Gwasanaethau dadansoddol: Ar leoliad gyda #TîmCyfoeth

Cyn dechrau fy lleoliad Kickstart yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), roeddwn i newydd raddio o Brifysgol Abertawe gyda gradd mewn biocemeg feddygol, ac roeddwn i’n cael trafferth dod o hyd i swydd yn y maes yr oeddwn am weithio ynddo. Roedd yr holl adborth yr oeddwn yn ei gael ar ôl anfon ceisiadau am swyddi yn nodi bod angen mwy o brofiad arna i.

Yn y diwedd, fe wnes i gais am Gredyd Cynhwysol a ches i fy nghyflwyno i Gynllun Kickstart, sy'n helpu i ddarparu lleoliadau gwaith â thâl i bobl ifanc ledled Cymru.

Er nad oedd llawer o'r rolau'n briodol ar gyfer fy nghynlluniau cyflogaeth yn y dyfodol, roeddwn i’n ddigon ffodus i ddod ar draws un fel Cynorthwyydd Labordy yn CNC.

Denwyd fy sylw ar unwaith a ches i olwg ar ba fath o waith dadansoddol sy'n cael ei wneud yn labordy CNC, a gynyddodd fy niddordeb ymhellach. Fe anfonais i gais ar unwaith a chlywed yn ôl yn eithaf cyflym y byddwn yn cael cyfweliad, cyn mynd ymlaen i gael cynnig y lleoliad.

Ar ôl y broses e-sefydlu ac e-ddysgu, ces i fynd i labordy'r sylweddau anorganig, sydd wedi'i leoli yn Abertawe.

Yma, cefais ddysgu sawl proses ar gyfer dadansoddi samplau arferol (ardaloedd a archwilir yn rheolaidd) ac anarferol (samplau o ddigwyddiadau amgylcheddol) ar gyfer dadansoddion sy'n gyfansoddion sydd i’w cael yn naturiol mewn cyrsiau dŵr fel nitradau, ffosffadau a sylffadau, ynghyd â phrofion ar gyfer nodweddion ansawdd dŵr eraill fel pH, tyrfedd a lliw.


Yn y labordy maen nhw hefyd yn perfformio rhai o'r profion sondiau ansawdd dŵr, sef dargludedd, galw am ocsigen biolegol a galw am ocsigen cemegol. Roedd y cyfle i ddysgu amrywiaeth mor eang o ddulliau yn y labordy hwn yn brofiad gwych!

Cefais fy nghyflwyno hefyd i dderbynfa samplau Gwasanaeth Dadansoddi Cyfoeth Naturiol Cymru (NRWAS). Yma maen nhw’n trefnu ac yn cofrestru'r samplau i gronfa ddata STARlims y labordai sy'n cofrestru pa brofion sydd angen eu gwneud ar y sampl, cyn iddynt gael eu cymryd i'r labordy angenrheidiol.
Mae hefyd yn ganolbwynt ar gyfer darparu offer hanfodol a threfnu'r cludwyr ar gyfer y broses hon. Mae’r dderbynfa samplau’n hanfodol - heb gofrestru'r samplau hyn ni fyddai'r timau dadansoddol yn gallu parhau â gwaith dadansoddi a byddai'r broses yn llawer hirach.

Mae'r tîm hefyd yn gyfrifol am drwsio unrhyw broblem sy'n digwydd gyda'r samplau a dderbyniwyd drwy gyfathrebu â samplwyr, sy'n hanfodol o ran rhedeg y labordy’n esmwyth.

Un o fy hoff rannau o weithio yn CNC yw'r bobl rydw i wedi cael y cyfle i gwrdd â nhw. Mae pawb yn gweithio'n galed iawn, yn ymroddedig ac yn ddeallus, maen nhw i gyd wedi bod yn hynod gefnogol a chymwynasgar. Mae pawb yn hynod gyfeillgar a doniol ac mae’n bleser bod yn eu cwmni ac er bod y gwaith rydw i wedi bod yn ei wneud yn ddiddorol, nhw mewn gwirionedd sydd yn gwneud y swydd hon yn arbennig.

At ei gilydd, dwi wedi cael profiad anhygoel yn gweithio yn CNC a dwi’n gobeithio parhau yma. Os byddwch chi’n cael cyfle i weithio yma, allwn i ddim argymell y lle’n fwy brydfrydig.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru