Ewch allan i’r awyr agored ar Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd ar ddydd Sul 2 Chwefror 2020

Dathlwch Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd gydag Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eleni trwy ymweld â'ch gwlyptiroedd lleol.

Dethlir Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd ar 2 Chwefror bob blwyddyn, a’i nod yw codi ymwybyddiaeth yn fyd-eang o bwysigrwydd hanfodol gwlyptiroedd i bobl a’n planed. Ar 2 Chwefror 1971, mabwysiadwyd y Confensiwn ar Wlyptiroedd yn ninas Ramsar yn Iran. Heddiw, dynodir gwlyptiroedd pwysicaf y byd yn safleoedd Ramsar.

Pam mae gwlyptiroedd yn bwysig

Nid dim ond darparu cartref i fywyd gwyllt prin y mae gwlyptiroedd, ond llawer o’r pethau y mae cymdeithas yn dibynnu arnynt, sef dŵr glân, amddiffyniad rhag llifogydd, a storfa i garbon o’r atmosffer.

Mae gan wlyptiroedd ran allweddol i’w chwarae yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, ac mae’n hanfodol eu rheoli, oherwydd yn eu cyflwr gorau gallant ddal a storio cyfanswm enfawr o garbon a fyddai fel arall yn cael ei ryddhau i afonydd a’r atmosffer.

Gwlyptiroedd yng Nghymru

Mae Cymru yn gartref i sawl math o wlyptir, gan gynnwys: ffeniau, cyforgorsydd, corsydd pori, gwernydd, glaswelltiroedd corsiog ac wrth gwrs llynnoedd, pyllau ac afonydd.

Rydym yn rheoli llawer o wlyptiroedd Cymru ’ac mae nifer o’r safleoedd hyn yn safleoedd Ramsar ac yn Warchodfeydd Natur Genedlaethol.

Rydym yn rheoli 58 o warchodfeydd natur genedlaethol Cymru, innau yn rhannol neu mewn partneriaeth. Mae CNC hefyd yn gweithio’n agos gyda miloedd o berchnogion tir a sefydliadau eraill i adfer a chynnal llawer o wlyptiroedd ein cenedl.

Mwynhewch ymweld a’ch gwlyptir lleol

Mae ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol gwlyptir yn lleoedd gwych i ymweld â nhw a'u mwynhau, gydag amrywiaeth o fywyd gwyllt ac mae gan rai fynediad hawdd ar hyd llwybrau pren, er edrychwch ar y wefan cyn mynd rhag ofn. Beth am ymweld â safle ger chi:

De Cymru: Gwlyptiroedd Casnewydd

Yn ystod y gaeaf, mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn ferw o amrywiaeth o adar sy’n ymweld o hinsawdd oerach. Mae cwtieir, crehyrod a chrehyrod glas i’w gweld yn aml ar welyau cyrs y warchodfa. Mae’r hwyaden lygad aur brin, y dylluan glustiog, a’r cudyll bach hefyd yn ymweld â’r gwlyptiroedd. Mae rhwydwaith tri chilomedr o lwybrau o amgylch y gwelyau cyrs, sy’n hawdd eu cerdded ac sy’n addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac i gadeiriau gwthio. Dim ond ar y llwybr troed sy’n mynd ar hyd ochr allanol y gwelyau cyrs y caniateir cŵn. Mae llwybr beicio dynodedig.

Mae Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd, gan gynnwys Canolfan Addysg Amgylcheddol ac Ymwelwyr yr RSPB, ar agor bob dydd dros y gaeaf rhwng 9yb a 5yh. Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n berchen ar y warchodfa ac yn ei rheoli, ac mae CNC yn gweithio mewn partneriaeth ag RSPB Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd er budd bywyd gwyllt a phobl.

Cors Crymlyn a Phant y Sais - safle RAMSAR ers 8 Mehefin 1993

Pan fyddwch yn gyrru i mewn i Abertawe ar hyd Ffordd Fabian, sy’n ffordd brysur, ni wyddoch ddim am y rhyfeddod naturiol sy’n cuddio ychydig y tu hwnt i’r ffordd. Gan fod maes parcio wedi’i ddarparu, a llwybr â nodwyr arno sy’n agored i’r cyhoedd drwy’r flwyddyn, a chan fod y safle mor agos i’r ddinas, gall pobl leol fod ynghanol bywyd gwyllt mewn dim o amser. Edrychwch a welwch chi’r pryf cop brodorol mwyaf ym Mhrydain – sef pryf cop Dolomedes plantarius, sydd fel arfer yn eistedd ar ddeilen neu blanhigyn yn barod i neidio ar ysglyfaeth sy’n mynd heibio – dim ond ar dri safle ledled y DU y mae i’w gael. Mae’n haws gweld yr amrywiaeth eang o adar ac infertebratau.

Canolbarth Cymru: Cors Caron - safle RAMSAR ers 28 Medi 1992

Mae Cors Caron, sy’n cwmpasu ardal enfawr o dros 800 o hectarau a 6 km o ran hyd, yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a phlanhigion. Mae gan y warchodfa dair cyforgors – sef ardaloedd o fawn dwfn sydd wedi cronni dros y 12,000 o flynyddoedd diwethaf - ac mae’r rhain, yn eu tro, wedi’u hamgylchynu gan gymysgedd cymhleth ac unigryw o gynefinoedd.

Mae’r cuddfan adar yn un o’r lleoedd gorau i fwynhau adar yn y fan lle byddant yn bwyta dros y gaeaf. Mae’r safle yn denu 20,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Oherwydd y llwybrau pren (3.5 km) - sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn - y llwybrau ag wyneb caled (6 km), a thaith gerdded ar lan yr afon (7.5 km), mae antur yma i bawb ei mwynhau. Mae’r digonedd o bryfed yn ffynhonnell werthfawr o fwyd i adar a mamaliaid. Gellir gweld dyfrgwn, llygod pengrwn y dŵr, llygod y dŵr a ffwlbartiaid ar y warchodfa.

Gogledd Cymru: Prosiect LIFE Corsydd Môn a Llyn - safle RAMSAR ers 2 Chwefror 1998

Prosiect Corsydd Môn a Llŷn yw un o’r prosiectau mwyaf a mwyaf uchelgeisiol o’i fath yn Ewrop, ac mae’n cael ei ariannu gan brosiect LIFE yr UE. Mae’n cynnwys 11 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), y mae pedwar ohonynt hefyd yn Warchodfeydd Natur Genedlaethol - Cors Bodeilio, Cors Erddreiniog, Cors Geirch a Chors Goch.

Mae Prosiect LIFE Corsydd Môn a Llŷn wedi cyfuno prosiectau adfer gwlyptir mawr (tua 1,850 erw - sef maint 1,000 o gaeau pêl-droed) â gwella’r dull o gadw llifogydd, gwella ansawdd dŵr a sicrhau bod mwy o dir ar gael i’w bori. I ymweld â gwlyptir ger chi, ewch i’r wefan Pethau i’w gwneud

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru