Ein hymateb i bandemig y coronafeirws
Newyddion ynglŷn â sut rydym yn rheoli ein gwasanaethau...
Os na allwch gymryd samplau o'ch allyriadau oherwydd cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol, byddwn yn cofnodi nad ydych wedi gallu cymryd y sampl.
Fodd bynnag, ni chaiff hyn ei gynnwys yn eich sgôr cydymffyrfio blynyddol cyn belled â’n bod yn fodlon fod methu â gwneud hynny o ganlyniad i bandemig y coronafeirws ac nad yw'n debygol o arwain at lygru'r amgylchedd.
Gellir cael mwy o wybodaeth yn y penderfyniad rheoleiddiol isod.
Disgwyliwn i chi barhau i gydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol ac amodau eich trwydded. Fodd bynnag, byddwn yn ymateb mewn modd cymesur i unrhyw achos o beidio â chydymffurfio y cawn ein hysbysu ohono, lle mae'n gysylltiedig yn uniongyrchol â'r pandemig COVID-19.
Bydd defnyddio'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn cael ei gofnodi’n achos o ddiffyg cydymffurfio ag amodau eich trwydded. Fodd bynnag, bydd unrhyw sgôr yn cael ei hatal ac ni fydd yn effeithio ar eich sgôr gydymffurfio ar yr amod eich bod yn cydymffurfio â'r amodau a nodir ynddo.
Byddwn yn tynnu'r sgôr i ffwrdd os ydych yn sicrhau'r canlynol:
Caiff y penderfyniad rheoleiddiol hwn ei adolygu erbyn 31 Awst 2021.
Rydym wedi newid y ffordd y gellir monitro sŵn ar gyfer gweithredwyr nad ydynt yn gallu mesur effaith sŵn eu safle neu eu gweithgarwch oherwydd cyfyngiadau’r coronafeirws, dros dro.
Gellir dod o hyd i'r wybodaeth dechnegol lawn yn y penderfyniad rheoleiddiol isod.
Yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng cenedlaethol, darperir y canllawiau canlynol i weithredwyr ac ymgeiswyr ynghylch adroddiadau effaith sŵn.
Lle bo effaith sylweddol yn digwydd, dylai'r gweithredwr benderfynu a yw gwaith cynhyrchu parhaus gan ddefnyddio eitem penodol o offer, yr amheuir ei fod yn achosi effaith sŵn annerbyniol, yn hanfodol ar yr adeg hon ac a ellir datrys hyn dros dro. Cydnabyddir efallai fod lefelau sŵn cefndir fod yn annodweddiadol o isel ar hyn o bryd, ac felly (yn ôl BS 4142) gellir cynyddu'r lefel y mae ffynhonnell sŵn benodol yn uwch na lefel y sŵn cefndirol; gan roi lefel uwch o effaith nad yw efallai'n cynrychioli'r sefyllfa acwstig nodweddiadol. Ni chaiff gweithredwyr eu cosbi lle mae allyriadau a oedd yn dderbyniol yn flaenorol bellach yn cael mwy o effaith oherwydd lefelau sain cefndir anarferol o isel yn ystod y cyfnod hwn.
Fodd bynnag, gyda mwy o bobl wedi’u cyfyngu i'w cartrefi yn ystod y dydd, dylai cwmnïau fod yn ymwybodol y gallai eu gweithgareddau arferol gael mwy o effaith ar hyn o bryd. Felly, dylai gweithredwyr barhau i gymryd camau cyfrifol lle bo hynny'n rhesymol ac yn briodol.
Yn olaf, efallai y bydd rhai cwmnïau wedi cynyddu cynhyrchiant (o ran cyfraddau neu hyd y gwaith) gan eu bod yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gadwyn gyflenwi hanfodol ar gyfer nwyddau angenrheidiol yn ystod y cyfnod hwn. Yn yr amgylchiadau hyn, er bod y ddyletswydd i ddefnyddio BAT yn dal yn berthnasol; bydd rhywfaint o lacio o ran y cynnydd dros dro na ellir ei osgoi mewn lefelau sŵn i weithredwyr sy'n cyfrannu at yr ymdrech genedlaethol ar hyn o bryd.
Bydd y canllawiau hyn yn berthnasol i'r rhan fwyaf o weithrediadau yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallai fod yn rhaid i ni ailystyried y dull hwn ar gyfer ceisiadau lle mae disgwyl y bydd effaith uwch.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad uchod, ffoniwch 03000 065 3000.
Caiff y penderfyniad rheoleiddiol hwn ei adolygu erbyn 31 Awst 2021.