Cyfoeth Naturiol Cymru yn dyfarnu grantiau i ariannu adferiad gwyrdd o’r pandemig

Family looking out from a hillside

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dyfarnu £1.2m mewn grantiau i gyrff amgylcheddol fel rhan o'i ymrwymiad i sicrhau adferiad gwyrdd o bandemig y coronafeirws,

Bydd yr arian yn cael ei ddyrannu i bum sefydliad sy'n gofalu am yr amgylchedd fel y gallant ailagor a gweithredu'r tir y maent yn ei reoli'n ddiogel wrth i gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu lleddfu.

Dyfarnwyd y grantiau i Goed Cadw, a fydd yn derbyn £267,762; yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (£229,367); Ymddiriedolaeth Natur (£481,740); RSPB (£194,379) a Plantlife (£26,752).

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Mewn ymateb i Covid-19, rydym wedi datblygu Grant Ariannu a Ddyrannwyd yn Strategol i gefnogi cysylltiad pobl â natur, drwy fynediad diogel i dir sy'n eiddo i ac sy'n cael ei reoli gan amrywiol sefydliadau anllywodraethol.
"Yn ystod y pandemig, mae natur wedi chwarae rhan ganolog wrth helpu i hybu iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol y genedl.
"Roedd y cyfyngiadau symud cysylltiedig hefyd yn golygu bod yn rhaid oedi rhywfaint o waith y sefydliadau amgylcheddol hyn dros dro. Gobeithiwn y bydd y chwistrelliad hwn o arian parod yn gwneud rhywfaint i'w galluogi i barhau â'u gwaith.
"Mae pobl wedi edrych ar natur i gefnogi eu lles yn y cyfnod anoddaf hwn, ac erbyn hyn mae'n bryd i ni helpu natur."

Mae'r cyhoeddiad wedi'i wneud fel rhan o uchelgais Cyfoeth Naturiol Cymru i roi cynlluniau’n ymwneud â’r hinsawdd wrth wraidd adferiad economaidd cynhwysol a chynaliadwy Cymru o'r pandemig.

Fel rhan o'r ymdrech honno, mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi gofyn i Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Syr David Henshaw, arwain clymblaid o arbenigwyr i ddatblygu syniadau sy'n cysylltu gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd â chreu swyddi, twf economaidd cynhwysol a theg, a blaenoriaethau datblygu eraill.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru wedi rhannu'r cyllid grant ac wedi cyfrannu £600,000 yr un.

Mae'r sector cyrff amgylcheddol anllywodraethol wedi croesawu'r grantiau. Dywedodd Rachel Sharp, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaethau Natur Cymru:

"Mae'r awyr agored wedi bod yn bwysig erioed ond wrth brofi cyfyngiadau symud roedd angen amser yn yr awyr agored arnom i gyd. I lawer ohonom, roedd hyn yn golygu amser i ailgysylltu â natur, wrth i bobl ddarganfod mannau gwyrdd lleol a'r natur sy'n byw yno.
"Mae dwy ran o dair ohonom yn byw o fewn tair milltir i dros 200 o warchodfeydd natur yr Ymddiriedolaethau Natur. Bydd yr arian hwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn galluogi'r safleoedd hyn i barhau i fod ar agor, yn groesawgar ac yn hygyrch i bawb eu mwynhau. "

Dywedodd Justin Albert, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:

"Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gael grant gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi adferiad gwyrdd y wlad. Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at angen pobl am natur a'r rôl rydym yn ei chwarae wrth ofalu am dirweddau ysblennydd yng Nghymru a chreu mynediad iddynt, er mwyn i bawb eu profi a’u mwynhau. 
"Bydd y grant hwn yn galluogi'r elusen i barhau ac i ehangu'r gwaith hanfodol hwn."

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gobeithio cefnogi cyrff amgylcheddol anllywodraethol eraill ledled Cymru fel rhan o'i fenter adfer gwyrdd. Mae arolwg wedi'i lansio i gael cipolwg ar sut mae Covid-19 wedi effeithio ar eu sefydliad a'r heriau y maent yn rhagweld y byddan yn mynd i'r afael â hwy yn y dyfodol. Gellir cwblhau'r arolwg drwy fynd i

https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/communications-cyfathrebu/engo-survey/?utm_source=Twitter&utm_medium=cymdeithasol&utm_campaign=SocialSignIn.

Bydd yn cau ar 21 Medi.

Ychwanegodd Clare Pillman:

"Fel rhan o'n gwaith i gefnogi adferiad gwyrdd Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn awyddus i gynorthwyo grwpiau amgylcheddol eraill llai. Rydym yn gofyn i'r sefydliadau hyn ein helpu i ddeall yn well effaith Covid-19 ar eu gwaith fel y gallwn eu helpu i ffynnu yn y dyfodol."