Rydym ni’n gweithio gyda grwpiau ffermio, Cyswllt Ffermio, Llywodraeth Cymru i gynghori a chefnogi datblygu diwydiant amaethyddol cynaliadwy er mwyn:

  • cadw, gwella ac adfer cynefinoedd a rhywogaethau o fywyd gwyllt, tirluniau a nodweddion diwylliannol
  • sicrhau swyddi da ac elw cynaliadwy i'r rhai sy'n ffermio ac yn rheoli tir
  • cynnal a chefnogi gwead cymdeithasol cymunedau gwledig
  • helpu i daclo'r heriau sy’n dod yn sgil newid hinsawdd
  • ei gwneud yn haws i bobl gyrraedd a mwynhau cefn gwlad a’i ddeall yn well

Rydyn ni’n cynghori Llywodraeth Cymru drwy ymateb i ymgynghoriadau ar bob mater ynghylch effeithiau amgylcheddol amaethyddiaeth, gan gynnwys:

  • Y Polisi Amaeth Cyffredin
  • Cynllun Datblygu Gwledig Cymru
  • rheoli tir comin
  • Asesiadau Effeithiau Amgylcheddol
  • dyluniad gwasanaethau ymgynghorol amaethyddol
Diweddarwyd ddiwethaf