Diddymu trwydded Gweithredwr Rheoli Gwastraff
Mae trwydded amgylcheddol cyfleuster gwastraff ym Mlaenau Ffestiniog wedi’i diddymu, o heddiw ymlaen, ar ôl methu â chydymffurfio â’r amodau yn ei drwydded dros gyfnod o amser.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi hysbysu’r deiliaid trwydded, Christopher a George Evans, na fydd modd iddynt weithredu’r cyfleuster rheoli gwastraff yn gyfreithlon bellach, a oedd yn derbyn cerbydau diwedd oes ar gyfer metel sgrap.
Mae’n dilyn euogfarn ddiweddar, lle collfarnwyd un deiliad trwydded, Christopher Evans, am fethu â chydymffurfio â rhybudd gorfodi oedd yn gofyn iddynt gydymffurfio â thelerau eu trwydded.
Hysbyswyd yr unigolion na ddylent, o heddiw ymlaen dderbyn unrhyw wastraff newydd na thrin unrhyw ddeunyddiau gwastraff pellach ar y safle. Rhaid symud yr holl wastraff sydd ar ôl, gan gynnwys cerbydau, tanwydd gwastraff, metel sgrap a chydrannau, o’r safle erbyn 17 Mawrth 2014.
Gallai methu â chydymffurfio arwain at erlyniad.
Dywedodd Tim Jones o Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym yn gosod amodau llym ar drwyddedau am reswm - er mwyn sicrhau gwarchod yr amgylchedd a phobl sy’n byw yn yr ardal gyfagos.
“Byddwn wastad yn darparu cymorth a chyngor i ddeiliaid trwyddedau i’w helpu i gyflawni’r rheoliadau, ond yn yr achos hwn, methodd yr unigolion â dilyn ein cyngor a darfu iddynt dorri eu hamodau’n gyson.
“Mewn achosion fel y rhain, does gennym ddim dewis ond diddymu’r drwydded. Mae angen i ni sicrhau chwarae teg i bawb sy’n gweithredu’n gyfreithlon fel nad ydynt dan anfantais, yn ogystal â gwarchod pobl a’r amgylchedd. ”