Erlyn dyn o Sir Fynwy am ddinistrio cynefin bywyd gwyllt gwerthfawr

Mewn ymgyrch ar y cyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Heddlu Gwent a Chyngor Sir Fynwy, mae dyn o Sir Fynwy wedi cael ei erlyn yn llwyddiannus am ddinistrio cynefin bywyd gwyllt gwerthfawr a oedd yn gartref i nifer o rywogaethau a warchodir.

Ymddangosodd Nathan Lewis o Landdinol, gerbron Ynadon Casnewydd ddydd Gwener 10 Mawrth wedi'i gyhuddo o dorri Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y'u diwygiwyd) ar safle ger Caer-went oddi ar yr A48 yn Sir Fynwy.

Ym mis Ionawr 2023, cloddiodd Mr Lewis y safle gan ddefnyddio peiriannau heb drwydded rhywogaethau perthnasol gan CNC na chaniatâd cynllunio gan Gyngor Sir Fynwy.

Mae’r ardal yn hysbys am fod yn safle bridio arwyddocaol ar gyfer nifer o rywogaethau a warchodir gan Ewrop, gan gynnwys pathewod, ystlumod, moch daear, madfallod dŵr cribog, nadroedd y gwair a nadroedd defaid yn ogystal â chymysgedd o fflora a ffawna prin.

Roedd Mr Lewis wedi derbyn adroddiad arolwg ecolegol manwl a gomisiynwyd yn ddiweddar fel rhan o'i uchelgais i ddatblygu’r safle ond dewisodd anwybyddu'r adroddiad.

Roedd y safle, sy'n ymestyn dros 10 erw, yn cynnwys nifer o rywogaethau a warchodir gan Ewrop a fflora a ffawna prin. Difrododd a dinistriodd Mr Lewis gynefin a oedd yn gyfanswm o 3 erw.

Ar ôl pledio'n euog yn y llys, gorchmynnodd yr Ynadon Mr Lewis i dalu £1,760 mewn dirwyon a chostau.



Dywedodd PC Mark Powell, sydd ar secondiad gyda thîm Rheoleiddio Diwydiant Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio’n llwyddiannus gyda heddluoedd ledled Cymru, Timau Bioamrywiaeth Awdurdodau Lleol a’r Uned Troseddau Bywyd Gwyllt Cenedlaethol i ymchwilio i droseddau, ac i erlyn y rhai sy’n gyfrifol am gyflawni troseddau cefn gwlad a throseddau yn erbyn bywyd gwyllt. Mae gweithio mewn partneriaeth yn fwy cynhyrchiol nag erioed.
Mae mor bwysig diogelu rhywogaethau brodorol a warchodir sydd eisoes yn lleihau, fel y pathewod a rhywogaethau pwysig eraill sydd mewn perygl, fel ystlumod, nadroedd defaid a nadroedd y gwair. Mae'r achos hwn yn peri pryder mawr oherwydd y ffaith bod y pathewod yn gaeafgysgu yn eu lle ar y pryd ac na fyddent wedi cael unrhyw ffordd o ddianc. Rydym yn croesawu’r ddedfryd a fydd, yn fy marn i, yn gwneud cryn dipyn i atal eraill rhag cyflawni troseddau yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd:

Ar adeg o argyfwng natur yng Nghymru, rydym yn falch o gefnogi Heddlu Gwent i gynnal deddfwriaeth rhywogaethau a warchodir drwy roi gwybod am droseddau, cefnogi swyddogion yr heddlu i gasglu tystiolaeth a darparu cyngor ecolegol ar y safle.

I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, cysylltwch â llinell gyfathrebu Digwyddiadau CNC sydd ar agor 24/7, ar 0300 065 3000.

I roi gwybod am drosedd amgylcheddol ffoniwch 101.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.