Wyth yn pledio'n euog i gyhuddiadau pysgota anghyfreithlon wedi potsio am 20 mlynedd ar Afon Teifi

Plediodd wyth dyn a fu’n rhan o drefniant potsio yn lledu 20 mlynedd yn yr Afon Teifi wedi yn euog i gyhuddiadau pysgota anghyfreithlon yn Llys Ynadon Hwlffordd ar 4 Ebrill.

Deilliodd yr ymchwiliad, a gynhaliwyd gan swyddogion gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o drosedd potsio difrifol a gynhaliwyd ym mis Mai 2020. Fe wnaeth gwaith ymchwilio pellach ddod â’r troseddu ehangach i’r amlwg.

Cafodd yr ymchwiliad ei sbarduno ar ôl i swyddogion gorfodi CNC batrolio rhan o’r Afon Teifi ger Cenarth a chanfod bod rhwyd giliau wedi'i gosod yn anghyfreithlon yn yr afon. Penderfynwyd monitro'r ardal dros nos.

Am 5am y bore wedyn, gwelwyd rhywun yn gwisgo dillad tywyll yn tynnu'r rhwyd yn ôl. Roedd y person yma - Emlyn Rees – yn adnabyddus i'r swyddogion gorfodi gan roedd ganddo thri euogfarn flaenorol am droseddau pysgota anghyfreithlon.

Er iddo ffoi drwy neidio i mewn i'r afon, cafodd ei arestio'n ddiweddarach, a chwiliwyd ei gartref. Canlyniad y chwiliad oedd y sail ar gyfer gweddill yr ymchwiliad thrwy hynny adnabyddwyd ei gyd-ddiffynyddion.

Meddai Gavin Bown, Pennaeth Lle CNC ar gyfer Canolbarth Cymru:
"Ni ellir tanbrisio effaith y gwaith pysgota anghyfreithlon hwn ar yr Afon Teifi, cyrsiau dŵr eraill a dyfroedd arfordirol.
"Mae'r diffynyddion hyn wedi achosi niwed ofnadwy i'r stociau o eogiaid a sewin ac wedi amharu'n ddifrifol ar ragolygon stociau'r rhywogaethau eiconig hyn yn y dyfodol. Mae eu gweithredoedd yn negyddu'r canlyniadau a'r manteision a fyddai fel arall yn deillio o fuddsoddiad gan ddefnyddwyr afonydd cyfrifol ac o arian cyhoeddus.
"Hoffwn ddiolch i'n tîm ymroddedig o swyddogion gorfodi am eu hymchwiliad manwl a ddaeth â throseddu syfrdanol i’r amlwg. Hoffwn ddiolch hefyd i'n tîm cyfreithiol am ddod â'r diffynyddion gerbron llys. Mae'r canlyniad yn y Llys Ynadon yn ganlyniad i bron i ddwy flynedd o waith caled.
"Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i'n cydweithwyr yn Heddlu Dyfed Powys am eu cefnogaeth ac i aelodau o gymdeithasau pysgota lleol a ddarparodd ddatganiadau effaith ar ddioddefwyr a helpodd ein hachos yn fawr."

Plediodd yr wyth yn euog. Emlyn Rees ydynt o 5 Dan y Graig, Cenarth; Colin Gentle o Nantperchellan, Penbryn; Matthew Phillips o Tŷ Ni, Adpar; Carl Rago o Benffynnon, Cilgerran; Dafydd Rees o 6 Williams Terrace, Aberteifi; Ashley Davies o 8 Ger y Meini, Aberteifi; Nathan Pearson o Moorgate Farm, Kelbrook; ac Andrew Lewer o 11 Pendre, Aberteifi.

Cafodd Gentle, Phillips, Rago a Dafydd Rees orchymyn i dalu dirwy, gordal dioddefwr a chostau CNC gwerth cyfanswm o £8,370, £4,516, £2,916, a £4,808 yn y drefn honno.

Plediodd Davies, Pearson a Lewer yn euog i gyhuddiadau llai a rhoddwyd rhybuddion ffurfiol i bob un ohonynt.

Cafodd achos Emlyn Rees, prif amddiffynnydd, ac arweinydd y grŵp, ei gyfeirio i Lys y Goron gyda'r bwriad o fynd ar drywydd cais Deddf Enillion Troseddau. Mae'r gwrandawiad wedi'i bennu ar gyfer 19 Ebrill 2022.