Annog ymwelwyr i Fro’r Sgydau i fod yn ddiogel ac yn gyfrifol y Penwythnos Gŵyl y Banc hwn

Gwastraff wedi eu adael yng nghefn gwlad

Mae ymwelwyr â Bro’r Sgydau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cael eu hannog i fod yn ddiogel ac yn gyfrifol os ydyn nhw'n ymweld â'r ardal y Penwythnos Gŵyl y Banc hwn.

Mae Bro’r Sgydau o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig Coedydd Nedd a Mellte ac mae ganddi fywyd gwyllt prin a bregus fel planhigion coetir a rhedyn sy’n difrodi’n hawdd o dan droed. Rhaid i ymwelwyr fod yn gyfrifol am fynd ag unrhyw sbwriel adref gyda nhw, ac i beidio gwersyll heb ganiatad gan fod y gweithgareddau hyn yn fygythiad i'r bywyd gwyllt sensitif a geir yn yr ardal.

Dywedodd Paul Dann, Arweinydd Tîm Rheoli Tir CNC,

"Mae’r niferoedd uchel o ymwelwyr y cawn ym Mro’r Sgydau yn sicr yn rhoi pwysau ar y bywyd gwyllt arbennig a geir yn yr ardal.
"Mae angen i ni i gyd chwarae ein rhan i ddiogelu'r bywyd gwyllt hwn drwy fwynhau ein hymweliadau'n gyfrifol drwy ddilyn canllawiau ym mhob lleoliad a thrwy sicrhau nad ydym yn gadael unrhyw olion o'n hymweliadau."

Annogir ymwelwyr hefyd i gynllunio eu hymweliad a sicrhau nad ydyn nhw'n ceisio teithiau cerdded sy'n rhy hir neu heriol iddyn nhw. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig canllaw ar lwybrau cerdded ar eu gwefan sy'n rhoi gwybodaeth am anhawster a hyd llwybrau unigol.

Dywedodd Jon Pimm, Swyddog Prosiect Bro’r Sgydau,

"Nid yw'n syndod bod Bro’r Sgydau mor boblogaidd gydag ymwelwyr yr adeg hyn o'r flwyddyn, ac rydym am i bobl fwynhau popeth sydd gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i'w gynnig.
"Fodd bynnag, y gwir yw - oni bai ei fod yn cael ei drin yn ofalus ac yn barchus - mae Bro’r Sgydau yn gallu bod yn lle peryglus i ymweld ag ef. Gwelwn fod pobl yn ceisio ar deithaiau heriol mewn ardaloedd peryglus heb yr esgidiau a'r offer cywir, a hyd yn oed gyda phlant bach neu bobl sydd ddim yn gerddwyr cryf. Gwelwn hefyd fod pobl sydd â’r offer gywir yn ceisio teithiau sydd ymhell y tu hwnt i'w gallu corfforol.
"Mae afonydd yn oer iawn trwy gydol y flwyddyn, felly peidiwch â chael eich temtio i nofio oherwydd gall sioc dŵr oer ddigwydd hyd yn oed i nofwyr cryf.
"Mae pobl wedi dioddef anafiadau difrifol a hyd yn oed wedi marw yn dilyn damweiniau y gellir eu hosgoi ym Mro’r Sgydau. Mae hon yn drasiedi sy'n digwydd lawer yn rhy aml. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio'ch ymweliad; bydd yn helpu i'ch cadw'n ddiogel a'ch bod yn cael y mwyaf o'ch ymweliad."

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael ymweliad llwyddiannus, mae CNC yn annog pobl i wneud y canlynol:

  • Cynllunio ymlaen llaw – darllenwch we-dudalen y coetir neu’r warchodfa cyn cychwyn
  • Osgoi’r torfeydd – dewiswch le tawel i fynd iddo. Gofalwch fod gennych gynllun wrth gefn rhag ofn y bydd eich cyrchfan wreiddiol yn rhy brysur pan fyddwch yn cyrraedd yno
  • Parcio yn gyfrifol - parchwch y gymuned leol drwy ddefnyddio meysydd parcio. Peidiwch â pharcio ar ymylon ffyrdd neu rwystro llwybrau mynediad brys. Cofiwch na chaniateir parcio dros nos ym meysydd parcio CNC
  • Dilyn y canllawiau – ufuddhewch i arwyddion safleoedd a mesurau diogelwch i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel
  • Mynd â’ch sbwriel adref – diogelwch fywyd gwyllt a’r amgylchedd drwy beidio â gadael unrhyw olion o’ch ymweliad
  • Dilyn Y Cod Cefn Gwlad – cadwch at y llwybrau, gadewch giatiau fel yr oeddent, a chadwch gŵn dan reolaeth, bagiwch a biniwch faw ci, peidiwch â chynnau tân

Ceir rhagor o fanylion ar gyfer cynllunio ymweliad â choetiroedd a gwarchodfeydd CNC yn adran ‘Ar grwydr’ gwefan CNC: cyfoethnaturiol.cymru/argrwydr

Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wybodaeth ynglŷn ag ymweld â Gwlad y Rhaeadrau ar eu gwefan: https://www.breconbeacons.org/things-to-do/attractions/natural/visiting-waterfall-country