Cwblhau gwaith diogelwch ar gronfeydd dŵr yn Eryri

Mae gwaith i sicrhau bod tair cronfa ddŵr yn Eryri yn parhau i fod yn ddiogel yn y tymor hir wedi'i gwblhau.

Wedi'u lleoli yng Nghoedwig Gwydir ger Betws y Coed, mae'r gwaith yn golygu y gall Llyn Cyfty, Llyn Sarnau a Llyn Goddionduon wrthsefyll digwyddiadau eithafol.

Roedd y gwaith, a wnaed gan y contractwyr William Hughes Civil Engineering Ltd, yn cynnwys cryfhau'r argloddiau, darparu gwell gorlif-fannau a chreu ffordd addas o ostwng lefel y cronfeydd dŵr os oedd angen.

Yng Ngwanwyn 2020, bydd gwaith yn dechrau ar Lyn Tynymynydd, hefyd yng nghoedwig Gwydir, er mwyn dod â hwnnw i'r un safon.

Mae hyn yn rhan o waith Cyfoeth Naturiol Cymru i reoleiddio cronfeydd dŵr o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975.

Mae'n rhan o raglen ehangach o waith diogelwch cronfeydd dŵr ledled Cymru.

Mae gwell mynediad hefyd wedi'i greu at Lyn Sarnau fel y gellir ei archwilio a'i gynnal yn ddiogel.

Meddai Andrew Basford, Rheolwr Prosiectau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydan ni’n archwilio cronfeydd dŵr yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddiogel - mae’r gwaith yma o ganlyniad i arolygiad o’r fath.
“Rydan ni’n hynod ddiolchgar i bobl leol am eu hamynedd a’u cydweithrediad yn ystod y gwaith adeiladu, fu’n gymorth mawr inni gwblhau’r gwaith o fewn pedwar mis fel yr addewid.
“Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda chymdogion Llyn Tynymyndd wrth i'r gwaith ddechrau ar y gronfa honno yn y gwanwyn.”

Gweler ein fideo o'r gwaith gorffenedig: https://youtu.be/gVv9b0XJDbA