Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Coedwig fawr ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yw Coedwig Ceri.
Plannwyd y coed conwydd yma gan y Comisiwn Coedwigaeth.
Gallwch fynd ar lwybr hir Ffordd Las Ceri o faes parcio Block Wood.
Mae yna olygfeydd da o’r byrddau picnic sydd o gwmpas y maes parcio.
Mae llwybr troed hir Ffordd Las Ceri yn rhedeg drwy Goedwig Ceri.
Mae gan Ffordd Las Ceri draddodiad hir fel llwybr masnach a phorthmyn wrth i bobl deithio o Gymru i’r marchnadoedd yn Lloegr.
Nid yw’r llwybr byth yn is na 1000 o droedfeddi (300 metr) uwchlaw lefel y môr, ac felly mae’r golygfeydd i gyfeiriad Cymru ar un ochr, a Lloegr i’r cyfeiriad arall, yn ysblennydd.
Gall gerddwyr, beicwyr a rhai ar gefn ceffyl ddilyn y llwybr hwn.
Mae llwybr hir Ffordd Las Ceri’n 15 milltir (24km) o hyd o faes parcio Cider House ger pentref Dolfor ym Mhowys i Bishops Castle yn Sir Amwythig.
Cyngor Sir Powys sy’n gofalu am lwybr Ffordd Las Ceri.
Ceir yna ychydig o arwyddbyst ond rydym yn argymell eich bod yn defnyddio map ar gyfer y teithiau cerdded hirach.
Fedrwch gyrraedd rhai o nodweddion hanesyddol ar Ffordd Las Ceri yn hwylus, wrth barcio ym maes parcio Block Wood.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Lleolir maes parcio Block Wood 3 milltir i’r de o bentref Ceri.
Mae yn Sir Powys.
Mae Coedwig Ceri ar fap Explorer 214 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS yw SO 149 862.
Cymerwch y ffordd osgoi o gwmpas y Drenewydd tuag at y Trallwng a Llandrindod.
Dilynwch yr arwyddion i bentref Ceri a throwch i’r dde wrth eglwys y pentref i fynd ar is-ffordd.
Ar ôl 1 filltir, croeswch bont fach a throwch i’r dde wrth y gyffordd T.
Dilynwch y ffordd hon am 2¼ milltir ac mae maes parcio Block Wood ar y chwith.
Mae’r orsaf drên agosaf yn y Drenewydd.
Mae bysus rhifau 41 ac 81 yn mynd o'r dref. Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae'r maes parcio am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.