Diweddariad am waith Twyni Byw ar dwyni’r De yn yr haf a’r hydref

Yn dilyn ein diweddariad am y gwaith sydd ar y gweill ar hyd arfordir Ardudwy, mae Swyddog Prosiect Twyni Byw yn y De, Laura Bowen, yn rhannu cynlluniau'r prosiect ar gyfer pum safle allweddol ar hyd arfordir y De.

Mae llawer o waith hanfodol i fod i ddechrau tuag at ddiwedd yr haf yng Nghynffig. Byddwn yn crafu ardaloedd o dwyni er mwyn ail-greu cynefin tywod moel hollbwysig sy'n cael ei golli ar raddfa frawychus. Byddwn hefyd yn creu llac twyni newydd mewn llecyn lle mae prysgwydd eisoes wedi’i glirio oddi yno. Bydd crafu’r twyni yn creu cynefin tywod moel llaith y mae planhigion fel Tegeirian y fign galchog (Lladin: Liparis loeselii) ei angen i ffynnu.

Draw yn Nhywyni Pen-bre, byddwn yn rheoli'r bwthor môr ymledol. Nid yw’r rhywogaeth hon yn frodorol i'n twyni tywod ac mae’n cymryd drosodd, ac yn cymryd lle y mae planhigion brodorol ei angen i oroesi. Felly, er gwaethaf y fflach fywiog o liw o'i aeron oren, mae’n bwysig ei reoli.

Yn Nhwyni Talacharn-Pentywyn byddwn yn parhau â'n gwaith clirio prysgwydd i gael gwared ar 3ha arall o ddraenen y môr a gosod 3 cilomedr o ffensys er mwyn galluogi'r gwartheg i bori ar fwy o'r twyni. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y twyni'n cael eu rheoli yn y tymor hir.

Byddwn yn torri gwair ar Dwyni Whiteford, Merthyr Mawr a Chynffig i helpu i gadw'r llystyfiant yn fyr.

Byddwn hefyd yn cynnal taith dywys yn yr hydref gyda SEWBReC, lle bydd Emma Williams yn dangos hyfrydwch yr hydref inni ar ffurf y ffwng a geir yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr. I gofrestru ar gyfer y daith, ewch i www.eventbrite.co.uk a chwilio am ‘Sands of LIFE’.

Nod holl waith Twyni Byw yw helpu i gadw cynefinoedd twyni tywod yn iach. Cadwch lygad ar ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol lle byddwn yn parhau i bostio diweddariadau am ein gwaith. Gallwch ddod o hyd inni ar @TwyniByw ar Twitter, Instagram a Facebook, neu drwy chwilio am ‘Sands of LIFE’.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein gwaith, mae croeso i chi gysylltu â mi yn uniongyrchol dros e-bost: Laura.Bowen@cyfoethnaturiolymru.gov.uk

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru