Llwybr beicio mynydd newydd gwef-reidio-l ar fin agor yng Nghanolbarth Cymru

Llwybr beicio mynydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dathlu agor llwybr newydd yng Nghanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth, gyda diwrnod o weithgareddau ar ddydd Sadwrn, 19 Hydref.

Llwybr Melindwr yw llwybr beicio mynydd gradd glas cyntaf CNC yng Nghanolbarth Cymru.

Mae’n llwybr lefel canolradd pum cilomedr sy’n addas ar gyfer pobl sydd â phrofiad blaenorol o feicio mynydd. Mae’r llwybr yn cynnwys dwy ddolen sy’n caniatáu i feicwyr amrywio’r hyd, ac mae’n cynnig dilyniant o ddisgyniadau ac ysgafellau (corneli ar ochrau serth).

Meddai Sarah Parry, Rheolwr Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydym yn falch o gael gofalu am safle mor arbennig lle gall pobl wneud gweithgareddau egnïol, cadw’n iach a mwynhau’r awyr agored.
“Mae’r llwybr newydd glas hwn yn garreg filltir ardderchog cyn mynd i’r afael â rhai o’r llwybrau ehangach a mwy heriol sydd gennym yma.
“Mae hwn yn ychwanegiad rhagorol i’r cyfleusterau yr ydym yn eu cynnig yn y lleoliad ysblennydd hwn. Rydym yn gobeithio y bydd yn denu beicwyr newydd i’r ardal ac yn cefnogi’r economi leol.”

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi datblygiad y llwybr newydd hwn ym Mwlch Nant yr Arian – dyma ffordd ragorol i bobl gael blas ar feicio mynydd a chadw’n heini gan gael y budd mwyaf o dirweddau Cymru.”

Meddai Sarah:

“Mae Bwlch Nant yr Arian yn lle ardderchog i feicio mynydd, ond mae hefyd yn lle gwych i bobl ddod i gerdded, rhedeg, cyfeiriannu a marchogaeth.”
“Bydd ein diwrnod agored yn dathlu’r amrywiaeth o weithgareddau y mae pobl yn eu mwynhau yma, a bydd clybiau chwaraeon lleol ar y safle i siarad ag unrhyw un sy’n awyddus i ymuno.
“Bydd hwyl i bobl o bob oedran hefyd gyda pherfformiadau gan byped anferth Theatr Byd Bychan, y Fonesig Augusta, yr archwiliwr a’r fforiwr Edwardaidd.”

Bydd pobl sy’n dod i’r diwrnod agored yn gallu gweld gwelliannau eraill hefyd ym Mwlch Nant yr Arian, fel decin newydd y ganolfan ymwelwyr, corlan geffylau, a chuddfan adar ychwanegol.

Mae’r cyllid o £128,000 ar gyfer Llwybr Melindwr a gwelliannau’r safle wedi ei ddarparu drwy gynllun Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS), sydd wedi’i anelu at sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector a sefydliadau dielw eraill, gan dargedu prosiectau seilwaith ar raddfa fach (amwynderau ymwelwyr) yn y sector twristiaeth yng Nghymru.

Mae’r prosiect hwn wedi cael cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Er mwyn cael gwybodaeth am feicio mynydd yng Nghymru, ewch i mbwales.com