Statws sychder ar gyfer Cymru gyfan wedi misoedd o dywydd sych

Mae angen dybryd i baratoi ac addasu i effeithiau amgylcheddol ac effeithiau ehangach newid yn yr hinsawdd, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw (8 Medi) wrth iddo gadarnhau bod pob rhan o Gymru bellach wedi symud i statws sychder.

Gyda’r De Orllewin, y De Ddwyrain a rhannau o'r Canolbarth eisoes yn profi sychder, cyfarfu Grŵp Cyswllt Sychder Cymru heddiw i ystyried y data hydrolegol ac amgylcheddol diweddaraf ar gyfer Gogledd Cymru a’r effeithiau mae misoedd o dywydd sych wedi’u cael ar yr amgylchedd naturiol a phobl yr ardal. 

Er gwaethaf glaw trwm yn y Gogledd dros y dyddiau a'r wythnosau diwethaf, nid yw wedi bod yn ddigon i leddfu effeithiau'r cyfnod hir o dywydd sych dros y misoedd diwethaf. 

Mae swyddogion CNC wedi cymryd yr amser i ystyried effeithiau'r glaw ar ein dyfroedd a'r amgylchedd lleol ac mae yna bryderon sylweddol am yr ecosystemau a'r cynefinoedd, cyflenwadau dŵr, rheolaeth ar y tir ac amaethyddiaeth o gwmpas ardal y Gogledd Ddwyrain, ac yn arbennig dalgylchoedd Ynys Môn, Dyfrdwy a Chlwyd. 

Mae hyn wedi arwain at gasgliad heddiw gan uwch gynrychiolwyr o CNC, Llywodraeth Cymru, cwmnïau dŵr a grwpiau cynrychioliadol allweddol y dylai'r ardal symud o statws cyfnod hir o dywydd sych i statws sychder. 

Dywedodd Natalie Hall, sy’n Rheolwr Dŵr Cynaliadwy gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Ar ôl gwanwyn a haf sych, ac effaith y diffyg glaw dybryd dros gyfnod parhaus ar ein hamgylchedd naturiol, rydym wedi gwneud y penderfyniad i symud Cymru gyfan i statws sychder.
"Nid yw’r glawiad a brofwyd ledled y wlad dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn ddigon o bell ffordd i adfer lefelau afonydd, dŵr daear na chronfeydd dŵr. Bydd angen i ni weld glawiad parhaus neu lawiad uwch na'r cyfartaledd dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i weld unrhyw wahaniaeth amlwg. Os na chawn ni'r glawiad hwnnw, gallwn ddisgwyl i’r statws sychder barhau mewn llawer o ardaloedd.
"Er bod cyflenwadau dŵr hanfodol yn parhau i fod yn ddiogel, mae'r cyhoedd a busnesau ledled Cymru yn cael eu hannog i ddefnyddio dŵr yn ddoeth a rheoli'r adnodd gwerthfawr hwn ar hyn o bryd."

Rhwng mis Mawrth a mis Awst dim ond 56.7% o'r glawiad disgwyliedig gafodd Cymru – y cyfnod chwe mis sychaf ond dau ers dechrau cadw cofnodion ym 1865 (yn seiliedig ar ddata dros dro). Ym mis Awst yn unig, dim ond 38% o'i glawiad misol cyfartalog gafodd Cymru. Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cadarnhau mai'r haf hwn fydd yr wythfed cynhesaf yng Nghymru ers 1884. 

Mae'r cyfnod hir o dywydd sych wedi arwain at lifoedd eithriadol o isel mewn afonydd, lefelau dŵr daear isel a gostyngiad yn lefelau cronfeydd dŵr ar draws y wlad, gyda'r rhan fwyaf yn is na'r cyfartaledd ar gyfer yr adeg benodol o'r flwyddyn. Mae Cymru hefyd wedi gweld tymheredd uwch yn ei dyfroedd ac ar y tir na'r disgwyl ar gyfer yr adeg yma o'r flwyddyn.

Mae'r amodau hyn wedi gwaethygu'r pwysau ar ein tir, ein cynefinoedd, ein rhywogaethau, ein bywyd gwyllt a chyflenwadau dŵr dros yr wythnosau diwethaf, gan arwain at ddatgan sychder 'swyddogol' ledled Cymru am y tro cyntaf ers 2005-2006*.

Er y byddai digon o law dros fisoedd yr hydref a'r gaeaf o fudd mawr o ran adfer lefelau afonydd, llynnoedd, dŵr daear a chronfeydd dŵr i’w lefelau arferol erbyn y gwanwyn, bydd CNC yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, cwmnïau dŵr a’r rhai sy’n tynnu dŵr i sicrhau bod anghenion defnyddwyr dŵr a'r amgylchedd yn cael eu bodloni flwyddyn nesaf pe bai’r hydref neu’r gaeaf yn sych.

Mae CNC wedi bod yn gweithio'n agos ag Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr mewn perthynas ag effeithiau trawsffiniol ar yr amgylchedd, adnoddau dŵr a mordwyo ac i roi ystyriaeth ofalus i unrhyw ddatganiadau yn ymwneud â sychder mewn ardaloedd sy'n rhychwantu'r ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Bydd CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn cadw'r meysydd hyn dan oruchwyliaeth fanwl ac yn trafod a chytuno ar unrhyw gamau sydd angen eu cymryd ar gyfer y dalgylchoedd hyn.

Dros y misoedd nesaf, bydd CNC hefyd yn cynnal, a lle bo angen, yn dwysáu ei waith i reoli effeithiau sychder a helpu i gydbwyso anghenion defnyddwyr dŵr a'r amgylchedd ar draws Cymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • Gweithio gyda chwmnïau dŵr i sicrhau eu bod yn cymryd camau yn unol â'u cynlluniau sychder statudol, a'u bod yn gweithio i leihau faint o ddŵr sy’n cael ei golli drwy gynyddu gwaith i drwsio gollyngiadau, lleihau’r galw mewn cartrefi a pharatoi ar gyfer mesurau sychder eraill yn ôl y galw.
  • Monitro llifoedd afonydd, lefelau dŵr daear, pysgodfeydd ac ecoleg a chynyddu nifer yr archwiliadau mewn lleoliadau pwysig.
  • Sicrhau bod cynlluniau rheoleiddio yn weithredol i gefnogi tynnu dŵr ac ystyried gollyngiadau neu fesurau sychder eraill ar gyfer yr amgylchedd
  • Sicrhau bod tynwyr dŵr yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded; mae llawer o’r amodau hyn yn cyfyngu ar faint y gellir ei gymryd yn ystod cyfnodau o lif isel.
  • Ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol a chymryd y camau gorfodi priodol yn ôl y galw.
  • Darparu cyngor ac arweiniad megis cyngor ar dywydd sych i ffermwyr.

Ychwnegodd Natalie Hall:

"Mae pob achos o sychder yn wahanol o ran ei derfynau daearyddol, ei ddifrifoldeb a'i effaith.  O'r herwydd, mae'n anodd rhagweld pryd y byddwn yn gweld yr amgylchedd, ein cyflenwadau dŵr a'r sector amaethyddol yn dechrau adfer.
"Mae effaith newid yn yr hinsawdd a'r tebygolrwydd y byddwn yn profi tywydd garw yn amlach yn rhoi her fwy byth i bob rhan o gymdeithas. Wrth i ni barhau i reoli effeithiau amgylcheddol y sychder hwn, byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn cynnal a dwysáu ein hymdrechion ein hunain hefyd ac yn gweithio gyda phartneriaid i wneud yn siŵr bod Cymru yn y sefyllfa gryfaf posib i reoli unrhyw risg o sychder yn 2023 a thu hwnt."

Mae CNC yn annog unrhyw un i adrodd am ddigwyddiadau amgylcheddol i'w linell ddigwyddiadau 24 awr ar 0300 065 3000, neu drwy wefan CNC. I gael y newyddion diweddaraf am ymateb CNC i'r sychder, darllenwch ein blog.  I gael gwybod am ffyrdd o arbed dŵr, ewch i wefan Dŵr Cymru. Os ydych mewn ardal sy’n profi effeithiau sychder, dilynwch gyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ar sut i wneud yn siŵr eich bod yn yfed digon.