CNC yn brwydro i ddiogelu bywyd dyfrol yn Llyn Llangors ar ôl i algâu gwyrddlas dynnu ocsigen o ddŵr

Pwmp yn gweithio ar Lyn Llangors

Mae swyddogion CNC wedi bod yn gweithio dros nos ac i mewn i heddiw (22 Mehefin) mewn ymgais i wella lefelau ocsigen yn nyfroedd Llyn Llangors, ger Aberhonddu ar ôl i algâu gwyrddlas effeithio ar ei dyfroedd.

Mae algâu gwyrddlas yn ychwanegu ocsigen at y dŵr yn ystod y dydd ond yn ei ddefnyddio yn y nos. Gall hyn arwain at lefelau ocsigen peryglus o isel sy'n gallu mygu pysgod a chreaduriaid eraill ac mae oddeutu 10 o bysgod marw wedi'u cofnodi.

Mewn ymgais i ychwanegu ocsigen i'r dŵr, mae swyddogion CNC wedi gosod dau bwmp mewn safleoedd pwysig ar y llyn ei hun. Yn ogystal, mae Cyrten Swigod a fydd yn ychwanegu ocsigen i'r dŵr o wely'r llyn hefyd wedi'i roi ar waith.

Dywedodd Gillian Wells, Rheolwr Tactegol CNC ar ddyletswydd ar gyfer De Ddwyrain Cymru: "Rydym wedi bod yn bresenoldeb parhaus ger y llyn ers bore Llun ac rydym wedi gweithio drwy'r nos i ychwanegu ocsigen at y dŵr. Mae rota wedi'i rhoi ar waith i sicrhau bod y pympiau'n cael eu cynnal a'u cadw a'u staffio 24 awr y dydd.
"Mae'r trefniant hwn yn debygol o barhau am sawl diwrnod wrth i ni geisio sefydlogi'r sefyllfa. Mae ein hymateb yn cael ei lywio gan ein hasesiadau a'n monitro parhaus ac mae ein staff yn gweithio'n ddiflino i gefnogi'r bywyd dyfrol yn y llyn.
"Mae'n bwysig nad yw pobl yn mynd i mewn i'r dŵr nac yn caniatáu i'w cŵn yfed neu fynd i mewn i'r dŵr."