Annog cymunedau i helpu llywio dyfodol Parc Coedwig Afan

Cerddwyr ym Mharc Coedwig Afan

Estynnir gwahoddiad i gymunedau, busnesau ac ymwelwyr sydd â diddordeb yn natblygiad Parc Coedwig Afan, Port Talbot, i roi eu barn er mwyn llywio ei ddyfodol.

Mae rheolwyr y goedwig – Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chyngor Castell-nedd Port Talbot – wedi lansio ymgynghoriad i ddarganfod beth fyddai pobl yn hoffi ei weld yn cael ei wella a’i ddatblygu ar y safle.

Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad yn helpu i lunio ‘uwchgynllun’ sy’n cael ei ddrafftio i roi sylfaen i ddatblygiad Cwm Afan fel cyrchfan i ymwelwyr yn y dyfodol.

Mae ymgynghoriad cychwynnol eisoes wedi cael ei gwblhau gyda’r sector twristiaeth.

Y themâu yn yr uwchgynllun drafft sydd angen adborth y cyhoedd ar hyn o bryd yw:

  • Edrych ar gyfleoedd i wella cyfleusterau parcio presennol;
  • Datblygu mwy o lwybrau a chyfleusterau i deuluoedd;
  • Edrych ar bosibilrwydd adeiladu cyswllt newydd oddi ar y ffordd gyda Pharc Gwledig Margam;
  • Amlinellu gweithio’n effeithiol fel partneriaeth, a
  • Darparu gwell cyfleoedd i wirfoddolwyr a sicrhau bod Parc Coedwig Afan yn cael ei hyrwyddo’n effeithiol fel cyrchfan twristiaeth.

Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, ac yn ddibynnol ar gyllid, bydd yr uwchgynllun yn cael ei gyflawni trwy bartneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a phartneriaid twristiaeth lleol.

Meddai Dave Charlesworth, Uwch Swyddog Cyfoeth Naturiol sy’n gweithio ar Uwchgynllun Parc Coedwig Afan:

“Rwy’n annog pobl i ddweud eu dweud am ddyfodol Parc Coedwig Afan. Bydd eu barn a’u syniadau yn ein helpu i greu darlun o’r hyn sy’n bwysig i’r rhai sy’n defnyddio’r parc coedwig at ddibenion hamdden.
“Mae’n rhaid cydbwyso datblygiadau i gynnig hamdden Parc Coedwig Afan at y dyfodol gyda gofynion coedwig weithredol, a sicrhau bod natur a chadwraeth yn cael eu diogelu a’u meithrin.
“Bydd adborth gan bob sy’n ymweld â’r ardal yn rheolaidd yn ein helpu i wneud Parc Coedwig Afan yn ardal le gall pobl elwa’n sylweddol o safbwynt iechyd a lles am flynyddoedd i ddod.”

Mae’r ardal yn llawn hanes ac mae eisoes wedi profi trawsnewidiad dramatig o ardal lofaol ddiwydiannol i ardal goetir.

Mae Parc Coedwig Afan eisoes yn denu beicwyr mynydd o bob cwr o’r DU oherwydd ei rwydwaith eang o lwybrau. Mae buddsoddiad sylweddol wedi cael ei wneud yn y goedwig dros y blynyddoedd, yn enwedig wrth ail-agor y llwybr Skyline sy’n ymestyn dros 46km.

Mae hefyd yn safle hamdden poblogaidd sy’n cael ei ddefnyddio gan gymunedau lleol ar gyfer cerdded, rhedeg a marchogaeth. Ond mae rheolwyr y parc coedwig yn cytuno gyda busnesau lleol bod gan y goedwig lawer iawn mwy o botensial.

Meddai’r Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell nedd Port Talbot:

"Mae’n bwysig bod y gymuned leol ac ymwelwyr yn datgan eu barn er mwyn llywio dyfodol Parc Coedwig Afan. Bydd yr uwchgynllun newydd yn helpu’r Cyngor a Cyfoeth Naturiol Cymru i weithio mewn partneriaeth ac ar y cyd â rhanddeiliaid i sicrhau gwelliannau o fewn Cwm Afan."

Bydd yr ymgynghoriad ar-lein ar agor tan ddydd Llun 22 Awst: https://bit.ly/YmgynghoriadAfan

Bydd yr arolwg yn cymryd ychydig funudau i’w gwblhau ac mae opsiwn ar y diwedd i danysgrifio i glywed diweddariadau ar yr uwchgynllun.

I unrhyw un sy’n methu â chwblhau’r arolwg ar-lein, ffoniwch 0300 065 3000 i’w gwblhau dros y ffôn neu i ofyn am gopi caled.