Arestio dyn ar sail pysgota anghyfreithlon yn nyffryn Teifi

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i swyddogion troseddau amgylcheddol o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sylwi ar rwyd anghyfreithlon mewn afon yn y Canolbarth

Roedd y swyddogion yn cynnal patrôl arferol o Afon Teifi ddydd Iau 14 Mai pan ddaethant ar draws rhwyd yn y dŵr.

Yn dilyn ymchwiliad a gynhaliwyd ar y cyd â Heddlu Dyfed Powys, arestiwyd dyn ar sail amheuaeth o fod wedi cyflawni troseddau pysgodfeydd anghyfreithlon yn nyffryn Teifi.

Yn y lleoliad o dan sylw, casglodd swyddogion y rhwyd, a oedd yn cynnwys saith brithyll y môr marw.

Dywedodd David Lee, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Gogledd a Chanolbarth Cymru CNC:

“Diolch i waith ardderchog ein swyddogion a Heddlu Dyfed Powys, gwnaethom lwyddo i atal rhagor o niwed i boblogaeth brithyllod y môr Afon Teifi.
“Rydym yn ystyried unrhyw weithgaredd sy’n bygwth brithyllod y môr ac eogiaid yn fater hynod ddifrifol ac mae hynny’n arbennig o wir am bysgota anghyfreithlon. 
“Gall rhwydi ddal nifer fawr o bysgod, ac o ystyried yr heriau presennol o ran niferoedd stociau mae pob brithyll y môr neu eog a gymerir yn ergyd arall i'n hymdrechion i ddiogelu'r pysgod eiconig hyn.”

Er gwaethaf y cyfyngiadau symud presennol oherwydd y coronafeirws, mae swyddogion CNC yn parhau i batrolio afonydd Cymru ac anogir pobl i wirio bod y pysgod y maent yn eu prynu'n lleol - yn enwedig drwy’r cyfryngau cymdeithasol - yn dod o ffynhonnell ddilys.

Os byddwch yn gweld unrhyw weithgarwch amheus neu anghyfreithlon ar ein hafonydd, cysylltwch â llinell gymorth ddigwyddiadau CNC: 0300 065 3000.