Cysylltu â'r Gwasanaethau Dadansoddol
Oherwydd y cyfyngiadau COVID-19 a’r angen inni roi blaenoriaeth i ddadansoddi mewnol CNC, penderfynom gau ein labordy Cynhyrchion Organig a Samplu Goddefol i unrhyw geisiadau masnachol am y tro.
Byddwn yn ystyried unrhyw geisiadau masnachol eraill yn ôl eu rhinweddau; serch hynny, dylech gadw mewn cof mai prin iawn yw ein gallu i gymryd unrhyw waith masnachol ar hyn o bryd. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra sy’n deillio o’r penderfyniadau hyn.
Cysylltu â ni
Ein nod yw ymateb i chi o fewn 1 diwrnod gwaith.
Rydym yn codi isafswm tâl o £250 am waith oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig cyn inni ddechrau ar y gwaith. Mae'r isafswm tâl yn gymwys i bod darn o waith. Mae gwaith yn sampl neu’n grŵp o samplau a ddyfynnir gyda'i gilydd o dan yr un cyfeirnod dyfynbris.
Dŵr yfed
Yn anffodus, nid ydym yn rhoi cyngor ar ddiogelwch unrhyw ffynhonnell ddŵr sydd i'w yfed gan bobl.
Yn achos y math hwn o ymholiad cysylltwch â'ch cyflenwr dŵr.