Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian i gynnal Ffair Bwyd a Chrefft Mynyddoedd Cambria

Dyn a phlant ar bwys golygfa

Bydd ffair yn arddangos y bwyd, y ddiod a'r crefftau gorau sydd gan Fynyddoedd y Cambria i'w gynnig yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian ddydd Sadwrn 22 Hydref.

Mae'r ffair yn cael ei threfnu ar y cyd gan Fenter Mynyddoedd Cambria a'r Ganolfan Ymwelwyr a redir gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Dywedodd Neil Stoddart, Rheolwr Gweithrediadau CNC: "Rydym yn gyffrous iawn i gynnal y ffair fwyd, diod a chrefft ym Mwlch Nant yr Arian.

"Mae llefydd prydferth fel Bwlch Nant yr Arian yn denu pobl i'r ardal ac yn rhoi llefydd i bobl leol ymweld â byd natur a'u mwynhau. Rydyn ni am sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i gefnogi busnesau lleol ac mae cynnal mwy na dwsin am y diwrnod yn un ffordd y gallwn wneud hynny.

"Mae digwyddiadau fel hyn yn dod â phobl at ei gilydd, yn cefnogi'r economi wledig ac mae'n annog pawb i werthfawrogi'r amgylchedd hardd sydd gennym ar ein stepen drws yn y Canolbarth.

"Dewch draw i weld beth sydd ar gael ac arhoswch i weld y barcutiaid coch yn cael eu bwydo ger y llyn am 3pm."

Dywedodd Dafydd Wyn Morgan o Fentrau Mynyddoedd Cambria: "Mae Bwlch Nant Yr Arian yn ganolfan wych i gynnal ffair cynnyrch lleol. Mae'r cynhyrchwyr yn gyffrous i allu gwerthu eu cynnyrch yma."

Bydd y ffair yn agor am 10am ddydd Sadwrn 22 Hydref ac yn cau am 4 o'r gloch.