Dirwy i gwmni dŵr yn dilyn llygredd afon

Pysgod wedi marw yn yr afon Clywedog yn 2018

Mae Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW) wedi cael dirwy o £180,000 ar ôl pledio'n euog i achosi digwyddiad llygredd yn 2018 ar hyd afon Clywedog yng Ngogledd Cymru. 

Plediodd y gweithredwr dŵr yfed a dŵr gwastraff yn euog i gyhuddiadau yn ymwneud ag achosion o dorri deddfwriaeth amgylcheddol yn Llys Ynadon Llandudno ddoe (23 Mehefin 2021), yn dilyn y digwyddiad llygredd a effeithiodd ar 9km o'r afon.

Canfuwyd bod DCWW wedi rhyddhau carthion sefydlog amrwd yn anghyfreithlon o waith trin gwastraff Five Fords, gan arwain at ladd y nifer fwyaf o bysgod a recordiwyd yng ngogledd Cymru. Lladdwyd dros 3,000 o bysgod, gan effeithio ar rywogaethau gan gynnwys brithyll, pennau lletwad, llysywod pendoll, gwrachod barfog, eogiaid, pariaid, tybiau’r dail, llysywod, crethyll, draenogiaid dŵr croyw a philcod.

Dywedodd David Powell, Rheolwr Gweithrediadau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:

 "Mae gofalu am afonydd a chyrsiau dŵr Cymru yn rhan enfawr o'r gwaith a wnawn, yn ogystal â gofalu am y cynefinoedd sy'n dibynnu arnynt.
"Gall digwyddiadau llygredd fel hyn ddinistrio ecosystemau a gobeithiwn y bydd y canlyniad hwn yn cyfleu neges gadarnhaol na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn goddef y rhai sy'n llygru afonydd Cymru, yn niweidio'r amgylchedd ac yn peryglu niwed i'r bywyd gwyllt lleol.
"Yn yr achos hwn, rhyddhaodd Dŵr Cymru Welsh Water garthffosiaeth sefydlog amrwd yn anghyfreithlon o waith trin gwastraff Five Fords i afon Clywedog, a arweiniodd at ladd nifer sylweddol o bysgod ar hyd yr afon. Cymryd camau cyfreithiol oedd yr unig gamau gweithredu.
"Mae CNC wedi gweithio'n agos gyda Dŵr Cymru Welsh Water i adfer yr afon yn dilyn y digwyddiad hwn.
"Rwy'n gobeithio y bydd y ddirwy hon yn cyfleu neges glir bod deddfwriaeth amgylcheddol i'w chymryd o ddifrif a bod niweidio'r amgylchedd, boed yn fwriadol, neu drwy esgeulustod, yn dod â chanlyniadau."

Cafodd Dŵr Cymru Welsh Water ddirwy o £180,000, yn ogystal â chael gorchymyn i dalu £25,871.60 mewn costau cysylltiedig, sef cyfanswm o £205,871.50.