'Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd CNC' i gael ei lansio ym mis Medi 2021

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn lansio ei bodlediad cyntaf ar 3 Medi.

Bydd y podlediad misol, o’r enw 'Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd CNC ', yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Gwener cyntaf pob mis a bydd yn canolbwyntio ar drafod gwaith CNC drwy lens ei aelodau staff ymroddedig a thalentog sy'n helpu i drwsio'r amgylchedd lleol lle mae angen, ac i'w ddiogelu lle mae'n arbennig.

Bydd y bennod gyntaf yn rhan gyntaf rhaglen dwy-ran arbennig a recordiwyd ym Mharth Cadwraeth Morol (PCM) Sgomer yn Sir Benfro lle siaradodd Phil Newman, Uwch Swyddog Asesu'r Amgylchedd Morol CNC, am ei yrfa a'r gwaith y mae ef a'r tîm yn ei wneud yn y PCM.

Llion Bevan yw'r Uwch Swyddog Cyfathrebu sydd wedi bod yn arwain y gwaith o lansio'r podlediad. Dywedodd:

"Mae cynllunio ac adeiladu'r podlediad hwn wedi cymryd llawer o waith, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ei lansio o'r diwedd. Mae gwaith CNC yn eang, felly fydd yna ddim prinder o bethau diddorol i'w rhannu â gwrandawyr.
"Mae peth dyfnder yn perthyn i’n gwaith hefyd, nad yw bob amser yn hawdd ei gyfleu mewn ffyrdd eraill, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol lle mae sylw pobl yn tueddu i fod braidd yn oriog!
"Dyna lle mae podledu’n gyfrwng arbennig. Mae'n gyfle gwych i wrando ar arbenigwyr yn eu maes a gadael iddyn nhw fynd i hwyl yn siarad am y pynciau sy’n tanio’u brwdfrydedd. Mae’r bennod gyntaf yn enghraifft berffaith; aethon ni i PCM Sgomer i recordio un bennod a dychwelyd gyda digon o gynnwys ar gyfer dwy!"

Yn ogystal â thrafod y nifer o elfennau diddorol sy’n rhan o waith CNC, bydd y podlediad hefyd yn ymchwilio i'r heriau sy'n ein hwynebu i gyd. O lifogydd a llygredd dinistriol i'r argyfyngau hinsawdd a natur rydyn ni i gyd yn eu hwynebu, bydd y pod yn caniatáu i CNC fanylu ar sut mae'n bwriadu wynebu'r heriau hyn.

Bydd y podlediad ar gael ar bob platfform mawr sy’n cynnig podlediadau gan gynnwys Apple Podcasts a Spotify.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru