Gwaith adfer ar Wal Llifogydd Llangynnwr ar fin digwydd yn dilyn argymhelliad yn yr Asesiad  Strwythurol 

Bydd y gwaith o atgyweirio uniadau sy'n gollwng yn wal amddiffyn rhag llifogydd Llangynnwr, Caerfyrddin, wedi'i gwblhau erbyn diwedd haf 2021.

Mae'r gwaith yn ganlyniad uniongyrchol i asesiad strwythurol llawn a gynhaliwyd gan ymgynghorwyr CNC ym mis Mai 2020, ar ôl i ddŵr r godi’n uwch na’r wal lifogydd yn ystod Storm Callum ym mis Hydref 2018, gan feddwl bod busnesau y tu ôl i'r wal wedi dioddef llifogydd difrifol. Yn dilyn  digwyddiad 2018, mae dŵr wedi bod yn mynd drwy'r wal yn ystod y digwyddiadau llif mawr  sydd wedi effeithio ar dref Caerfyrddin ers 2018.

Mae canfyddiadau'r adroddiad a gwblhawyd yr wythnos diwethaf wedi dod i'r casgliad bod sefydlogrwydd strwythurol y wal yn ddigonol i wrthsefyll stormydd ac na ddylai fethu yn yr achos anffodus a allai olygu fod y dŵr yn codi mewn digwyddiadau yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at waith adferol sydd ei angen ar yr uniadau yn y wal er mwyn atal dŵr rhag tryddiferu.

Dywedodd Huwel Manley, Rheolwr Gweithrediadau, Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Rydym yn croesawu canfyddiadau'r asesiad strwythurol a oedd yn cynnwys cymryd samplau craidd o’r wal yn ogystal a samplu’r concrid a’r gwaith dur mewnol yn y labordy.
"Bydd y canfyddiadau yma yn ein galluogi i symud ymlaen gyda'r gwaith i ail-growtio ac ail-selio’r uniadau yn y wal lle mae dŵr wedi bod yn gollwng.  Rydym eisoes wedi ymgysylltu'n gynnar â chontractwyr, ac rydym yn anelu at gwblhau'r gwaith hwn erbyn diwedd mis Awst.
"Fel ateb dros dro, rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i bwmpio dŵr sy’n llifo o'r tu ôl i'r wal i ddiogelu'r busnesau hynny yr effeithiwyd arnynt ac rydym yn ddiolchgar am eu cymorth i redeg y gwaith pwmpio yn ystod llifogydd diweddar."

Cyfarfu swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin ag Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin Emlyn Dole a chynghorwyr lleol i rannu canfyddiadau'r adroddiad.

Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

"Rydym wedi bod yn trafod gyda CNC am wal amddiffyn rhag llifogydd ar Hen Ffordd Llangynnwr ers Storm Callum yn 2018 ac rydym hefyd wedi bod yn trafod gyda busnesau lleol.
"Rydym wedi cael cefnogaeth CNC gyda threfniadau dros dro ar gyfer rheoli dŵr llif cyn belled ag y bo'n ymarferol yn ystod stormydd diweddar.
"Mae'n galonogol dysgu bod sefydlogrwydd y wal wedi'i ddilysu ac nad oes unrhyw bryderon ynghylch cyfanrwydd strwythurol y wal."

Mae CNC yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a phartneriaid eraill cyn, yn ystod ac ar ôl tywydd garw i leihau'r perygl o lifogydd i ddeiliaid tai a busnesau yn yr ardal lle bo hynny'n ymarferol.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i baratoi ar gyfer llifogydd, ewch i wefan CNC.