Dathlu Dengmlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru gyda chofroddion i’w trysori

Mae Llwybr Arfordir Cymru, sy'n hynod o boblogaidd ymysg cerddwyr ‘go iawn’ a cherddwyr achlysurol fel ei gilydd, yn dathlu ei ddengmlwyddiant ac rydym yn gwahodd ymwelwyr i ymuno â ni mewn cyfres o weithgareddau a digwyddiadau i nodi'r garreg filltir bwysig hon.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn llwybr cerdded 870 milltir / 1,400 km sy'n dilyn holl arfordir Cymru ac ers iddo gael ei lansio yn 2012 mae wedi cael cryn ddefnydd ac mae miloedd o bobl wedi’i ei droedio ac wedi gallu mwynhau'r golygfeydd amrywiol a syfrdanol sydd gan arfordir Cymru i'w cynnig.

A phwy all weld bai arnyn nhw? Mae'r amrywiaeth llwyr a'r addewid fod rhywbeth gwahanol yno yn disgwyl rownd pob cornel i’ch denu i’r garreg filltir nesaf bob amser. Waeth faint ydych yn ei gerdded – milltir yn unig neu’r 870 milltir i gyd – byddwch yn cael profiad o un o lwybrau cerdded pellter hir gorau'r DU.

Mae'n amlwg bod ymwelwyr wrth eu bodd â’r llwybr ac eisiau cofio eu hamser arno ac rydym wedi derbyn llawer o geisiadau am nwyddau swyddogol ers i’r llwybr gael ei lansio.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae tîm Llwybr Arfordir Cymru wedi bod yn gweithio'n agos â thîm masnachol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar y fenter newydd a chyffrous hon i greu nwyddau swyddogol – rhywbeth nad wnaed erioed o’r blaen yn CNC.

Bydd y nwyddau hyn yn:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o’r llwybr: gan ddefnyddio eitemau ysbrydoledig a chreadigol i hyrwyddo’r brand yn arbennig yn ystod ei flwyddyn arbennig.
  • Creu ffrwd incwm: a fydd yn cyfrannu tuag at ddatblygu’r llwybr.

Drwy gyfuno ein profiadau a'n harbenigedd, rydym wedi bod yn gweithio'n galed i ddatblygu nwyddau cyffrous ac mae'r aros ar ben o'r diwedd.

Rydym mor gyffrous o gael cyhoeddi bod ein nwyddau swyddogol yn cael eu lansio o ddiwedd mis Mai, a bydd yn bosibl prynu’r canlynol:

  • Casgliad Dathlu’r Dengmlwyddiant i nodi’r amser a dreuliwyd gennych ar y llwybr yn ystod ein blwyddyn arbennig. Ceir gwydr peint i gofio hyd yn oed – perffaith ar gyfer gwydraid cwbl haeddiannol ar ôl yr holl gerdded.
  • Dillad – Cyfres o hwdis, crysau-T a chapiau a hetiau ffasiynol i ddynion a merched – a phopeth mewn cotwm organig ac amrywiaeth o feintiau.
  • Ategolion – Mae ein cyfres eang o eitemau llai ac ysgafnach yn cynnwys padiau ysgrifennu (delfrydol i nodi eich atgofion am y llwybr), matiau diod, mygiau a bagiau cotwm (100%).
  • Ategolion ardaloedd - Os oes gennych hoff ran o’r llwybr, yna dyma’r eitemau i chi. Maen nhw’n adlewyrchu rhai o’r rhannau / tirnodau mwyaf poblogaidd ar y llwybr ac wedi cael eu printio ar ein hategolion. Yn ogystal â chael darn o’r llwybr gyda chi, byddant hefyd yn ffordd ardderchog o ddechrau sgwrs wrth ichi gerdded y llwybr.

Mae ‘na rywbeth i bawb, beth bynnag fo’ch cyllideb ac mae cynlluniau ar y gweill i ehangu’r casgliad drwy gydol y flwyddyn.

Yr anrheg berffaith

Mae ein nwyddau'n anrhegion perffaith i longyfarch y rhai sydd wedi cwblhau'r llwybr cyfan neu fel rhoddion bach i gofio eich amser ar y llwybr.

Ble allwch chi eu prynu

Gallwch siopa’n ddiogel ac yn rhwydd ar ein siop ar-lein yn www.walescoastpathshop.co.uk Mae’n bosibl anfon nwyddau yn rhyngwladol hefyd.

Cadwch mewn cysylltiad

I ddysgu mwy am ddathliadau dengmlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru, ewch i:

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru