵr.
Ond, mae’n debyg mai cyflwyno’r minc Americanaidd sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar eu niferoedd.
Mae minc yn ysglyfaethwyr ffyrnig all ddifa nythfa gyfan o lygod pengrwn y dŵr ar unwaith. Maent hefyd yn lladd nadroedd, llyffantod, brogaod, adar a hyd yn oed elyrch.
Ychwanegodd Richard:
“Mae’r cynllun magu hwn yn cynnig llygedyn o obaith i’r llygod, gan ddangos bod modd eu hail-gyflwyno i safleoedd Cymreig, gan wella gwytnwch yr ecosystemau.
“Mae eu hymddangosiad yn Cosmeston er enghraifft wedi dod â mwynhad mawr i’r rhai sy’n dod i’w gweld yn bwydo ac yn nofio ger y llwybrau cerdded.
“Rheoli’r minc yw’r ffactor allweddol ar gyfer eu parhad hirdymor, gan nad oes modd i’r ddwy rywogaeth gyd-fyw ar yr un safle.
“O ganlyniad, mae’n hollbwysig fod mesurau effeithiol i reoli minc yn cael eu sefydlu ym mhob safle ble mae llygod pengrwn y dŵr yn cael eu hail-gyflwyno.”