Cyflwyniad
Mae problemau iechyd sylweddol yng Nghymru. Gallai byw a gwneud defnydd da o amgylchedd naturiol sydd o ansawdd da helpu i fynd i'r afael â'r rhain fel rhan o ffordd o fyw iach a gwell iechyd corfforol a meddyliol. Er enghraifft, bydd 25% o bobl yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ar ryw adeg o'u bywydau,13 tra bo bron i 60% o bobl Cymru sy'n 16 oed neu hŷn dros bwysau neu'n ordew, ac mae'r niferoedd yn cynyddu.1
Mae'r anghydraddoldebau iechyd rhwng mannau gwahanol o Gymru yn arwyddocaol. O ran gordewdra yn ystod plentyndod, er enghraifft, ystyrir bod 19.2% o blant pedwar a phump oed ym Mro Morgannwg dros bwysau neu'n ordew, ond mae'r ffigwr hwnnw'n 33.8%14 ym Merthyr Tudful. Mae gordewdra yn ystod plentyndod yn sylweddol uwch mewn ardaloedd mwy difreintiedig.1, 14 Mae tlodi incwm yn effeithio ar 23% o'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd a 30% o bobl yng Nghymru.1 Mae disgwyliad oes iach yn amrywio'n sylweddol hefyd rhwng yr awdurdodau lleol gwahanol.1
Er bod mwy nag 80% o oedolion Cymru yn cymryd rhan mewn rhyw fath o weithgaredd hamdden awyr agored o leiaf unwaith y flwyddyn, dim ond tua chwarter ohonynt sy'n gwneud hyn yn rheolaidd.2 Mae menywod yn debygol o fod yn llai gweithgar na dynion.1 Ac er bod hanner o'r holl blant a phobl ifanc yn gwneud ymarfer corff tair gwaith yr wythnos, mae'r niferoedd sy'n cymryd rhan yn lleihau'n sylweddol wrth iddynt dyfu.1 Mae oddeutu 3% o bobl yn gwirfoddoli i amddiffyn yr amgylchedd.1
Er bod llawer o bobl eisoes yn mwynhau’r byd naturiol, mae heriau sylweddol er mwyn ailgysylltu rhai pobl â’r amgylchedd naturiol: mae pawb yn haeddu byw mewn ardaloedd deniadol o ansawdd da gydag ansawdd aer a dŵr da, a dylent gael eu hannog i ddefnyddio'r awyr agored i wella iechyd meddyliol a chorfforol.
Bydd pobl yn mwynhau ac yn teimlo'n gysylltiedig â natur, ac yn cydnabod gwerth cynhenid yr amgylchedd naturiol a'i swyddogaeth mewn perthynas ag iechyd a lles a diwylliant a threftadaeth Cymru. Bydd dysgu yn ac am yr amgylchedd naturiol a'r buddion y mae'n eu darparu yn rhan o fywyd pawb – ac yn dechrau yn ystod plentyndod. Bydd gwneud defnydd gwell o fannau gwyrdd lleol mewn ardaloedd trefol a gwledig yn rhywbeth arferol, ynghyd â chydnabyddiaeth fod ymarfer corff yn yr awyr agored yn helpu i atal nifer o afiechydon meddyliol a chorfforol. Bydd anghydraddoldebau iechyd rhwng ardaloedd gwahanol o Gymru a chymunedau gwahanol wedi cael eu lleihau'n sylweddol, gyda chynnydd mewn disgwyliad oes iach.
Bydd pobl yn ymfalchïo yn eu hardal leol ac yn gwirfoddoli i helpu i edrych ar ôl yr amgylchedd naturiol, gan ddysgu pethau newydd a rhoi yn ôl at y gymdeithas, a bydd eu hymdrechion yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi
Bydd pobl yn teimlo'n sicr fod unrhyw risgiau amgylcheddol posibl, megis byw mewn ardal lle mae llifogydd yn dueddol o ddigwydd neu gerllaw ystâd ddiwydiannol, yn cael eu rheoli'n dda, a bydd busnesau'n helpu i wella amgylcheddau lleol fel rhan o'u cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog mynediad at y tir a'r dŵr a reolir ganddo, ac yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gyfer hamdden a gwirfoddoli. Bydd mynediad yn cael ei weld yn ei ystyr ehangaf - gan gynnwys gwybodaeth a chymorth yn ogystal â mynediad corfforol. Bydd gennym fentrau ar y cyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Chwaraeon Cymru ac arbenigwyr eraill lle mae'r amgylchedd naturiol yn cael ei ddefnyddio i wella iechyd a lles, a lle mae teithio llesol megis beicio a cherdded yn cael ei annog. Bydd gwyddoniaeth gymdeithasol yn ein helpu i ddeall ymddygiad pobl a'r ffordd orau o annog ac ysgogi newid.
Bydd yr amgylchedd naturiol yn cael ei ystyried yn anhepgor i gynlluniau llesiant lleol, a bydd tirweddau a morluniau Cymru yn ysbrydoli dysgu gydol oes a chyfranogiad mewn chwaraeon a'r celfyddydau.
Arwain drwy esiampl
Gweithio gyda'n partneriaid
Dangosydd/Ffynhonnell