Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Cwestiynau cyffredin

Ar hyn o bryd rydym yn cynllunio prosiect a elwir Gwaith Coed a Sefydlogi Llechwedd Bont Evans, neu BETWS yn fyr. Sefydlwyd y prosiect hwn er mwyn dileu ardal o goed ansefydlog a hynny’n ddiogel a sefydlogi'r llechwedd ar hyd cefnffordd yr A487 ger Ceinws, i'r gogledd o Fachynlleth

 

Manylion am y prosiect

Pam ydych chi'n gwneud hyn? 

Mae'r coed yn tyfu ar ochr bryn serth gan fynd yn fwyfwy ansefydlog ac mae’n bosib y gallent ddisgyn ar y ffordd. Gallai hyn achosi damwain neu gau ffordd yn anfwriadol. Pe bai coeden yn disgyn gallai hyn hefyd beri i greigiau, pridd a malurion eraill ddisgyn ar y ffordd.

Sut aeth y coed yn ansefydlog? 

Mae hyn oherwydd eu hoedran, taldra, pwysau, cyflwr, patrymau twf, am eu bod yn agored i wyntoedd uchel, a serthrwydd y safle.

Pa mor fawr yw’r arwynebedd rydych chi’n bwriadu ei gwympo?

Mae'r ardal gyfan rydym yn bwriadu ei chwympo tua 22 hectar - sef maint rhyw 30 o gaeau pêl-droed. Mae cyfanswm cyfaint y pren oddeutu 15,000m3 sydd tua 12,000 tunnel.

Pryd fydd y gwaith yn dechrau a pha mor hir y bydd yn ei gymryd?

Fe wnaethom ni ddechrau gweithio ar y safle ym mis Hydref 2017 ac mae disgwyl i’r gwaith gymryd tua 18 mis i’w gwblhau.

Pa fath o goed fyddwch chi’n eu cwympo?

Ffynidwydd Douglas a Chegid y Gorllewin yn bennaf, gyda Sbriws Sitka, Sbriws Norwy, Cedrwydd Japan (Cryptomeria) a nifer fechan o rywogaethau collddail cymysg.

Beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn cael gwared ar y coed? 

Mae'r perygl o goed yn syrthio i'r ffordd yn cynyddu bob blwyddyn; os nad ydym yn cael gwared ar y coed gallen nhw syrthio ac achosi cau ffordd yn anfwriadol a hyd yn oed ddamwain fawr, o bosib.

Allwch chi ddim sefydlogi'r banc heb gwympo coed? 

Dydyn ni ddim yn credu bod y bryn ei hun yn ansefydlog, oni bai bod coed sy’n disgyn yn tarfu ar y ddaear oddi tanodd. Nid yw chwaith yn ymarferol gwneud gwaith sefydlogi tra bod y coed yn eu lle. Byddai'r coed yn dal i fod mewn perygl o syrthio ar y ffordd, felly'r unig ffordd synhwyrol i fynd i'r afael â'r perygl yw torri'r coed.

A fydd symud y coed yn gwneud y tir yn fwy ansefydlog? 

Gallai cael gwared ar y coed wneud y tir yn fwy ansefydlog yn y tymor byr, hyd nes y bydd y llystyfiant wedi ail-sefydlu'n ddigonol. Unwaith y byddwn wedi cwympo’r coed, byddwn yn gwella’r draenio ac yn cael gwared ar ddeunydd rhydd er mwyn lleihau'r perygl o dirlithriad. Byddwn hefyd yn monitro’r safle ar ôl cwympo coed er mwyn canfod peryglon ac yn ymgymryd â gwaith sefydlogi pellach os bydd angen.

Faint fydd y prosiect hwn yn ei gostio? 

Disgwylir i'r prosiect gostio tua £ 3m.

Effaith ein gwaith ar bobl leol, defnyddwyr y ffordd a bywyd gwyllt

A fydd teithio ar hyd y ffordd yn cael ei effeithio? 

Mae lleoliad yr A487, sef yn union o dan y coed, yn golygu y bydd rhywfaint o'r gwaith rydym yn ei gynllunio yn cael effaith ar y rhai sy'n defnyddio'r ffordd.

Bydd angen i ni osod goleuadau traffig ar y ffordd ar gyfer peth o’r gwaith, a phan fyddwn yn cwympo’r coed ar y banc serth bydd angen i ni atal traffig   yn y ddau gyfeiriad am hyd at 10 munud ar y tro. Bydd gweithwyr yn bresennol wrth ymyl y ffordd gyda byrddau STOP/GO i reoli llif y traffig.

Pa mor aml y bydd angen i chi atal y traffig i'r ddau gyfeiriad?

Allwn ni ddim dweud yn union, ond bydd angen i ni wneud hyn bob tro y byddwn yn cwblhau gweithgaredd risg uchel - gallai hyn fod cwpwl o weithiau bob awr, ond mae'n debyg y bydd yn amrywio bob dydd.

A fydd y llwybrau yng nghoedwig Dyfi yn cael eu cau?

Byddant, gwaetha’r modd. Mae llwybr rhedeg Bryn Llwyd yng nghoedlan Tan y Coed wedi cael ei gau, ac ni fydd yn ailagor nes y byddwn wedi gorffen gweithio yn yr ardal.

Efallai y bydd llwybrau eraill yn Nhan y Coed hefyd yn cael eu cau neu eu dargyfeirio wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, a bydd hyn yn cael ei arwyddo’n glir ar y safle ac yn cael ei hysbysebu yma.

Bydd angen i ni hefyd i gau’r hawl tramwy cyhoeddus sy'n rhedeg drwy'r safle o'r A487 ger Pont Evans.

A fydd maes parcio Tan y Coed yn parhau ar agor? 

Ni fydd maes parcio Tan y Coed yn cael ei effeithio gan y gwaith a bydd yn aros ar agor drwy gydol y cyfnod.

A fydd eich gwaith yn aflonyddu ar y bywyd gwyllt yn yr ardal? 

Byddwn yn gwella'r amgylchedd yn y tymor canolig i'r tymor hir, trwy ddychwelyd y rhan fwyaf o'r coupe yn ôl i goetir llydanddail brodorol. 

Bydd rhywfaint o effaith negyddol yn y tymor byr, ond byddwn yn cydymffurfio â'r canllawiau perthnasol ac arfer gorau'r diwydiant er mwyn lleihau effaith.

A fydd y gwaith yn effeithio ar fywyd gwyllt?

Cynhaliwyd arolygon helaeth o adar a bywyd gwyllt cyn i’r prosiect ddechrau, ac mae’r briff gwylio cadwraeth yn parhau yn ystod y gwaith. Ni chafodd nythod gweithgar adar ysglyfaethus eu nodi yn yr arolygon a wnaethom, ac mae llawer o’r ardal sydd i’w thorri mewn yn cael ei chysgodi’n ddwys gan y conwydd, ac felly’n gynefin gwael ar gyfer bywyd gwyllt, yn gyffredinol.

Rydym wedi gwneud rhywfaint o glirio coed a llystyfiant yn yr ardal dros y gaeaf, dan oruchwyliaeth ein harbenigwyr cawraeth. Bydd gwneud y gwaith paratoi hwn y tu allan i dymor gweithredol y pathew yn helpu i leihau effaith ein gwaith ar rywogaethau a warchodir, adar a bywyd gwyllt arall yn yr ardal.

Mae clirio cynefinoedd dros dro ar adeg gywir o’r flwyddyn yn ddull addas o atal defnydd yn ystod gwaith BETWS a bydd yr ardaloedd hyn yn adfer, ac yn darparu gwell cynefinoedd bywyd gwyllt yn y dyfodol.

Sut rydym yn bwriadu gwneud y gwaith

Sut fyddwch chi’n cwympo’r coed?

 Mae hwn yn safle cymhleth, felly bydd nifer o wahanol ddulliau cwympo a chloddio pren yn cael eu defnyddio.Ar dir mwy gwastad defnyddir peiriant 'cynaeafu' i gwympo a phrosesu'r coed. Yna byddwn yn defnyddio peiriant ‘ailgyfeirio’ i gario’r pren i ardaloedd stacio i’w gludo oddi yno. Ar rannau mwy serth, bydd coed yn cael eu cwympo drwy ddefnyddio llif gadwyn ac yna’u 'sglefrio' i leoliad addas i’w prosesu a’u hanfon ymlaen. Ar y llethrau serth iawn bydd y coed yn cael eu cwympo drwy ddefnyddio llif gadwyn a’u codi drwy ddefnyddio system 'skyline'.

Beth yw ‘skyline’?

System raffbont yw ‘skyline’ sy'n defnyddio cebl sefydlog rhwng dau bwynt. Rydym yn bwriadu defnyddio cloddiwr fel un a 'choedyn' fel yr ail. Bydd lôn gerbyd foduraidd wedyn yn rhedeg ar hyd y rhaffbont a chaiff y coed sydd wedi’u cwympo eu cysylltu wrth y lôn gerbyd drwy ddefnyddio gwifrau dur. Bydd y coed wedyn yn cael eu llusgo i fyny'r bryn i lwyfan glanio. Oddi yno, bydd y coed yn cael eu prosesu a'u pentyrru.

Pwy fydd yn gwneud y gwaith? 

Fe wnaethom ni gynnal proses dendro llym a phenodi Dawnus fel y contractwr i gyflawni’r gwaith.

Cwmni peirianneg yw Dawnus sydd â phrofiad o gyflawni cynlluniau cymhleth ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys Cynllun Lliniaru Llifogydd Parc y Rhath cyfredol yng Nghaerdydd.

Beth fydd yn digwydd i'r coed unwaith y byddan nhw wedi eu cwympo?

Bydd y rhan fwyaf o'r coed gaiff eu cwympo yn cael eu cludo i felinau coed lleol lle byddan nhw’n cael eu prosesu a'u defnyddio ar gyfer cymwysiadau amaethyddol ac adeiladu amrywiol. Mae hyn yn rhoi cyfle i adfer rhywfaint o werth economaidd y pren a bydd modd ei ail-fuddsoddi yn Ystâd Coetir Llywodraeth Cymru.

Pa fath o fesurau diogelwch fydd yn cael eu rhoi ar waith pan gaiff y coed eu cwympo? 

Bydd y dulliau dros dro o reoli traffig y cyfeirir atynt uchod yn cael eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffordd.

Rydym hefyd yn gosod 'ffens ddal' ar hyd ymyl gwaelod y coetir er mwyn atal malurion rhag disgyn ar y ffordd pan fyddwn yn gweithio uwchben.

A fydd y 'ffens ddal' yn cael ei symud unwaith y bydd y coed wedi cael eu cwympo?

Bydd y ‘ffens ddal’ yn parhau yn ei lle am ddwy flynedd ar ôl i’r gwaith cwympo coed gael ei gwblhau er mwyn galluogi’r llethr i ailsefydlu ei hun. Yn ystod y cyfnod hwn bydd y ‘ffens ddal’ a’r llethr wrth ochr y ffordd yn destun archwiliadau strwythurol a geodechnegol.

Ailblannu

A fyddwch chi’n ailblannu’r coed?

Gan fod yr ardal yn Blanhigfa ar Safle Coetir Hynafol (PAWS) byddwn fel arfer yn caniatáu aildyfiant naturiol (gyda rheolaeth er mwyn sicrhau rhywogaethau addas), neu ailblannu gyda choed llydanddail brodorol e.e. bedw, derw, criafolen, y ddraenen wen, celyn a chyll.

Oni fydd plannu mwy o goed ond yn creu problem debyg yn y dyfodol?

Bydd y safle yn cael ei reoli er mwyn sicrhau nad yw coed tal yn sefydlu uwchben y ffordd yn y dyfodol. Caniateir i goed talach e.e. derw, sefydlu ond dim ond pan nad ydyn nhw mewn perygl o syrthio i'r ffordd.

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am y prosiect

Sut ydych chi wedi dweud wrth bobl am y prosiect? 

Rydym wedi darparu taflenni gwybodaeth i'r rhai sy'n byw yn yr ardal ac wedi ysgrifennu at fusnesau a fydd, o bosib yn ein barn ni, yn cael eu heffeithio. Rydym hefyd wedi cynnal sesiynau galw heibio cyhoeddus ac wedi hyrwyddo’r gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fyddwch chi’n parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am y gwaith? Byddwn. Byddwn yn darparu diweddariadau pan fydd gennym wybodaeth newydd. Gallwch anfon eich cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad eich tŷ atom a gallwn ychwanegu eich enw at ein rhestr ddosbarthu.

A oes gwybodaeth ar-lein? 

Oes. Rydym wedi creu tudalennau gwe BETWS a bydd y rhain yn cael eu diweddaru â’r newyddion diweddaraf. Byddwn hefyd yn rhoi gwybodaeth drwy ein cyfrif twitter @NatResWales.

Sut y galla’ i gysylltu â'r tîm prosiect ynglŷn â’r gwaith?

 Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol drwy’r e-bost betws@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffoniwch neu ffoniwch ein llinell ymholiadau 0300 065 3000.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.