Ceisio barn am sut mae coedwigoedd yng nghwm Rhondda yn cael eu rheoli

Golygfa o Cwm Clydach o Mynydd Ton

Gwahoddir pobl sy'n mwynhau defnyddio'r coetiroedd ar draws cwm Rhondda Isaf i roi eu barn ar sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn bwriadu eu rheoli yn y dyfodol.

Mae CNC – sy'n rheoli Ystâd Goed Llywodraeth Cymru ledled Cymru – wedi datblygu cynllun rheoli 25 mlynedd ar gyfer y saith coetir yn ardal Rhondda Isaf.

Y saith coetir yw:

  • Gelliwion - i'r gorllewin o Bontypridd
  • Penrhiwfer - i'r dwyrain o Gilfach Goch
  • Mynydd Ton - ymestyn o Donypandy a Llwynypia hyd at Ton Pentre
  • Maendy Rhondda - i'r de o Gwm-parc
  • Cwmsaerbren - yn rhedeg ochr yn ochr â Threorci hyd at Dreherbert.
  • Pentre - i'r gogledd o Bentre hyd at Maerdy
  • Penrhys - i'r gogledd o Benrhys ac i'r gorllewin o Tylorstown

Mae'r cynllun yn nodi amcanion a chynigion hirdymor ar gyfer rheoli'r coetiroedd a'r coed ynddynt yn y dyfodol. Mae hefyd yn cynnwys strategaethau ar sut y bydd CNC yn parhau i fynd i'r afael â'r coed llarwydd heintiedig yn yr ardal.

Gall pobl ddarllen y cynlluniau'n fanwl a gadael adborth drwy ymgynghoriad ar-lein CNC.

Mae CNC hefyd wedi ffurfio partneriaeth â Theatr Spectacle i drefnu digwyddiadau cymunedol i roi cyfle i bobl glywed am y cynlluniau ar gyfer eu coetiroedd lleol, gofyn cwestiynau ac i roi eu barn.

Dyma fanylion y digwyddiadau:

  • Taith gerdded a siarad yng Nghoedwig Mynyd Maendy, dydd Mawrth 15 Mawrth 2022, 10am – 12pm. Cyfarfod wrth y fynedfa i'r goedwig ar Ffordd Bwlch-y-Clawdd (A4061).
  • Taith gerdded a siarad yng Nghoedwig Gelliwion, dydd Llun 21 Mawrth 2022, 9:30am – 12pm. Cyfarfod ym Maes Parcio Parc Gwledig Barry Sidings. CF42 6DH.
  • Digwyddiad cymunedol, Dydd Mercher 23 Mawrth 2022, 5pm – 7pm yng Nghlwb Pêl-droed Ton Pentre. CF41 7AF.

Meddai Chris Rees, Rheolwr Gweithrediadau Coedwigoedd ar gyfer CNC:

"Mae ein coedwigoedd yn cynnig cymaint o fanteision i'n ambylchedd naturiol ac i'n cymunedau. Maent yn helpu ni yn y frwydr yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur, yn darparu pren o ansawdd da i ni ei ddefnyddio, a lleoedd gwych i ni i gyd dreulio amser ac i fwynhau.
"Rydym yn gwybod pa mor werthfawr yw ein coetiroedd, ac rydym am sicrhau bod y bobl sy'n eu defnyddio yn cael cyfle i ddweud eu dweud am sut y dylent cael eu rheoli yn y dyfodol.
"Ymunwch â ni yn un o'n digwyddiadau cymunedol neu cwblhewch ein harolwg ar-lein. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau y gall yr ardaloedd hyn barhau i ddiwallu anghenion cymunedau lleol am flynyddoedd i ddod."

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 8 Ebrill 2022.

Gall unrhyw un sy'n dymuno cymryd rhan ond na all weld y cynigion ar-lein ffonio 03000 65 3000 neu ebostio frp@cyfoethnaturiol.cymru i ofyn am gopi caled.

Gall preswylwyr sy'n dymuno anfon adborth drwy'r post ei anfon at:

Cynllun Adnoddau Coedwig Rhondda Isaf, Cyfoeth Naturiol Cymru, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd. CF24 0TP