Pam na allwch golli Cynhadledd MineXchange eleni os ydych yn gweithio ym maes adfer mwyngloddiau yng Nghymru

Cynhadledd ddeuddydd yw MineXchange sy’n datblygu cysylltiadau rhwng pobl sy’n gweithio ym maes adfer mwyngloddiau yng Nghymru. Bydd yn cael ei gynnal ar 27 a 28 Chwefror 2023.

Rydym yn awyddus i helpu pobl o’r byd academaidd, o ddiwydiannau ac o’r sector cyhoeddus i lunio cysylltiadau newydd ac i gefnogi arloesedd drwy rannu gwybodaeth a phrofiadau. Bydd y gynhadledd hefyd yn edrych ar gyfleoedd i fasnacheiddio amgylcheddau mwyngloddiau sydd wedi’u difrodi.

Dw i wrth fy modd ein bod yn gallu cyfarfod unwaith eto a bwrw ymlaen â’r datblygiadau ym maes adfer mwyngloddiau yng Nghymru. Y gynhadledd hon – sy’n cael ei threfnu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda’r Awdurdod Glo – yw’r lle i ddod i ddysgu am ddatblygiadau mewn adfer mwyngloddiau a’r dulliau a’r dechnoleg diweddaraf.

Bwriadom gynnal y gynhadledd yn mis Medi 2022. Dyma fyddai wedi bod y tro cyntaf i'r gynhadledd gael ei chynnal ers 2019. Tra mai Covid-19 oedd wedi stopio'r gynhadledd fynd yn ei blaen tan 2022, fe ohiriwyd cynhadledd 2022 fel arwydd o barch yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II.

Bydd y diwrnod yn cynnwys amrywiaeth o gyflwyniadau ac astudiaethau achos gan arbenigwyr yn y maes, o ddiwydiannau, y sector cyhoeddus a’r byd academaidd.

Ar yr ail ddiwrnod – nad yw’n orfodol i bobl fynychu – trefnir taith dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Glo i Frongoch-Wemyss i weld y gwaith adweirio diweddaraf a wneir yn yr ardal. Bydd cludiant yn cael ei drefnu.

Mae cofrestru yn rhad ac am ddim ac yn ofynnol er mwyn mynychu.

Cofrestrwch i fynychu MineXchange 2023.

Gellir archebu llety yn uniongyrchol gyda Phrifysgol Aberystwyth drwy e-bostio https://bookaccommodation.aber.ac.uk/.

Rwy’n hynod o falch ein bod wedi llwyddo i drefnu siaradwyr o safon mor uchel a fydd yn cyflwyno eu gwaith ar ystod eang o bynciau. Ond peidiwch â chymryd fy ngair i, darllenwch drwy’r agenda isod – ac fe welwn ni chi yn Aberystwyth ym mis Chwefror!

 

Agenda

Diwrnod 1:

27 Chwefror 2023

9.00-9.30

 

Derbyniad a choffi

9.30-9.35

 

Cyflwyniad agoriadol gan y Cadeirydd (Bob Vaughan)

09.35-9.55

 

Diweddariad ar y Rhaglen Mwyngloddiau Metel yng Nghymru (Pete Stanley, CNC)

9.55-10.15

Profion olrhain o fewn amgylcheddau mwyngloddiau: Dulliau ansoddol a meintiol a ddefnyddir yng Ngwaith Plwm Parc

(Richard Cheal, WSP)

10.15-10.40

Rheoli Dŵr Wyneb Esgair Mwyn

(Lewis Wardle/James Cochrane, AECOM)

 

10:40-11:00

 

Ymchwil Dosrannu Ffynonellau Llygredd yn Nant y Mwyn (Aaron Todd, Prifysgol Abertawe)

11.05-11.35

 

Egwyl Te a Choffi

11.35- 12.15

Prif siaradwr: Canlyniadau sy’n dod i’r amlwg o Brosiect METAL SoLVER - SMARTEXpertise

(Yr Athro Devin Sapsford, Prifysgol Caerdydd)

 

12.15-12.35

Treialon ar raddfa cynllun peilot i drin dŵr mwyngloddiau gan ddefnyddio Swbstrad Alcalïaidd Gwasgaredig – Canlyniadau maes o Fynydd Parys a Chwm Rheidol

(Dr Tobias Röetting, WSP)

 

12:35- 12:55

Ased neu risg? Pam y mae angen ffordd integredig o feddwl i gau mwyngloddiau yn gynaliadwy

(Steven Pearce : Mine Environmental Management)

 

13.00-14.00

 

Cinio [i’w ddilyn gan Beryglon Pyllau a Thomenni Glo – Cadeirydd y Prynhawn Carl Banton]

 

14.00-14:20

Rheoli Digwyddiad Tomen Lo Aberllechau

(Darren Bryant, Yr Awdurdod Glo)

 

14.20-14.40

Fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer diogelwch tomenni glo yng Nghymru

(Lori Frater, Llywodraeth Cymru)

 

14.40-15.00

Diogelwch Tomenni Glo – Safbwynt yr Awdurdod Lleol

(Roger Waters, Pennaeth Gwasanaeth : Rhondda Cynon Taf)

 

15.00-15.20

Technegau Synhwyro o Bell ar Domenni Glo yng Nghymru

(Darren Bryant, Yr Awdurdod Glo)

 

15.20-15.40

 

Egwyl Te a Choffi

15.40-16.00

 

Sut y gall pyllau glo segur Prydain gefnogi dyfodol carbon isel (Gareth Farr, Yr Awdurdod Glo)

16:00-16:20

Ecoleg ac Amrywiaeth Ffyngau’r Tipiau Glo

(Emma Williams, Coal Tip Fungi)

 

16:20-16:40

Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (CEIC) – Materion Dŵr a Datblygu Synwyryddion i helpu i leihau effeithiau sy’n llygru. (Dr Katie Beverley a Jill Davies, Prifysgol Metropolitan Caerdydd)

 

16:40- 17:00

Adweithyddion Gwely Gravel: triniaeth dŵr mwynglawdd metelegol cynaliadwy (James Rayner, Geosyntec Consultants Ltd)

19:30

 

Pryd gyda’r nos

Diwrnod 2:

 

28 Chwefror 2023

09.15 ~13.00

Taith maes i Frongoch-Wemyss i weld y gwaith adweirio diweddaraf a wneir yn yr ardal.

 

 

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru