Byddwch wrth eich bodd gyda'n porth data newydd

Efallai mai mis Chwefror yw mis rhamant, ond nid calonnau a blodau yw’r unig bethau sy’n bwysig gan fod yn rhaid i San Ffolant rannu'r sylw gydag Wythnos Caru Data.

Mae Wythnos Caru Data yn ddathliad rhyngwladol o ddata, ac mae’n cael ei chynnal bob blwyddyn yn ystod wythnos Dydd San Ffolant. Mae prifysgolion, sefydliadau dielw, asiantaethau'r llywodraeth, corfforaethau ac unigolion yn cael eu hannog i gynnal a chymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau sy'n ymwneud â data.  

Yma yn Cyfoeth Naturiol Cymru, rydym yn manteisio ar y cyfle i atgoffa pawb sy’n defnyddio ein data geo-ofodol fod gennym borth dosbarthu newydd - MapDataCymru, sydd wedi disodli Porth-Daear Lle.

Mae MapDataCymru yn darparu gwybodaeth ddaearyddol a gwasanaethau cysylltiedig ac yn cyflwyno gwybodaeth ac offer daearyddol gyda ffocws ar Gymru.

Gallwch gyrchu MapDataCymru yma https://datamap.gov.wales/

Mae CNC wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, a ddatblygodd MapDataCymru, i symud ein data i’r porth newydd i wella profiad cwsmeriaid i’n defnyddwyr, gan gynnwys:

  • Mae data geo-ofodol CNC ar gael mewn un lleoliad ochr yn ochr â ffynonellau eraill o ddata cyhoeddus.
  • Mae ein data wedi'i drefnu'n well ac yn haws dod o hyd iddo ac mae i’w gael mewn sawl fformat. Mae hefyd yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf.
  • Mae’r ffaith fod MapDataCymru yn defnyddio’r dechnoleg fodern ddiweddaraf yn golygu ei fod yn fwy hwylus i gwsmeriaid ac yn cynnig perfformiad mwy dibynadwy.
  • Gall cwsmeriaid weld a rhoi cynnig ar ddefnyddio’r data ar borth MapDataCymru, cyn penderfynu a ddylent lawrlwytho copi ai peidio.
  • Mae data CNC wedi’i arwyddo’n glir fel bo cwsmeriaid yn gwybod i ble y dylent anfon ymholiadau.
  • Mae'r data yn rhad ac am ddim.
  • Gellir ail-ddefnyddio ein data o dan y Drwydded Llywodraeth Agored felly gall cwsmeriaid gopïo, ailddosbarthu a chyhoeddi'r wybodaeth. Gellir defnyddio'r data yn fasnachol neu'n anfasnachol drwy gyfuno â chynhyrchion neu raglenni eraill.

Mae CNC hefyd yn rhyddhau sawl set ddata i gyd-fynd â’r newid swyddogol i MapDataCymru gan gynnwys mwy o ddata ecolegol, a mwy o ddata am ein hystad goedwig, ardaloedd draenio ac adnoddau dŵr.

Credwn y bydd y newid hwn i borth MapDataCymru yn welliant sylweddol i’r ffordd y caiff Data Agored CNC ei gyrchu a’i ddefnyddio, a byddem yn croesawu adborth gan ddefnyddwyr ar sut y maen nhw wedi defnyddio ein data er budd pobl ac amgylchedd Cymru drwy ei ymgorffori yn eu hoffer neu eu gwaith eu hunain.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau, gallwch gysylltu â ni yma opendata@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru