Swyddogion CNC ar batrôl yn dal potsiwr

Mae swyddogion troseddau amgylcheddol o Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dal dyn yn pysgota'n anghyfreithlon ar afon yng ngogledd Cymru.

Tra’r oedd swyddogion CNC yn patrolio Afon Wnion ger Dolgellau, daethant ar draws dyn oedd yn chwilio am eogiaid a sewin gyda magl llwynog anghyfreithlon.

Gellir defnyddio’r rhain i ddal pysgod yn anghyfreithlon.

Holodd y swyddogion y dyn dan rybudd cyn ei riportio am droseddau pysgodfeydd a chipio'r fagl.

Ni ddaliwyd unrhyw bysgod yn yr achos hwn.

Dywedodd Peter Lewis, Swyddog Troseddau Amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydym yn patrolio afonydd Cymru i ddiogelu ein sewin ac eog brodorol ac rydym yn cymryd unrhyw weithgaredd sy'n bygwth eu poblogaeth yn ddifrifol iawn.
“Mae hyd yn oed niferoedd bach o bysgod yn hanfodol i'r stociau pysgod a gall troseddau fel y rhain effeithio ar y poblogaethau am flynyddoedd i ddod. Gall hefyd effeithio ar y diwydiant pysgota sy'n werth miliynau o bunnoedd i economi Cymru bob blwyddyn.
“Os byddwch yn gweld unrhyw weithgaredd amheus neu anghyfreithlon, riportiwch ef i linell ddigwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.