Rhybudd am sgam gwastraff anghyfreithlon yn Llanelli

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus o gludwyr gwastraff anghyfreithlon sy'n gweithredu yn ardal Llanelli a'r cyffiniau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus o gludwyr gwastraff anghyfreithlon sy'n gweithredu yn ardal Llanelli a'r cyffiniau.

Rhoddwyd gwybod am nifer o ddigwyddiadau lle y cysylltwyd â busnesau a pherchnogion tai ynghylch cynnig i gael gwared â’u gwastraff am bris sy'n is o lawer na'r gyfradd a dderbynnir.

Dywedodd Pippa Sabine, Swyddog Taclo Troseddau Gwastraff CNC:

"Os yw cynnig yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir yna byddwch yn ofalus, mae'n debygol iawn bod y cludwr yn gweithredu'n anghyfreithlon ac yn gadael gwastraff lle bydd yn niweidio'r gymuned leol a'r amgylchedd.
"Ar gyfartaledd mae cludwr gwastraff cyfreithlon yn codi tua £52 i gael gwared â bwndel o faint cist car tra byddai llwyth fan yn costio £166 a llwyth sgip cyffredin o gwmpas £230.
"Os yw eich cludwr gwastraff yn codi llai, gofynnwch i weld eu trwydded cludwyr gwastraff a gwiriwch gofrestr gyhoeddus CNC."

Gall preswylwyr gael gwared â’u gwastraff drwy ymweld ag un o ganolfannau ailgylchu Cyngor Sir Gâr. Mae'r cyngor hefyd yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff swmpus.

Dywedodd y Cynghorydd Phillip Hughes, aelod o fwrdd gweithredol Cyngor Sir Gâr ar gyfer diogelu'r cyhoedd:

"Darperir nifer o safleoedd ar gyfer gwastraff cartrefi ac ailgylchu ledled y sir ac mae gan y cyngor hefyd wasanaeth casglu gwastraff swmpus.
"Os oes gan breswylwyr unrhyw wastraff cartrefi dros ben i'w waredu, mae'n rhaid iddynt sicrhau bod unrhyw unigolion neu gwmnïau preifat y maent yn eu defnyddio wedi'u hawdurdodi'n briodol i gludo gwastraff. Os na wnânt a bod eu gwastraff yn cael ei dipio'n anghyfreithlon, gellid eu herlyn a'u dirwyo.
"Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i gadw ein cymunedau'n lân. Mae'r cyngor wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon a thrwy gydweithio â'n partneriaid gallwn wella ansawdd yr amgylchedd yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd."

Mae troseddau gwastraff yn broblem ddifrifol sy'n costio miliynau o bunnoedd i fusnesau, tirfeddianwyr a thalwyr trethi bob blwyddyn ac sy'n achosi niwed sylweddol i'r amgylchedd, i iechyd pobl ac i fywyd gwyllt.

Dylai unrhyw un sy'n amau gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn ei ardal roi gwybod amdano drwy ffonio llinell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.

Ychwanegodd Pippa:

"Nid yn unig y mae troseddau gwastraff yn beryglus i'r amgylchedd a phobl, mae hefyd yn tanseilio gweithredwyr gwastraff cyfreithlon.
"Os oes gennym bryderon nad yw rhywun yn glynu at y rheolau, byddwn yn ymchwilio ac yn cymryd y camau priodol.
"Mae gan weithredwyr gwastraff reolau caeth y mae'n rhaid iddynt ufuddhau iddyn nhw am reswm – i sicrhau bod busnesau'n cael chwarae teg a bod pobl a'r amgylchedd yn cael eu diogelu

I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu a gwastraff swmpus, ewch i wefan y cyngor https://www.carmarthenshire.gov.wales/home/search-results?q=waste+carrier