Coedwigwyr CNC yn dathlu llwyddiant mewn gwobrau coetir

Enillwyr y gwobrau yn sefyll gyda'i tystysgrifau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ennill wyth gwobr yn y Gystadleuaeth Coetiroedd yn Sioe Frenhinol Cymru 2022.

Gan gystadlu yn y seremoni ar 19 Gorffennaf yn erbyn coetiroedd cyhoeddus a phreifat ar draws De Ddwyrain Cymru, gwnaeth y gwaith gan dimau coedwigaeth CNC argraff ar feirniaid y gwobrau.

Ymwelodd y beirniaid â phob un o'r 22 o goetiroedd a gymerodd ran yn y gystadleuaeth. Ystyriwyd sut y mae'r coetiroedd wedi'u rheoli dros y deng mlynedd diwethaf ac roeddent yn falch o weld heriau amgylcheddol heddiw a’r dyfodol yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith o gynllunio a rheoli'r coetiroedd.

Enillodd Timau Gweithrediadau Coedwigoedd CNC y gwobrau canlynol:

Coetir a reolir orau dros 200 hectar

  • Medal aur i Goedwig Gethin ger Merthyr Tudful (Geraint Price)

Gwaith plannu neu ailstocio coed llydanddail dan 10 mlwydd oed

  • Medal aur i Goed Gwent, Sir Fynwy (Daryl Humber a Gavan Townley)
  • Medal arian i Goedwig Gethin (Geraint Price)

Coetir llydanddail dros 40 mlwydd oed

  • Medal arian i Fforest Fawr ger Caerdydd (Geraint Price)

Gwaith plannu neu ailstocio coed conwydd dan 10 mlwydd oed

  • Medal arian i Goedwig Gethin (Geraint Price)

Ardal a reolir o dan systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith sy'n helpu i gynyddu amrywiaeth rhywogaethau ac amrywiaeth strwythurol

  • Medal efydd i Goedwig Pen Parc ger Abercynon (Geraint Price)

Coetir cymunedol neu fynediad cyhoeddus gorau

  • Medal aur i Goedwig Gethin a BikePark Cymru (Geraint Price)

Enillydd y wobr arbennig (Cwpan Her Parhaol Meirion Davies ar gyfer y coetir cymunedol gorau)

  • Coedwig Gethin / BikePark Cymru (Geraint Price)

Mae Coedwig Gethin, enillydd pedair gwobr gan gynnwys y wobr arbennig am y coetir cymunedol neu fynediad cyhoeddus gorau, yn gorchuddio 857 hectar yng nghymoedd De Cymru ger Merthyr Tudful.

Mae'r goedwig yn cael ei rheoli i sicrhau nifer o fanteision, gyda chymysgedd o goed conwydd a rhywogaethau hynafol lled-naturiol, ac ardal sydd newydd ei sefydlu o sbriws Norwy a oedd yn dangos twf a stocio da oherwydd arferion rheoli da ym marn y beirniaid.

Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith diweddar o ailstocio Ystad Goetir Llywodraeth Cymru wedi digwydd o ganlyniad i gael gwared ar goed llarwydd heintiedig. Ond mae hyn wedi rhoi cyfle i CNC amrywio’r rhywogaethau a chynyddu bioamrywiaeth a gwydnwch coedwigoedd ar gyfer y dyfodol.

Mae Coedwig Gethin hefyd yn cynnwys dros 300 hectar, sydd ar brydles i BikePark Cymru ac ar hyn o bryd mae ganddi 42 o lwybrau beicio mynydd a chanolfan ymwelwyr fawr ac mae'n denu 500 o feicwyr bob dydd ar gyfartaledd.

Meddai Chris Rees, arweinydd tîm gweithrediadau coedwigoedd CNC:

"Mae gweld ein timau gweithrediadau coedwigoedd yn ennill cynifer o wobrau mewn sector mor gystadleuol yn dyst i'w gwaith caled, eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad wrth reoli ein coedwigoedd."
"Mae sylw o'r newydd ar goedwigaeth ar draws De Cymru a gall y sylw hwnnw fod yn negyddol weithiau.
"Rydym yn cydnabod pwysigrwydd coetiroedd a choed am eu budd amgylcheddol ac wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, ond hefyd am eu manteision cymdeithasol ac economaidd niferus.
"Rydym yn archwilio sut y gellir rheoli coetiroedd a choed yn well i ddarparu'r manteision sydd eu hangen fwyaf yn Ne Cymru, gan hefyd sicrhau bod coetiroedd yn gysylltiedig, yn iach ac yn amrywiol ac yn cynnal ecosystemau gwydn ar gyfer natur ac ar ein cyfer ni a chenedlaethau'r dyfodol."

Yr enillydd mawr arall oedd Coed Gwent yn Sir Fynwy ar gyfer plannu rhywogaethau llydanddail yn dilyn cwympo coed llarwydd heintiedig.

Coed Gwent yw'r ardal fwyaf o goetir hynafol yng Nghymru ac mae'n cael ei rheoli gan Coed Cadw a CNC.

Cafodd y rhan fwyaf o'r coed brodorol gwreiddiol yn yr ardal a reolir gan CNC eu cwympo yng nghanol yr ugeinfed ganrif i wneud lle i gonwydd sy'n tyfu'n gyflym er mwyn cynhyrchu pren.

Bwriad CNC yw adfer Coed Gwent yn goetir llydanddail brodorol a chreu cynefinoedd gwerthfawr i fywyd gwyllt.

Plannodd y tîm Gweithrediadau Coedwigoedd hanner gyda choed derw ar ddwysedd uchel (5000 o goed yr hectar) a'r hanner arall gydag amrywiaeth o rywogaethau llydanddail brodorol ar ddwysedd is (1600 o goed yr hectar).

Mae'r coed sydd newydd eu plannu yn cael eu gwarchod gan diwbiau bioddiraddiadwy, yn hytrach na phlastig, i atal anifeiliaid sy'n pori rhag bwyta'r coed.

I gael rhagor o wybodaeth am y goedwig a'r gwarchodfeydd natur y mae CNC yn eu rheoli, a sut i ymweld â nhw, ewch i naturalresources.wales/days-out