Ymweliadau cyfrifol yr haf hwn

Gofynnir i rai sy’n ymweld â safleoedd naturiol mwyaf poblogaidd Cymru ddiogelu a pharchu’r amgylchedd yr haf hwn drwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad a helpu i fynd i’r afael â thaflu sbwriel a gwersylla anghyfreithlon.

Wrth i wyliau’r ysgol agosáu, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn prysuro i groesawu mwy o ymwelwyr yn ei goetiroedd ac yng Ngwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Gan fod mwy o bobl wedi bod yn ymweld ag ardaloedd yn nes at adref yn ystod cyfnodau clo Covid-19, mae parciau cenedlaethol, coedwigoedd a gwarchodfeydd Cymru wedi gweld cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n arwain at ddifrod amgylcheddol.

Gan fod yr effeithiau ar fywyd gwyllt a chymunedau yn parhau i fod yn destun pryder yr haf hwn, mae CNC yn annog pobl i ddilyn y Cod Cefn Gwlad ac i ystyried sut y gallant wneud eu rhan i leihau’r pwysau ar fannau agored a thirweddau.

Meddai Richard Owen, Arweinydd Tîm, Cynllunio Hamdden Ystadau, CNC:

“Mae’r llefydd arbennig yr ydym yn gofalu amdanynt yn gyrchfannau delfrydol lle gall pobl ymlacio a chael eu gwynt atynt. Ond mae’n rhaid inni gadw cydbwysedd rhwng dymuniadau unigolion i fwynhau’r awyr agored a chyfrifoldebau pob un ohonom i ddiogelu natur ac i barchu cymunedau lleol.
“Rydym yn awyddus i wneud popeth a allwn i sicrhau fod pobl yn gallu ymweld â’n safleoedd yn ddiogel, ac mae hyn yn cynnwys annog pobl i gynllunio ymlaen llaw a gwneud cynllun wrth gefn rhag ofn y bydd y gyrchfan wreiddiol yn rhy brysur ar ôl iddynt gyrraedd yno, eu hannog i fynd â’u sbwriel adref a pharcio yn ystyriol i gadw llwybrau mynediad brys yn glir.
“Mae’r mwyafrif helaeth o bobl sy’n ymweld â’n safleoedd yn ymddwyn yn gyfrifol ac rydym yn gobeithio y bydd hynny’n parhau wrth inni agosáu at gyfnod prysura’r flwyddyn.”

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael ymweliad llwyddiannus, mae CNC yn annog pobl i wneud y canlynol:

  • Cynllunio ymlaen llawdarllenwch we-dudalen y coetir neu’r warchodfa cyn cychwyn
  • Osgoi’r torfeydd – dewiswch le tawel i fynd iddo. Gofalwch fod gennych gynllun wrth gefn rhag ofn y bydd eich cyrchfan wreiddiol yn rhy brysur pan fyddwch yn cyrraedd yno
  • Parcio yn gyfrifol - parchwch y gymuned leol drwy ddefnyddio meysydd parcio. Peidiwch â pharcio ar ymylon ffyrdd neu rwystro llwybrau mynediad brys. Cofiwch na chaniateir parcio dros nos ym meysydd parcio CNC
  • Dilyn y canllawiau – ufuddhewch i arwyddion safleoedd a mesurau diogelwch i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel
  • Mynd â’ch sbwriel adref – diogelwch fywyd gwyllt a’r amgylchedd drwy beidio â gadael unrhyw olion o’ch ymweliad
  • Dilyn Y Cod Cefn Gwlad– cadwch at y llwybrau, gadewch giatiau fel yr oeddent, a chadwch gŵn dan reolaeth, bagiwch a biniwch faw ci, peidiwch â chynnau tân

Gellir gweld y Cod Cefn Gwlad ar wefan CNC: cyfoethnaturiol.cymru/codcefngwlad

Ceir rhagor o fanylion ar gyfer cynllunio ymweliad â choetiroedd a gwarchodfeydd CNC yn adran ‘Ar grwydr’ gwefan CNC: cyfoethnaturiol.cymru/argrwydr