Cytundeb newydd i warchod bywyd gwyllt prin twyni Cynffig

Mam a phlentyn yn sefyll ar twyni tywod Cynffig

Mae Ymddiriedolaeth Corfforaeth Cynffig a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi llofnodi cytundeb rheoli pum mlynedd i ddiogelu'r nifer o rywogaethau prin sydd i’w cael yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cynffig.

Mae'r warchodfa’n safle eithriadol o ran cadwraeth, gydag oddeutu 1,300 erw o dwyni tywod a gwlyptiroedd a reolir ar arfordir De Cymru rhwng Porthcawl a Phort Talbot.

Gellid dadlau ei bod yn cefnogi un o'r systemau twyni tywod pwysicaf yn y DU, gyda phoblogaeth sylweddol o degeirian y fign galchog, sy’n eithriadol o brin. Mae'r safle hefyd yn cynnwys dyfroedd clir Pwll Cynffig sy’n 70 erw o faint – dyma’r llyn naturiol mwyaf yn Ne Cymru.

Dychwelodd y gwaith o reoli'r safle i’r Ymddiriedolaeth ar ôl i brydles reoli Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddod i ben ym mis Ionawr 2020.

Mae’r Ymddiriedolaeth fel tirfeddianwr a CNC fel gwarchodwr tirwedd Cymru wedi bod yn gweithio'n agos i roi trefniadau ar waith i reoli'r safle gwarchodedig.

Mae'r cytundeb yn cynnwys gwaith i reoli sut mae da byw’n pori'r safle a rheoli llystyfiant er mwyn cynnal system twyni symudol – sy'n bwysig er mwyn i fywyd gwyllt prin y twyni allu ffynnu.

Meddai Michael Evans, Pennaeth Gweithrediadau Canol De Cymru gyda CNC:

"Cynffig yw un o'r enghreifftiau gorau o gynefin twyni tywod yn Ewrop. Mae'n gartref i lawer o fywyd gwyllt prin, a rhaid ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Mae gwaith anhygoel wedi bod yn digwydd yng Nghynffig i reoli'r nodweddion arbennig. Mae nifer tegeirianau’r fign galchog yn y warchodfa wedi codi o 200 i fwy na 4,000, sy'n brawf o'r holl waith caled a wnaed ar y safle dros nifer o flynyddoedd.

"Rwy'n falch iawn bod ein gwaith gyda'r Ymddiriedolaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi sicrhau bod gan warchodfa Cynffig yr adnoddau a'r gefnogaeth sydd eu hangen arni i ddiogelu ei chynefinoedd gwarchodedig a'i rhywogaethau prin, ac i bobl fwynhau’r safle."

Meddai Brian Davies ar ran yr Ymddiriedolaeth:

"Fel Ymddiriedolaeth, y cyfan y gofynnir i ni ei wneud yw gadael y warchodfa natur mewn cyflwr gwell o'r adeg y dechreuon ni.

"Ers i ni ddechrau gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ychydig flynyddoedd yn ôl, rydym wedi cyrraedd carreg filltir a fydd yn helpu i ddiogelu, gwella, hyrwyddo a diogelu'r safle.

"Mae'r cytundeb rheoli newydd hwn yn tanlinellu ein statws, yn cadw lle'r ydym fel gwarchodfa natur, ac yn diogelu gwelliannau parhaus yn ariannol.

"Mae gennym warden newydd a fydd yn rheoli'r gwaith ar y safle – gan weithio'n agos gyda CNC i helpu i ddiogelu a gwella ei nodweddion arbennig.

"Mae'n fraint ac yn anrhydedd i fod yn rhan o hynny, ac wrth lofnodi'r cytundeb hwn rydym yn gobeithio trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol yr hyn yr ydym yn ei goleddu heddiw."

Mae twyni'n naturiol yn symudol ac mae hyn yn hanfodol er mwyn cynnal y cynefinoedd agored sy'n gartref i gynifer o rywogaethau prin sydd dan fygythiad.

Rheolir GNG Cynffig i sicrhau nad yw'r twyni'n cael eu llethu gan laswelltir trwchus a choetir prysgwydd, sy'n eu sefydlogi. Byddai hyn yn arwain at golli llawer o fywyd gwyllt pwysig ac amrywiol y twyni.

Bydd prosiect Twyni Byw, dan arweiniad CNC, yn parhau â'i waith cadwraeth hanfodol yng Nghynffig i reoli'r llystyfiant sy'n tyfu'n gyflym er mwyn diogelu cynefin y tywod noeth.

Mae CNC a’r Ymddiriedolaeth hefyd wedi cytuno i godi ffens da byw newydd 5km o hyd wrth y warchodfa er mwyn caniatáu i 200 hectar ychwanegol o laswelltir gael ei bori'n gynaliadwy.

Mae pori'n helpu i reoli glaswellt bras, rhedyn a phrysgwydd, a gall anifeiliaid sy'n pori hefyd greu darnau bach o dir moel sy'n hanfodol i'r fflora a'r ffawna arbenigol sydd i’w cael ar y twyni.

Ar hyn o bryd mae rhan ogleddol y warchodfa yn cael ei phori ac mae'r cynefin bellach yn cynhyrchu mwy o blanhigion blodeuol.

Bydd digon o giatiau a chamfeydd ar hyd y ffens i alluogi pobl i fynd i mewn i'r twyni a cherdded yn rhydd o amgylch y comin.