Cyfoeth Naturiol Cymru’n pennu fframwaith newydd ar gyfer contractwyr ac ymgynghorwyr am raglenni gwaith cyfalaf

Fframwaith y Genhedlaeth Nesaf

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penodi amrywiaeth o gontractwyr ac ymgynghorwyr i gyflawni nifer o gynlluniau cyfalaf yn y pedair blynedd nesaf, gan gynnwys rheoli perygl llifogydd a phrosiectau seilwaith mawr yng nghoedwigoedd Cymru.

Penodwyd pedwar o gontractwyr a dau o ymgynghorwyr i Fframwaith y Genhedlaeth Nesaf yn dilyn trefn gaffael ar gyfer rhaglen waith gwerth £65 miliwn.

William Hughes (Peirianneg Sifil) Cyf a Jones Bros Rhuthun (Peirianneg Sifil) Cyf a fydd yn ymgymryd â’r gwaith ledled y Gogledd, a Walters UK Cyf ac Alun Griffiths (Contractwyr) Cyf a fydd yn gweithio yn y De.

Penodwyd dau o ymgynghorwyr, Arup a Binnies UK (Black & Veatch, gynt), i weithio’n genedlaethol.

Drwy’r fframwaith hwn y bydd CNC yn cyflawni ei raglen rheoli perygl llifogydd, y rhaglen cydymffurfio â’r Ddeddf Cronfeydd Dŵr, uwchraddio’r rhwydwaith mesur llif, gwella llwybrau pysgod a chynlluniau seilwaith mawr ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru.

Creodd CNC y fframwaith i’w helpu i gyflawni ei amcanion er budd pobl a chymunedau Cymru a’r amgylchedd. Mae hynny’n cynnwys lleihau perygl llifogydd, rheoli adnoddau naturiol Cymru (y tir a’r dyfroedd), hyrwyddo amgylchedd Cymru mewn ffordd gynaliadwy, a hybu cadernid ac ansawdd ein hecosystemau.

Bydd CNC a’i bartneriaid yn y fframwaith yn ceisio defnyddio adnoddau naturiol mewn ffordd ac ar raddfa a fydd yn cynnal ac yn gwella cadernid ein hecosystemau a’r buddion y maent yn eu cynnig.

Meddai Gavin Jones, Rheolwr Fframwaith Ymgynghoriaeth Dylunio CNC:

“Mae’n gyffrous inni gychwyn ar bennod newydd o gyflawni prosiectau heriol ond gwerth chweil ymhob cwr o Gymru, gyda’n partneriaid newydd yn Fframwaith y Genhedlaeth Nesaf.
“Y Cynllun ar gyfer Adferiad Gwyrdd i Gymru yn sgil Covid-19 fydd wrth wraidd popeth a fydd yn digwydd drwy’r fframwaith, a byddwn yn gwneud gwaith pwysig dros gymunedau Cymru a’r amgylchedd.
“Rydym wedi llunio’r Fframwaith i fodloni anghenion pobl heddiw heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion eu hunain a chyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
“Bydd y rhaglen pedair blynedd yn canolbwyntio ar gynlluniau a fydd yn helpu i leihau’r perygl o lifogydd yng nghartrefi pobl o afonydd a’r môr, addasu ein hasedau er mwyn lliniaru ar effeithiau newid yn yr hinsawdd, gwella cynefinoedd afonydd Cymru, cadw’n cronfeydd dŵr yn ddiogel, cefnogi’r fasnach goed yng Nghymru a chynnig gwell ffyrdd i bobl gael mynediad i’n tir a’i ddefnyddio.”

Lluniwyd y fframwaith ar sail egwyddorion Project 13 Sefydliad y Peirianwyr Sifil, sy’n golygu y bydd CNC yn ceisio cyflawni gwell canlyniadau gan ganolbwyntio ar werth, a hynny drwy gydweithio â chadwyn gyflenwi fechan a chydgysylltiedig sy’n addas i’w anghenion o ran peirianneg sifil.

Bydd CNC yn cynnwys ei bartneriaid wrth gynllunio’r rhaglenni, er mwyn sicrhau llwyth gwaith rheolaidd a chysondeb o ran staff, fel y gallant weithio’n effeithiol a dysgu gwersi. Bydd yr holl gontractau yn rhai NEC, Pris Targed (Opsiwn C) fel bod CNC a’r partneriaid yn rhannu’r risgiau’n deg.

Dyfernir gwaith yn uniongyrchol drwy’r fframwaith i’r partneriaid bob yn ail, heb orfod mynd drwy broses dendro araf a chostus.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i gaffael gwasanaethau rheoli adeiladu ac archwilio daear i Fframwaith y Genhedlaeth Nesaf, a bwriedir penodi yn y gwanwyn.