Diweddariad gwaith Twyni Byw o Niwbwrch

Ledled y wlad mae ein staff yn gweithio'n galed gan sicrhau bod amgylchedd Cymru yn ei gyflwr gorau posibl i gefnogi ein bywyd gwyllt a'n cynefinoedd i ffynnu.

Un tîm sydd â'r dasg o ofalu am gynefin twyni tywod gwerthfawr y genedl yw'r un y tu ôl i brosiect Twyni Byw. Yr uchelgais yw adfer dros 2,400 hectar o dwyni tywod, ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 safle ar wahân yng Nghymru - un ohonynt yw Tywyn a Choedwig Niwbwrch yn Ynys Môn.  

Darparodd Leigh Denyer, Swyddog Prosiect a Monitro Twyni Byw Gogledd, ddiweddariad ar y gwaith y llynedd.  Rydyn ni wedi ei wahodd yn ôl i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd dros fisoedd y gaeaf.   

Wrth i’r nosweithiau ddechrau ymestyn a’r gwanwyn yn dechrau blodeuo, gallwn edrych yn ôl gyda balchder ar dymor llwyddiannus a welodd dîm Twyni Byw yn cwblhau llwyth o waith yn Niwbwrch ac mewn mannau eraill ledled Cymru.

Mae Niwbwrch yn safle mor wych. Mae'r twyni, y corsydd arfordirol, a’r glannau tywodlyd a chreigiog wedi cael eu siapio dros filoedd o flynyddoedd gan y gwynt a'r môr. Maent hefyd yn gartref i amrywiaeth anhygoel o blanhigion ac anifeiliaid - o degeirianau prin, llysiau'r afu a chennau i ystod o infertebratau arbenigol.

Y gaeaf hwn roedd gennym nifer o dasgau i'w cwblhau i helpu i roi hwb i'r twyni a llennyrch coedwig agored yn Niwbwrch. Roedd hyn yn cynnwys torri gwair, tynnu prysgwydd a chael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol.

Yn ddiweddar, gorffennodd un o'n contractwyr, Gwalch Cyf, eu gwaith gaeaf ar Dwyni Penrhos yn Niwbwrch. Maent wedi bod yn clirio ardaloedd o farf yr hen ŵr gan hefyd gael gwared ar brysgwydd estron goresgynnol ar ffin Afon Cefni yng Nghoedwig Niwbwrch. Bydd hyn yn caniatáu i adfywiad prysgwydd helyg a gwern brodorol greu trawsnewidiad naturiol o gynefin agored i goetir.

Cwblhawyd gwaith pwysig i gael gwared â phrysgwydd ym Mhyllau Ffrydiau a llennyrch y Gull Slack (sef un o’r llaciau yn y goedwig ger Twyni Penrhos), gan gynnwys tynnu darn o fambŵ goresgynnol, sy'n rhywogaeth estron. Bydd y gwaith hwn yn creu mwy o le i blanhigion brodorol sy'n tyfu'n isel ffynnu, gan gynnwys tafolen y traeth sydd mewn perygl.

Rydym newydd dechrau gweithio i grafu tua 0.36 ha yn Gull Slack, i gael gwared ar lystyfiant sydd wedi gordyfu, creu tywod noeth a sicrhau amodau llaith. Bydd hyn yn creu cynefin pellach i blanhigion ac infertebratau brodorol prin fyw ynddo.

Efallai y bydd y gwaith i grafu yn swnio ac yn edrych yn eithafol i ddechrau. Fodd bynnag, mae'r gwaith yn hanfodol i helpu i ail-greu cynefin tywod noeth sydd wedi bod yn diflannu o'n harfordiroedd yn raddol dros y blynyddoedd.

Er bod Covid-19 wedi oedi ein digwyddiadau a theithiau cerdded tywysedig a gynlluniwyd dros y 12 mis diwethaf, parhaodd ein tîm i rannu diweddariadau a newyddion trwy ein llwyfannau digidol. Rydym wedi bod yn hysbysu cynulleidfaoedd lleol am ein gwaith trwy ystod o sianeli cyfathrebu, gan gynnwys blogiau, diweddariadau mewn cylchlythyrau a chynnwys cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â hysbysu'r cyngor cymuned lleol a grwpiau partneriaeth natur leol yn uniongyrchol.

Pan fydd cyfyngiadau Covid yn caniatáu, edrychwn ymlaen at ail-afael yn ein rhaglen teithiau cerdded tywysedig ac at ymgysylltu'n bersonol â'r rheini ohonoch sy'n dymuno dysgu mwy am ein gwaith yn Niwbwrch, yn ogystal â'r naw safle arall lle mae Twyni Byw wrthi'n ymgymryd â'i weithgareddau cadwraeth ar hyn o bryd. 

Cadwch lygad ar ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol lle byddwn yn parhau i bostio diweddariadau rheolaidd. Ewch i @TwyniByw ar Twitter, Instagram a Facebook neu trwy chwiliwch am Sands of LIFE.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein gwaith, mae croeso i chi gysylltu â mi yn uniongyrchol trwy anfon e-bost at Leigh.Denyer@CyfoethNaturiolCymru.gov.uk. Ar hyn o bryd rydw i allan ar y safle y rhan fwyaf o’r amser yn goruchwylio contractwyr ac yn sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud yn ôl y cynllun ond byddaf yn ceisio ymateb cyn gynted â phosibl.

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru