Potsiwr cocos anghyfreithlon ar Aber Afon Dyfrdwy i dalu dros £4,000 am ei droseddau

Mae dyn o St Helens wedi’i gael yn euog yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug am droseddau potsio cocos, ac wedi cael gorchymyn i dalu dros £4,000 mewn dirwyon a chostau.

Cafodd Kevin Brennan ei erlyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi i batrolau a gwiriadau gan Swyddogion CNC ganfod ei fod wedi cynaeafu cocos yn anghyfreithlon yn Aber Afon Dyfrdwy hyd at gyfanswm o 1210kg, gyda gwerth o oddeutu £3,630 a £4,235. Cyflawnwyd y drosedd dros gyfnod o bedwar dyddiad ym mis Medi 2021.

Daeth Swyddog CNC yn ymwybodol yn y lle cyntaf wrth wirio dogfennau yn iard Kingfisher Seafoods, Drome Road, Glannau Dyfrdwy.

Cafodd Mr Brennan ei wahodd i fynychu cyfweliad ar 21 Tachwedd 2021, ac yn ystod y cyfweliad cyfaddefodd ei fod wedi cynaeafu Cocos Aber Afon Dyfrdwy yn anghyfreithlon ar bob un o’r pedwar achlysur. Yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ddydd Mawrth 24 Mai, plediodd Mr Brennan yn euog i’r pedwar cyhuddiad o bysgota am bysgod cregyn, sef Cocos, heb drwydded, yn groes i Adran 3(3) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967.

Dywedodd David Powell, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y Gogledd Ddwyrain:

“Mae’r ymchwiliad rhagweithiol hwn yn dangos yn glir sut y gall CNC, gan weithio ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru, erlyn unigolion sy’n gweithredu’n anghyfreithlon. Gyda dirwyon a chostau dros £4,000 o bunnoed, mae neges glir wedi cael ei hanfon i unrhyw droseddwyr posibl sy’n cael eu dal yn cynaeafu cocos yn anghyfreithlon yn Aber Afon Dyfrdwy.
“Mae llawer o amser ac ymdrech yn cael ei roi i reoli stoc cocos Aber Afon Dyfrdwy, a chyfrifo faint sydd ar gael ar gyfer deiliaid trwydded ddilys. Mae cynaeafu anghyfreithlon yn effeithio’n uniongyrchol ar y Bysgodfa a’r rhai sy’n dibynnu ar ei chynaliadwyedd er mwyn gwneud bywoliaeth.
“Dyma ein hail achos o gorfodi llwyddiannus o ran casglu cocos ar Aber Afon Dyfrdwy, sydd unwaith eto’n amlygu’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan Swyddogion Gorfodi CNC ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru.”

Mae Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy yn bysgodfa sy’n cael ei rheoli gan CNC ac mae’n darparu incwm i 54 o ddeiliaid trwydded ac yn ffynhonnell fwyd werthfawr i adar a bywyd morol arall.

 

Llun: Richard Croft / Cregyn Cocos / CC BY-SA 2.0