Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II

Mae Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, Clare Pillman wedi mynegi ei thristwch yn dilyn y newyddion am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.

“Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines.
"Mae ei theyrnasiad wedi bod yn un hynod – gan ymroi i wasanaethu’r Gymanwlad a'i phobl ac i'w gwaith noddi helaeth a’i helusennau niferus, yr oedd llawer ohonynt yn canolbwyntio ar ddiogelu bywyd gwyllt a'r amgylchedd.
"Wrth i ni fyfyrio ar ei bywyd hir a nodedig, rydym yn diolch am ei gwasanaeth ffyddlon a diflino a fydd yn parhau i fod yn ysbrydoliaeth i ni i gyd. Cydymdeimlwn yn fawr â'r Teulu Brenhinol ar yr adeg anodd hon."

Yn dilyn y newyddion am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, bydd ein canolfannau ymwelwyr ar gau Dydd Gwener 9 Medi.