Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gyda Chymdeithas Pysgotwyr Cymru

Rydym yn falch o gadarnhau trydydd iteriad Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyda Chymdeithas Pysgotwyr Cymru (CPC).

Ers 2015, mae ein sefydliadau wedi gweithio'n agos yn ôl y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i ddiogelu bywoliaeth pysgotwyr ac i ofalu am yr adnoddau naturiol maen nhw’n dibynnu arnynt.

Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn fframio perthynas waith flaengar a chadarnhaol gyda'r CPC - sef corff cynrychioliadol cenedlaethol y diwydiant pysgota masnachol. Mae'n darparu fframwaith y gallwn ei ddefnyddio i wella'r modd y cyflawnir amcanion cydfuddiannol drwy rannu gwybodaeth a dealltwriaeth.

Mae hefyd yn darparu mecanwaith i sicrhau bod cyngor CNC ynghylch rheoli a datblygu adnoddau morol naturiol Cymru yn gynaliadwy yn cael ei ystyried mewn ffordd gydgysylltiedig â rhanddeiliaid. Drwy wneud hynny, byddwn yn sicrhau bod anghenion cenedlaethau presennol yn cael eu diwallu heb rwystro gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Mae'r fframwaith yn ein galluogi i gydweithredu, cydweithio ac ymgysylltu â'n gilydd ar y cyfle cyntaf posib, a gweithio'n barchus o fewn ein rolau a'n cyfrifoldebau. Mae hefyd yn ein helpu i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd, hyrwyddo tryloywder ac osgoi camddealltwriaeth.

Fel rhan o'r cytundeb parhaus, bydd y ddau sefydliad yn ymdrechu i rannu gwybodaeth wyddonol fel y gall penderfyniadau sy'n effeithio ar ddiwydiant pysgota Cymru fod yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.

Mae CNC yn cynnal cyfarfodydd Cyswllt Pysgodfeydd ddwywaith y flwyddyn i hybu ethos y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn gyda rhanddeiliaid pysgodfeydd morol ehangach. Bydd y fersiwn hwn o'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn rhedeg am dair blynedd a chaiff ei adnewyddu yn 2024.

Dywedodd Jim Evans, Prif Swyddog Gweithredol CPC:

"Mae ymddiriedaeth a pharch yn hanfodol i berthnasoedd gwaith ac mae'n ddiau na fydd WFA-CPC ac CNC bob amser yn cytuno ar bopeth, ond rydyn ni’n amlwg yn cytuno ag egwyddorion defnyddio a datblygu'r amgylchedd morol yn gynaliadwy.

Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn fframwaith pwysig ar gyfer cyflawni amcanion a rennir ar sail tystiolaeth gadarn i sicrhau diwydiant pysgota cynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol o bysgotwyr Cymru."