Planhigion sy’n hoff o fetelau trwm yn bwrw gwraidd mewn cynefinoedd newydd

Mae gwaith i ail-greu cynefin newydd i helpu i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn rhywogaethau prin sy’n hoff o fetel wedi’i gwblhau’n llwyddiannus gan dîm Amgylchedd Conwy Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cynhaliwyd y gwaith ar ddwy Uned yn Ardal Cadwraeth Arbennig Coedwig Gwydyr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri sy'n gartref i boblogaethau cenedlaethol bwysig o blanhigion metaloffytaidd fel Mwsogl y Plwm (Ditrichum plumbicola) a Chodywasg y Mwynfeydd (Noccaea caerulescens).

Meddai Caroline Bateson, sy’n swyddog Natura 2000 ar gyfer CNC:

“Mae Mwsogl y Plwm a Chodywasg y Mwynfeydd yn blanhigion Metaloffytaidd sydd angen lefelau uchel o fetelau trwm yn y pridd i fodoli.
"Mae'r ddwy rywogaeth yma yn dirywio oherwydd bod prysgwydd wedi ymledu ym mhob man oni bai am yr ardaloedd mwyaf gwenwynig. I fynd i'r afael â hyn, rydym wedi cloddio  crafiadau â llaw i greu cynefinoedd newydd.
"Mae cloddio crafiadau yn ddull profedig o roi hwb cychwynnol i adferiad y planhigion prin hyn ac mae wedi digwydd ar hen safleoedd mwyngloddio tebyg yng Nghernyw."

Mae conwydd ac eithin ymledol eisoes wedi’u tynnu o’r ddwy ardal yma yng Ngwydyr – mwynglawdd Hafna a mwynglawdd Cyffty – gan waith a ariennir gan y Cronfeydd Bioamrywiaeth ar gyfer Gwydnwch Ecosystemau.

Ychwanegodd Caroline:

"Mae mynd i'r afael â rheoli unedau ACA yn brosiect hirdymor ac rydym yn gweithio'n agos gyda Thîm Rheoli Tir CNC i geisio taclo tri safle'r flwyddyn. Bydd yn hynod ddiddorol gweld pa rywogaethau fydd yn dechrau tyfu ar y crafiadau hyn."