Cwmni ailgylchu o Gasnewydd yn cael ei erlyn am adroddiadau ariannol anwir

delwedd o iard ailgylchu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi llwyddo i erlyn cwmni ailgylchu o Gasnewydd am fynd ati’n fwriadol i gyflwyno data anwir ar Gyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE) er budd ariannol, a methu â chydymffurfio â'i gymeradwyaeth fel Cyfleuster Trin Awdurdodedig (AATF).

Mae GLJ Recycling Ltd, sydd wedi'i leoli ar Safle Fferm y Capel yng Ngwent, yn AATF ac mae ganddo drwydded gan CNC i dderbyn a thrin gwastraff metel.

Gall AATF gyhoeddi a gwerthu tystiolaeth o unrhyw nwyddau trydanol y mae’n eu trin i Gynlluniau Cydymffurfio Cynhyrchwyr, fel y gall aelodau fodloni rhwymedigaethau cynhyrchwyr o dan reoliadau WEEE.

O dan amodau'r drwydded, caniatawyd i GLJ Recycling drin cyfarpar gwastraff trydanol, gan gynnwys offer domestig mawr a bach, yn amrywio o nwyddau gwyn y cartref, i dostwyr, tegellau a sugnwyr llwch.

Nododd archwiliadau cydymffurfio a gynhaliwyd gan swyddogion o CNC gofnodion anwir posibl, felly lansiwyd ymchwiliad llawn.

Canfu swyddogion fod Gareth Lyndon Jones, Perchennog a Chyfarwyddwr GLJ Recycling, a Colleen Andrews, Rheolwr AATF, wedi torri Rheoliadau WEEE ac wedi rhoi cofnodion ac adroddiadau anwir ar gyfer pwysau'r nwyddau trydanol a dderbyniwyd.

Roedd nwyddau trydanol gwastraff hefyd wedi'u categoreiddio'n anghywir, gyda'r rhan fwyaf o gyflenwyr yn cadarnhau na fyddai unrhyw wastraff electronig wedi'i anfon yn y metel sgrap i GLJ.

Canfu swyddogion hefyd nad oedd yn ffisegol bosibl i GLJ fod wedi trin y symiau o nwyddau electronig a ddatganwyd.

Yn wreiddiol, honnodd Mr Jones a Ms Andrews yn ystod y cyfweliad fod y gwastraff electronig yn dod i mewn gan gwmnïau, a bod aelodau staff eraill wedi dweud celwydd yn eu datganiadau i amddiffyn eu hunain.

Newidiodd y ddau eu cyfrif yn ddiweddarach a chyflwyno pledion euog, Ms Andrews i gyflwyno gwybodaeth anwir yn fwriadol a Mr Jones i gyflwyno gwybodaeth yn ddi-hid.

Wrth ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Casnewydd  yn gynharach heddiw (19 Gorffennaf ), rhoddodd y barnwr ddirwy o £72,000  i'r cwmni a gorchmynnodd iddo dalu costau CNC o £22, 294. 

Cafodd Colleen Andrews hefyd ddirwy o £2,400 a chafodd Gareth Jones ddirwy o £4,000 gan ddod â'r cyfanswm i £100,694. 

Meddai John Rock, Arweinydd Tîm ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:

Rydym yn rheoleiddio cwmnïau sydd wedi'u cymeradwyo i ailgylchu Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE) ac yn sicrhau bod y cwmnïau hyn yn ailgylchu'r WEEE y maent yn ei dderbyn yn briodol, ac yn adrodd data yn gywir, fel bod cwmnïau sy'n gwerthu nwyddau trydanol yn talu am yr ailgylchu pan fyddant yn dod yn wastraff.
Profodd ein hymchwiliadau fod GLJ Recycling wedi gwneud honiadau anwir am wastraff nad oedd wedi'i dderbyn ac felly gallent gael arian nad oedd ganddynt hawl iddo. Dylai'r arian hwn fod wedi mynd i ailgylchwyr a oedd yn ailgylchu gwastraff yn briodol er mwyn sicrhau y gellir adfer ac ailddefnyddio cymaint o ddeunyddiau â phosib i'n helpu i symud tuag at economi gylchol.
Mae'r ddirwy a roddwyd gan y barnwr heddiw yn adlewyrchu'r enillion ariannol y mae'r cwmni wedi'u gwneud a'r effaith ar system a gynlluniwyd i sicrhau ein bod yn ailgylchu ac yn ailddefnyddio nwyddau trydanol pan nad oes eu hangen mwyach. Dylai hyn anfon neges gref y bydd CNC yn cymryd y camau priodol yn erbyn y rhai sy'n credu y gallant ddiystyru'r rheolau.