Diweddariad llygredd slyri

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau fod ansawdd dŵr yn Afon Bach ac Afon Clwyd wedi gwella yn dilyn y llygredd slyri diweddar.
Hysbyswyd Cyngor Sir Ddinbych gan CNC ynglŷn â chanlyniadau’r samplau dŵr a gymerwyd neithiwr, felly heddiw gallant dynnu’r hysbysiadau ar draeth Y Rhyl oedd yn cynghori pobl i beidio ag ymdrochi.
Fodd bynnag, mae swyddogion yn amcangyfrif y gallai effaith y llygredd ddoe fod wedi lladd hyd at 1,000 o bysgod, gan gynnwys brithyll a llysywod.
Mae swyddogion yn dal i fod ar y safle yn monitro’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y ffermwr ar y lagŵn slyri sydd wedi ei difrodi, ac i fonitro’r afonydd yr effeithiwyd arnynt.
Er mwyn lleihau’r perygl o lygredd pellach yn llifo i’r afon, mae’r ffermwr wedi rhwystro unrhyw lwybrau posibl eraill o’r lagŵn slyri, ac wedi byndio ffos sy’n llifo i Afon Bach.
Meddai Nick Thomas, Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae ein hafonydd a’n dyfroedd ymdrochi yn bwysig i’n heconomi leol, felly pan fydd llygredd yn digwydd, mae’n bwysig ein bod yn gweithredu’n gyflym i sicrhau fod cyn lleied o niwed ag sydd bosibl.
“Mae slyri yn gallu cael effaith ddinistriol ar ein hafonydd ac ar y bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnynt, fel yr ydym ni wedi ei weld yma.
“Rydym yn parhau i weithio â ffermwyr a chydag undebau’r ffermwyr, i leihau’r posibilrwydd o ddigwyddiadau fel hyn rhag digwydd. Dylai ffermwyr sy’n pryderu am eu storfeydd slyri gysylltu â ni er mwyn cael cyngor ac arweiniad ynglŷn â sut i leihau’r perygl o lygredd.”