Pennaeth amgylchedd yn rhybuddio ein bod ni’n “atebol i genedlaethau’r dyfodol”
Mae angen i gyrff Cymru newid yn sylfaenol y modd y maent yn meddwl am yr amgylchedd, yn ôl Prif Weithredwr y corff sy’n gyfrifol am ofalu am amgylchedd Cymru.
Dywedodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), fod angen i sefydliadau Cymru angen cydlynu eu cynllunio amgylcheddol yn llawer gwell.
Bydd gwneud hynny, meddai yn gwella ein hamgylchedd, ac yn helpu’r economi a chymdeithas yn gyffredinol.
Mewn araith bwysig yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli, amlinellodd y newidiadau y mae CNC yn eu peri, a sut y gallai cyrff eraill fod ar eu hennill o feddwl yn gyffelyb.
Dywedodd:
“Os ydym, mewn gwirionedd, am wneud y gorau o amgylchedd Cymru, rhaid inni oll ei ystyried mewn ffordd gydlynnol.
“Mae angen i holl sefydliadau Cymru ystyried y cyfleoedd y mae ein hadnoddau naturiol yn eu darparu, a’r bygythiadau sy’n ei wynebu, a gweithredu mewn modd sy’n esgor ar y canlyniadau gorau.
“Golyga hyn feddwl nid yn unig am effeithiau ar fywyd gwyllt, neu swyddi, neu gymdeithas, ond ystyried y rhain oll â’i gilydd, a gwneud y dewisiadau cywir.
“Os methwn â gweithredu mewn modd cydlynol, yna bydd cenedlaethau’r dyfodol yn talu’r pris am ein camgymeriadau ni.
“Y newyddion da yw y gallwn wneud hyn yng Nghymru. Rydym yn ein hadnabod ein gilydd, yn siarad â’n gilydd, ac y mae gennym waith da iawn y gallwn adeiladu arno.
“Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i arwain gyda meddwl yn gydlynol ynghylch rheoli adnoddau amgylcheddol a naturiol. Rŵan yw’r amser i eraill fabwysiadu agwedd gyffelyb.
“Mae gan Gymru amgylchedd gyda’r gorau yn y byd. Ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau ei reoli yn y ffordd orau yn y byd.”
Cyfeiriodd at enghraifft Rainscape yn Llanelli, lle bu CNC yn gweithio mewn partneriaeth â Dŵr Cymru Welsh Water. Mae’r gwaith wedi creu suddbant er mwyn dargyfeirio dŵr glaw o’r draeniau dŵr wyneb, gan ddarparu man glasach, mwy dymunol ar gyfer pobl leol, a lleihau bygythiad llifogydd iddynt.
Mae hefyd wedi trawsffurfio cae chwarae Ysgol Gynradd Stebonheath, trwy gynnwys pwll, suddbant, potiau blanhigion, palmant hydraidd, casgenni dŵr a llecyn addysg awyr agored. Mae’r rhain yn darparu gwell lle y gall plant chwarae a dysgu ynddo, ond hefyd yn helpu amsugno’r dŵr wyneb a arferai lifo o’r cae chwarae i’r rhwydwaith garthffosiaeth.
Ond rhybuddiodd na fydd y trawsffurfio hwn yn rhwydd, a bydd angen gwneud penderfyniadau anodd, weithiau.
Dywedodd:
“Dwi wedi dod yn ymwybodol iawn o ddwy agwedd ar yr amgylchedd. Un yw ein balchder a’n hangerdd ynghylch ein hamgylchedd a’n hadnoddau naturiol yng Nghymru, a’r llall yw amrywiaeth barn eang iawn pobl ynghylch defnydd a dyfodol yr adnoddau naturiol hynny.
“Rydym eisiau cadw ac adeiladu ar y balchder a’r angerdd a deimlwn: ond rhaid inni hefyd geisio gwneud synnwyr o’r dystiolaeth ynghylch yr amgylchedd, cymodi’r agweddau gwrthwynebus, os medrwn, a chynnig atebion i broblemau ple bynnag y bo modd.”
Mae hyn yn bwysig, meddai, oherwydd mai’r amgylchedd sy’n darparu anghenion sylfaenol popeth sy’n bodoli yng Nghymru - ei phobl, ei bywyd gwyllt, ei chymdeithas a’i heconomi.
“Os adeiladwyd Llundain ar wasanaethau ariannol”, meddai, “adeiladwyd Cymru ar ein hadnoddau naturiol.”
“Ac yn ogystal â thirweddau a golygfeydd gyda’r gorau yn y byd, mae ein hadnoddau naturiol, yn hanesyddol, wedi cynnal ein heconomi, darparu bywoliaeth ar gyfer pobl a chymunedau, a chynnal y Gymraeg.
“Yn wir, heb ein cyfoeth naturiol, ni fuasai yna na chenedl, economi na chymdeithas yng Nghymru.”