Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi arwyddo cytundeb les yn trosglwyddo rheolaeth yr Hafod i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol bellach yn gofalu am 200 hectar yn yr Hafod, gan gynnwys y tiroedd helaeth, yr gerddi hanesyddol sydd wedi’u hadfer a’r llwybrau cerdded.
Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am ymweld â’r Hafod a bydd yn parhau’n fyw am gyfnod penodol.
Am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r Hafod, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Cynlluniwyd Ystâd yr Hafod ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif gan Thomas Johnes ac yn fuan daeth yn gyrchan hanfodol bwysig i ymwelwyr oedd yn teithio ar hyd Cymru yn chwilio am “natur gwyllt”.
Mae’r llwybrau cerdded yn ymlwybro ar hyd tirwedd hanesyddol sy’n amrywio’n eang o ran natur, o barcdir pori a gwahanol fathau o goetir i geunant yr Afon Ystwyth gyda’i bontydd a’i rhaeadrau.
Adeiladodd Johnes dŷ newydd yn y lleoliad anghysbell hwn a chynllunio gerddi yn y steil Pictiwrésg, oedd yn ffasiynol ar y pryd.
Cynlluniodd y llwybrau cerdded er mwyn i ymwelwyr fedru mwynhau’r tirlun fel cyfres o olygfeydd sy’n newid yn gyson.
Heddiw mae’r plasty wedi mynd, a Hafod yn gorwedd o fewn coedwig weithiol.
The National Trust now cares for 200 hectares at Hafod, including its extensive grounds, restored historic gardens and walking trails.Ceir yna pum llwybr cerdded sy’n amrywio o ran hyd a graddfa ac sydd wedi’u harwyddo o’r maes parcio.
Maent yn cynnwys dau lwybr cylchol clasurol a grëwyd gan Thomas Johnes yn ystod ei flynyddoedd cyntaf yn yr Hafod - Rhodfa’r Bonheddwr sy’n llafurus a Rhodfa’r Foneddiges sy’n rhwyddach.
Mae’r ddau lwybr hanesyddol hyn yn mynd â chi heibio i nodweddion Pictiwrésg fel Lefel Lampwll, Y Bont Wladaidd, Twnnel a Rhaeardr ‘Mossy Seat’.
Hefyd gallwch ymweld â’r eglwys, Eglwys Newydd, adeiladwyd gan Johnes yn 1803 a’r unig adeilad sylweddol sydd wedi goroesi o’r adeg hynny. Heddiw mae’n gartref i arddangosfa am hanes yr ystâd.
Mae mannau picnic yn y prif faes parcio ac wrth ymyl yr afon ar Rodfa’r Foneddiges, a thoiledau symudol yn y prif faes parcio.
Am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r Hafod, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae Ystad yr Hafod 15 milltir i'r de-ddwyrain o Aberystwyth.
Mae yn Sir Ceredigion.
Ceir arwyddion brown i roi arweiniad i chi o Bontarfynach ar hyd y B4574 i brif faes parcio’r Hafod.
Mae Ystad yr Hafod ar fap 213 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod yr OS yw SN 768 736.
Cymerwch yr A4120 o Aberystwyth tuag at Bontarfynach.
Dilynwch yr arwyddion brown a gwyn o Bontarfynach drwy'r B4574 i'r maes parcio.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Aberystwyth.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi arwyddo cytundeb les yn trosglwyddo rheolaeth yr Hafod i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol bellach yn gofalu am 200 hectar yn yr Hafod, gan gynnwys y tiroedd helaeth, yr gerddi hanesyddol sydd wedi’u hadfer a’r llwybrau cerdded.
Am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r Hafod, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.