Dyn yn pledio’n euog i droseddau amgylcheddol yn Sir y Fflint

Mae dyn a fu’n gweithredu dau safle anghyfreithlon ar gyfer cerbydau ar ddiwedd eu hoes yn Sir y Fflint wedi cael gorchymyn i dalu costau o fwy na £6,000 ac wedi’i ddedfrydu i 20 wythnos o garchar wedi’i ohirio.

Ddydd Mawrth 19 Gorffennaf 2022, plediodd Mr Shane Dooley, 59 mlwydd oed o Birkenhead, yn euog i bedair trosedd amgylcheddol yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug. Cafodd hefyd ei atal rhag gyrru am ddwy flynedd.

Roedd hyn yn dilyn ymchwiliad gan Swyddogion  Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ym mis Gorffennaf 2020 lle canfuwyd 204 o gerbydau ar safle Ystâd Ddiwydiannol Castle Park, Y Fflint. Gwelwyd fod yr injan, olwynion a phaneli wedi cael eu tynnu o’r cerbydau a bod arwyddion clir o olew a llygryddion eraill ar lawr y safle. Nid oes gan Mr Dooley drwydded cludo gwastraff.

Yna ym mis Awst 2021, darganfu Swyddogion CNC fod Mr Dooley wedi bod yn gweithredu safle bron yr union yr un fath yn Sandycroft, Y Fflint. Roedd gan Mr Dooley 124 o geir mewn cyflwr anaddas ar gyfer y ffordd ar y safle hwn.

Darganfuwyd nad oedd gan Mr Dooley unrhyw drwyddedau amgylcheddol nag unrhyw esemptiadau gwastraff cofrestredig ar yr un o’r safleoedd, ac roedd yr olew a’r llygryddion eraill ar y llawr yn peri risg i’r amgylchedd.

Meddai Lyndsey Rawlinson, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Ddwyrain Cymru:

“Mae potensial i droseddau fel hyn ddifrodi ein cymunedau, effeithio’n andwyol ar ein hamgylchedd a’n bywyd gwyllt, gan achosi colledion o filiynau o bunnoedd i drethdalwyr, busnesau lleol a pherchnogion tir.
“Yn yr achos hwn, gwelsom fod Mr Dooley wedi bod yn gweithredu dau safle ar gyfer cerbydau ar ddiwedd eu hoes heb unrhyw drwyddedau amgylcheddol dilys. Pan fydd Swyddogion Gorfodi CNC yn darganfod gweithgarwch anghyfreithlon o’r fath, ni fyddant yn oedi cyn gweithredu.
“Hoffem ganmol gwaith pawb a arweiniodd at erlyniad llwyddiannus.”

Dylai unrhyw un sy’n amau gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn ei ardal roi gwybod i CNC drwy gysylltu â’r llinell ddigwyddiadau ar 0300 065 3000.