De Orllewin Cymru yn symud i statws adfer ar ôl sychder

Mae’r haf poeth a sych wedi ein hatgoffa bod angen i ni baratoi ar gyfer mwy o dywydd eithafol, a bod angen defnyddio ein hadnoddau dŵr yn ddoeth.

Dyna’r alwad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw, wrth gadarnhau bod effeithiau cadarnhaol yn dilyn glawiad diweddar yn Ne Orllewin Cymru wedi sbarduno’r trothwy i symud yr ardal o statws sychder i statws adfer ar ôl sychder.

Daeth uwch swyddogion o CNC, Llywodraeth Cymru, cwmnïau dŵr a grwpiau rhanddeiliaid allweddol ynghyd heddiw (27 Hydref) i ystyried y data hydrolegol ac amgylcheddol diweddaraf ar gyfer Cymru yng nghyfarfod y Grŵp Cyswllt Sychder.

Gwelodd De Orllewin Cymru 115% o’r glawiad misol cyfartalog hirdymor ym mis Medi. Hyd at 25 Hydref, mae’r ardal wedi derbyn 77% o’r glawiad misol cyfartalog hirdymor.

Mae llif afonydd wedi dychwelyd i lefelau arferol neu’n uwch na’r lefel arferol ar draws yr ardal am yr adeg o’r flwyddyn. Mae priddoedd gwlypach hefyd wedi lleihau pryderon ynghylch yr amgylchedd, bywyd gwyllt a chynefinoedd a rheoli tir.

Er bod y sefyllfa wedi gwella, nid yw’r newid mewn statws yn golygu bod yna unrhyw le i ni laesu dwylo gan y gallai pryderon lleol barhau. Er bod lefelau dŵr daear yn dangos rhywfaint o arwydd o adferiad, mae lefelau’n dal i fod yn isel a gallai gymryd tipyn o amser i wella os na fydd Cymru’n cael digon o law dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf. Gall hyn ddod ag effeithiau lleol megis ar gyflenwadau dŵr preifat. Bydd CNC yn parhau i fonitro’r sefyllfa nes ein bod yn hyderus bod yr ardal wedi dychwelyd i statws arferol.

Yr ardaloedd sy’n newid i statws adfer ar ôl sychder yw:

  • Gogledd Ceredigion (Rheidol, Aeron, Ystwyth)
  • Teifi
  • Sir Benfro (Cleddau Dwyreiniol a Gorllewinol)
  • Caerfyrddin (Tywi a’r Taf)
  • Abertawe a Llanelli (Tawe a’r Llwchwr)
  • Castell Nedd Port Talbot a Phen-y-bont (Nedd, Afan, Ogwr)

Mae gweddill Cymru’n dal i fod mewn sychder.

Dywedodd Natalie Hall, Rheolwr Dŵr Cynaliadwy ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydym ni wedi penderfynu symud De Orllewin Cymru i statws adfer ar ôl sychder gan ein bod yn dechrau gweld ein hafonydd a’n cronfeydd yn yr ardal yn dechrau dychwelyd i lefelau arferol am yr adeg o’r flwyddyn, ac mae’r amgylchedd naturiol, ecosystemau a chynefinoedd yn dangos arwyddion cadarnhaol o adferiad.
“Fodd bynnag, ni ddylai pobl gymryd yn ganiataol ein bod wedi dychwelyd i’r cyflwr cyn y sychder yn yr ardal hon. Mae’r tywydd sych a’r tymheredd uchel a welwyd dros yr haf hefyd wedi rhoi pwysau sylweddol ar ecosystemau a chynefinoedd, ac rydym ni’n dal i fonitro’r effeithiau hynny ar ein hamgylchedd yn ofalus iawn.” 

Daw’r cyhoeddiad yn ystod yr wythnos pan godwyd y gwaharddiad defnydd dros dro (neu’r gwaharddiad pibellau dyfrio) sydd wedi bod ar waith mewn rhannau o Sir Benfro a Sir Gâr ers 19 Awst gan Dŵr Cymru. Er bod cyflenwadau dŵr yn ddiogel, rydym ni’n dal i annog pobl i ddefnyddio dŵr yn ddoeth.

Gyda gweddill Cymru’n dal i fod mewn statws sychder, a gyda rhagolygon am hydref sychach na’r cyfartaledd, mae CNC yn ail-adrodd bod angen rheoli adnoddau yn ofalus ac mewn modd rhagweithiol drwy gydol y gaeaf i leihau’r perygl o sychder y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Natalie Hall, Rheolwr Dŵr Cynaliadwy ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae rhannau o Gymru yn dal i ddangos effaith chwe mis o lawiad is na’r cyfartaledd ac un o’r cyfnodau sychaf a gofnodwyd erioed.
“Mae pwysau’n dal i fod ar ardaloedd eraill o Gymru, gyda phryderon penodol am yr amgylchedd a/neu gyflenwadau dŵr yn nalgylchoedd Clwyd, Dyfrdwy Isaf, Hafren Uchaf ac Ynys Môn. Bydd angen mwy o lawiad sylweddol am gyfnodau hir dros y gaeaf i ailgyflenwi lefelau dŵr afonydd, cronfeydd a dŵr daear.
“Hyd yn oed gyda glawiad nodweddiadol dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, mae’n bosibl y byddwn yn dal i weld rhai effeithiau sychder ymhell i 2023, a dyna pam mae hi’n hanfodol i ni gadw golwg ar y modd yr ydym ni’n defnyddio dŵr y gaeaf hwn.
“Mae ein timau sychder yn dal i fonitro ein dangosyddion hydrolegol a’n hamgylchedd naturiol, a byddant yn trafod ac yn cytuno ar unrhyw gamau pellach sydd angen eu cymryd ar draws gweddill Cymru gyda Llywodraeth Cymru, cwmnïau dŵr a phartneriaid eraill dros yr wythnosau nesaf.”

Mae CNC yn annog unrhyw un i adrodd am ddigwyddiad amgylcheddol drwy ffonio’r llinell 24 awr ar 0300 065 3000, neu drwy wefan CNC. Am ddiweddariadau ar ymateb CNC i’r sychder, darllenwch ein blog. Am ffyrdd i arbed dŵr, ewch i wefan Dŵr Cymru Welsh Water.  Os oes gan pobl sydd ar gyflenwad dŵr preifat unrhyw bryderon am gyflenwadau neu ansawdd dŵr, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.