Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Deg llwybr cerdded ar gyfer yr haf

Gwnewch yn fawr o hirddyddiau’r haf ar y llwybrau cerdded hyn

Pobl yn cerdded yn Alwen

Dewiswch eich llwybr

Rydym wedi dewis deg llwybr cerdded i wneud y gorau o ddiwrnodau hir yr haf.

Cewch ddianc rhag y torfeydd a mwynhau arddangosfeydd o flodau gwyllt neu ymlacio mewn man picnic glan llyn.

Dilynwch yn ôl troed y  twristiaid cynnar ar daith a grëwyd yn y ddeunawfed ganrif.

Diddanwch y rhai bach gyda llwybr pos coetir neu daith gerdded drwy'r twyni tywod.

I'ch helpu i ddewis llwybr yn eich ardal chi, rydym wedi rhestru teithiau cerdded yng ngogledd Cymru yn gyntaf, yna'r Canolbarth ac yna'r De.

Llwybr Alwen, Coedwig Hiraethog, Gogledd Ddwyrain Cymru

Llyn AlwenOs hoffech ddianc rhag y torfeydd yr haf hwn, yna ewch am dro i’r ucheldir prydferth ac anghysbell uwchben y gronfa ddŵr Alwen. Mae Llwybr Alwen yn mynd drwy goetir heddychlon Coedwig Hiraethog a fyny i’r rhostir lle mae golygfeydd godidog o’r holl gefn gwlad o’ch cwmpas. Ar hyd y ffordd, cadwch lygad am y bod tinwyn, ceiliog y mynydd a’r croesbig. Efallai y byddwch yn ddigon lwcus i weld gwiwer goch neu walch y pysgod, neu hyd yn oed glywed sŵn y gwcw. Cadwch lygad am feicwyr hefyd gan mai llwybr i gerddwyr a beicwyr yw hwn – beth am ddod yn ôl rywbryd eto a dilyn y llwybr ar ddwy olwyn?

  • Pellter: 7 milltir (10.9 cilometr)
  • Gradd: cymedrol
  • Tir: Mae gan y llwybr hwn rannau anwastad a rhai mannau sy’n cynnwys ambell ddringfa. Mae mannau gorffwys ar hyd y llwybr sy’n ddelfrydol ar gyfer picnic
  • Dechrau a gorffen: Maes parcio Cronfa Ddŵr Alwen. Nodwch y dylai cerddwyr gerdded y llwybr mewn cyfeiriad clocwedd a dylai beicwyr fynd mewn cyfeiriad gwrthglocwedd

Rhagor o wybodaeth

Cylchdaith Cwm Idwal, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal, Parc Cenedlaethol Eryri

Cwm IdwalCwm Idwal oedd y Warchodfa Natur Genedlaethol cyntaf yng Nghymru ac mae tymor yr Haf yn gyfnod gwych o’r flwyddyn i grwydro’r amffitheatr naturiol enfawr hon. Ewch am dro ar hyd y llwybr cerdded cyhoeddus i’r chwith o’r ganolfan ymwelwyr gan fwynhau un o’r llwybrau cerdded mwyaf dramatig yng Nghymru. Wrth i chi ddilyn y llwybrau cerdded ar lwybr cylchol o amgylch y llyn, byddwch yn dod wyneb yn wyneb ag etifeddiaeth Oes yr Iâ a’r rhewlif enfawr a oedd yn arfer bod yma. Cadwch lygad am y crognentydd, y clogfeini gloyw enfawr, y llethrau sgri enfawr a’r ffurfiadau craig garw ar y copa. Mae hyd yn oed y planhigion sydd yma wedi goroesi o’r oes pan oedd iâ yn teyrnasu. Haf yw’r amser gorau i weld lliwiau gogoneddus y planhigion arctig alpaidd prin sy’n ffynnu ar y siliau, y tu hwnt i gyrraedd geifr gwyllt. Mae’r llwybr cerdded hwn hefyd yn llawn hanes. Yma y gwnaeth Charles Darwin ei arsylwadau arloesol am brosesau daearegol, gan gynnwys effeithiau rhewlifiant, ac roedd Edmund Hillary ymhlith y mynyddwyr a ddefnyddiodd Rhiwiau Caws fel maes hyfforddi.

  • Pellter: 3½ milltir (5 cilometr)
  • Tir: Mae’r llwybr cylchol yn dilyn llwybrau cerdded cyhoeddus o amgylch Llyn Idwal. Dylech fynd â map gyda chi gan nad yw’r llwybr wedi’i gyfeirbwyntio. Mae’r tir yn serth ac yn greigiog mewn mannau. Mae nifer o lwybrau cerdded eraill a llwybrau dringo creigiau sy’n arwain at gribau uwch
  • Dechrau a gorffen: Y maes parcio yng nghanolfan ymwelwyr Cwm Idwal

Rhagor o wybodaeth

Llwybr Llyn Llywelyn, Coedwig Beddgelert, Parc Cenedlaethol Eryri

Teulu gyda phicnicMae picnics a’r haf yn mynd law yn llaw a bydd Llwybr Llyn Llywelyn yn eich tywys i le perffaith ar gyfer picnic mewn cornel dawel o Barc Cenedlaethol Eryri. Mae’r llwybr yn cychwyn trwy’r coetir, gan fynd i gyfeiriad Llyn Llywelyn. Yma, gallwch ddadbacio eich danteithion, ymlacio ger y dŵr a mwynhau’r golygfeydd. Gwrandewch am y trenau stêm ar Reilffordd Eryri sy’n mynd trwy Goedwig Beddgelert ar eu ffordd i Gaernarfon neu Borthmadog. Os yw’n well gennych archwilio ar ddwy olwyn, mae yna ddau lwybr cylchol sy’n dilyn ffyrdd y goedwig. Mae’r ddau’n mynd heibio’r llyn, felly gallwch barhau i fwynhau picnic!

  • Pellter: 2¾ milltir (4.4 cilometr)
  • Gradd: cymedrol
  • Tir: Mae’r llwybr cylchol hwn yn dilyn ffyrdd y goedwig at y llyn ac yn dringo cyfanswm o 530 troedfedd/162m
  • Dechrau a gorffen: Maes Parcio Coedwig Beddgelert

Rhagor o wybodaeth

Cylchdaith y Ddôl, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, Parc Cenedlaethol Eryri

Dol yng Nghadair IdrisDoes dim rhaid i chi ddringo i’r copa i fwynhau Cadair Idris, un o fynyddoedd eiconig Parc Cenedlaethol Eryri, gan y gallwch fwynhau mynd am dro hamddenol yng ngodre’r mynydd dros yr haf. Mae’r llwybr hygyrch o giât y maes parcio yn mynd o amgylch Llyn Dôl Idris ac yna ar gylchdaith o’r parcdir, heibio ein Canolfan Ymwelwyr â’i harddangosfa am fywyd gwyllt, daeareg a chwedlau Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris. Ar hyd y ffordd, cadwch lygad barcud am weision y neidr yn patrolio a gwrandewch yn astud am y triawd clasurol o adar y goedwig dderw –y gwybedog brith, telor y coed a’r tingoch – sy’n dychwelyd i Gymru dros fisoedd yr haf. Gallwch oedi ar feinciau picnic yn y parcdir neu ymlacio yn yr heulwen a mwynhau lluniaeth cartref ar deras caffi’r ganolfan ymwelwyr. O’r fan hon, mae rhwydwaith o lwybrau yn arwain at gopa’r mynydd ac o amgylch y Warchodfa.

  • Pellter: ½ milltir (0.9 cilometr)
  • Gradd: hygyrch
  • Tir: Mae Cylchdaith y Ddôl yn llwybr hygyrch, llydan a gwastad gyda meinciau picnic ar hyd y llwybr
  • Dechrau a gorffen: Maes parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar y B4405, oddi ar yr A487

Rhagor o wybodaeth

Llwybr Dŵr Torri Gwddf, Coedwig Hafren, Canolbarth Cymru

Mother and child watching the waterfall from a bridgeDenwch y teulu allan i’r awyr agored wrth addo iddynt y cânt weld afon hiraf Prydain yn plymio dros ei rhaeadr gyntaf. Dŵr Torri Gwddf yw’r enw am y rhaeadr ble bydd afon Hafren yn tasgu i lawr ceunant wrth iddi fynd drwy Raeadr Hafren. Mae’r llwybr cerdded cylchynol byr hwn yn mynd ling-di-long drwy ddol yn llawn o fywyd gwyllt cyn mentro i’r goedwig ble ceir arogleuon sitrws y ffynidwydden gawraidd, y mwyaf o bob coeden binwydd, yn llenwi’r awyr. Man oedi olaf eich taith yw’r bont dros y rhaeadr ysgubol, ble gallwch syllu i lawr ar yr hyrddiadau gwyllt o ddŵr wrth iddo bistyllu i’r ceunant dwfn. Mae Coedwig Hafren yn gartref i dri llwybr cerdded ag arwyddbyst arall, ynghyd â llu o lwybrau cyhoeddus.

  • Hyd: 1½ milltir (2.8 cilometr)
  • Gradd: cymedrol
  • Tir dan draed: Mae’r llwybr yn cynnwys grisiau, llwybr pren, llwybrau drwy’r goedwig a heolydd. Ceir tri darn o lwybr pren, dau ohonynt wrth i chi gerdded o gwmpas y ddôl agored ac un adran fechan yn y goedwig
  • Dechrau a gorffen: Maes parcio Rhyd y Benwch

Rhagor o wybodaeth

Llwybr Twyni, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, Canolbarth Cymru

Pan mae’r haul yn gwenu, mae’n demtasiwn i fynd yn syth i’r traeth yn Ynyslas ond beth am ddilyn y Llwybr Twyni a darganfod pam mae’r ardal hon wedi’i dynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol? Mae’r llwybr sydd wedi’i gyfeirbwyntio yn cynnwys tirwedd sy’n amrywio o gribau twyni a slaciau i draeth agored a llinell yr arfordir, ynghyd â golygfeydd panoramig gwefreiddiol ar hyd yr arfordir. Yn ystod yr haf, mae’r twyni wedi’u gorchuddio â charped amryliw o flodau gwyllt sy’n denu gloÿnnod byw a gwyfynod - edrychwch a allwch chi weld y glesyn cyffredin, y gwyfyn claergoch ag adenydd rhuddgoch a’r britheg werdd. Wrth i chi gerdded ar hyd y traeth, cadwch lygad am gregyn hardd ac adar sy’n mynd i’r dŵr ac, os ydych chi’n lwcus iawn, efallai gwelwch chi ddolffin allan yn y môr. Os hoffech gerdded llwybr hirach, ewch i gyfeiriad y goedwig suddedig sy’n agos at bentref Borth gerllaw lle gellir gweld gweddillion bonion coed hynafol ar y traeth ar lanw isel.

  • Pellter: 1 milltir (2.1 cilometr)
  • Gradd: hawdd
  • Tir: Mae hwn yn llwybr cerdded hawdd sydd ag adran sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn
  • Dechrau a gorffen: Canolfan ymwelwyr Ynyslas

Rhagor o wybodaeth

Taith Cors y Llyn, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors y Llyn

Dôl gyfoethog o flodau gwylltHaf yw'r amser gorau i fwynhau'r ddôl gyfoethog o flodau gwyllt sy'n un o'r goreuon yng nghanolbarth Cymru.  Cofnodwyd dros 100 o rywogaethau o blanhigion blodeuol yma, gan gynnwys tegeirian brych y rhos, hesgen lwydlas, cycyllog bach ac ystrewlys. Mae'r blodau gwyllt yn denu llawer o loÿnnod byw ar ddiwrnodau llonydd, ac mae  mursennod a gweision neidr i'w gweld ger y pwll yn yr haf, gan gynnwys rhai o'r rhywogaethau mwy fel yr ymerawdwr a gwas neidr y de. Mae'r llwybr cerdded yn mynd ar hyd ymyl y ddôl blodau gwyllt ac yn dilyn y llwybr estyll drwy'r coetir corsiog.

  • Hyd: ¾ milltir, 1.2 cilometr
  • Gradd: hygyrch
  • Tirwedd: Mae'r llwybrau'n wastad ac wedi'u gorchuddio â rhwyll ac mae'r llwybr estyll yn hygyrch. Mae lleoedd pasio ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn a seddau ar hyd y llwybr
  • Dechrau a diwedd: Y maes parcio bach yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors y Llyn

Rhagor o wybodaeth

Llwybr Cerdded y Bonheddwr, Ystâd Hafod, Canolbarth Cymru

Dyn a rhaeadrOs ydych chi’n chwilio am lwybr cerdded mwy heriol i wneud y gorau o ddiwrnodau hir yr haf, yna gallai Llwybr Cerdded y Bonheddwr fod yn addas ar eich cyfer chi. Cafodd Ystâd Hafod ei ddylunio ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif gan Thomas Johnes ac mae’n cael ei adnabod fel un o’r enghreifftiau gorau o dirwedd “darluniadwy” yn Ewrop. Daeth yn gyrchfan hanfodol i’r twristiaid cynnar i Gymru a oedd yn mwynhau’r dilyniant o olygfeydd a nodweddion tirlun ar y ddau lwybr cylchol a ddatblygwyd gan Johnes. Y Llwybr Cerdded y Bonheddwr yw’r hiraf o’r ddau lwybr hyn ac mae’r llwybr sydd wedi’i gyfeirbwyntio yn rhoi cyfle i weld hen goed pinwydd mawr, rhaeadrau dramatig, cwymp dŵr syfrdanol o fewn ceudwll a nifer o bontydd anarferol. Mae’n llwybr anodd sydd â sawl dringfa a disgynfa serth ond cewch eich gwobrwyo â golygfeydd eang dros dir ffermio a mynyddoedd.

  • Pellter: 3.7 milltir (6 cilometr). Mae’n bosibl gwneud y llwybr yn fyrrach neu’n hirach drwy ddilyn llwybrau ‘cyswllt’ neu ffyrdd eraill
  • Gradd: anodd
  • Tir: Mae hwn yn llwybr heriol sydd â sawl dringfa a disgynfa serth, ac felly mae angen lefel dda o ffitrwydd. Mae’r arwyneb yn arw a gallai fod yn wlyb mewn mannau. Argymhellir gwisgo esgidiau cerdded â gafael da
  • Dechrau a gorffen: Maes parcio Ystâd Hafod

Rhagor o wybodaeth

Llwybr Posau Anifeiliaid, Canolfan Ymwelwyr Garwnant, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Gwas y neidrOs ydych chi’n edrych am syniadau i ddiddanu’r rhai bach yn ystod y gwyliau haf hir, dylai’r llwybr addysgol llawn hwyl hwn yng Nghanolfan Ymwelwyr Garwnant fod ar eich rhestr fer. Mae’r ganolfan ymwelwyr wedi’i lleoli yn y coetir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae arwyddbyst clir yn dangos sut i gyrraedd yno oddi ar yr A470 ac mae’n addas iawn ar gyfer ymwelwyr iau gyda lleoedd chwarae ac llwybrau beicio mynydd i blant iau. Casglwch daflen Llwybr Posau am ddim o’r ganolfan ymwelwyr ac yna dilynwch y cyfeirbwyntiau dros y bont ac i mewn i’r coetir. Mae’r daflen yn cynnwys map a chliwiau i’ch helpu i weld y cerfluniau anifeiliaid sydd wedi’u cuddio yn y coed ond bydd i angen i chi gadw llygad barcud hefyd! Mae’r llwybr byr hwn yn berffaith i’r teulu cyfan ac nid yw’n rhy flinedig i goesau bach. Mae digonedd o fyrddau picnic a standiau barbeciw o amgylch y maes parcio a chaffi yn y ganolfan ymwelwyr lle gallwch ymlacio a chael hoe ar ôl eich antur coetir.

  • Pellter: ½ milltir (1 cilometr)
  • Gradd: hygyrch/hawdd (gweler isod)
  • Tir: Mae rhan gyntaf y Llwybr Cerfluniau Anifeiliaid yn dilyn llwybr hygyrch sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Mae ail ran y llwybr yn cynnwys dringfa fer drwy’r coetir ac yna mae’n dilyn ffordd y goedwig – nid yw’r rhan hon yn addas ar gyfer pob cadair olwyn a phob cadair gwthio, dim ond rhai cadarn oddi ar y ffordd. Fel dewis arall, ar ôl gwneud rhan gyntaf y Llwybr Cerfluniau Anifeiliaid, gallwch barhau ar y llwybr hygyrch a dilyn y Llwybr Coed (mae cliwiau ar gyfer y Llwybr Coed yn y daflen Llwybr Posau hefyd)
  • Dechrau a gorffen: Canolfan Ymwelwyr Garwnant

Rhagor o wybodaeth

Llwybr Tram a Thrên, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Hairy greenweedMae un o’r systemau ogof mwyaf ym Mhrydain i’w chael dan eich traed yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu, ond mae digon i’w weld uwchben y ddaear hefyd. Dechrau’r haf yw’r amser gorau i weld y planhigion sy’n hoff o galchfaen, neu beth am fwynhau fflach o liw ddiwedd yr haf pan fydd y grug yn ei flodau ynghanol y llus, y cennau a’r mwsoglau ar y gweundir agored. Cadwch lygad am flodau’r gwynt, lili’r dyffrynnoedd a dugredyn coesddu yn agennau dwfn y calchbalmentydd, neu chwiliwch am y gorfanhadlen flewog brin, sef planhigyn â blodau melyn sy’n perthyn i eithin a banadl a welir mewn dau o lefydd eraill yn unig yng Nghymru. Ers talwm roedd yma bentref llewyrchus gyda chwarel a gwaith brics, ynghyd â swyddfa bost a thafarndy, a gallwch ddarganfod rhai o’r olion diwydiannol ar ein llwybr arwyddbyst.

  • Pellter: 1½ milltir, 2.3 cilometr
  • Gradd: cymedrol
  • Tir: Taith gerdded ar hyd llwybrau ceffylau o amgylch y warchodfa, gyda’r dewis o gynnwys rhan o’r hen reilffordd. Ceir mynediad agored ar y warchodfa, ond mae’n fwy diogel aros ar y rhwydwaith o lwybrau oherwydd y llyncdyllau
  • Dechrau a gorffen: Maes parcio Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ogof Ffynnon Ddu

Rhagor o wybodaeth

Cynlluniwch eich taith a mwynhewch eich ymweliad!

Ewch i wefan Traveline Cymru i gael gwybodaeth am deithio ar fws, coets a thrên yng Nghymru.

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn rhoi cyngor defnyddiol i chi ar sut i baratoi eich taith, gofalu eich bod chi ac eraill yn ddiogel a sut i helpu i sicrhau bod cefn gwlad yn parhau i fod yn lle hardd y gall pawb ei fwynhau.

Ydych chi’n chwilio am rywle arall i fynd iddo?  Ewch i’n tudalen Lleoedd i ymweld â hwy.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.