Trwyddedu ystlumod
Mae pob rhywogaeth o ystlum yn y DU yn Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop. Mae’n anghyfreithlon difa neu ddinistrio clwyd ystlum neu fynd ati’n fwriadol i ddal, lladd, anafu neu darfu ar ystlum. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhoi trwyddedau er mwyn i chi allu gweithio o fewn y gyfraith
Gwybodaeth am y coronafirws
Ni ddylid gwneud unrhyw waith arolygu a gynlluniwyd gennych fel rhan o gais am drwydded rhywogaeth oni bai fod hynny'n gwbl angenrheidiol yn dilyn y canllawiau diweddaraf a gafwyd gan y llywodraeth ar gyfer ymbellhau cymdeithasol.
- Os na allwch weithio o’ch cartref dylech ddarllen y canllawiau diweddaraf a ddarparwyd gan fusnesau amgylcheddol megis Ymddiriedolaeth Adara Prydain (BTO), RSPB neu Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol (CIEEM).
- Gan na fydd efallai’n bosibl diweddaru eich arolygon y tymor hwn, eleni byddwn yn ymestyn hyn ac yn derbyn arolygon o'r tair blynedd diwethaf.
- Dylech gwblhau eich arolwg cyn gynted ag y cewch gyfle a phan fo’n briodol unwaith y bydd y cyfyngiadau wedi eu codi.
Os oes gennych gwestiynau pellach gallwch gysylltu â’n tîm rhywogaethau drwy e-bost trwyddedrhywogaeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth gweler ein prif dudalen ar y coronafirws.
Mae holl rywogaethau ystlumod Prydain yn cael eu gwarchod o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, a elwir yn ‘Rheoliadau Cynefinoedd’. Y rheswm am hyn yw bod eu niferoedd wedi gostwng ledled Ewrop yn y degawdau diwethaf. Mae’r berthynas rhwng pobl ac ystlumod yn un unigryw, gyda rhai’n rhannu ein cartrefi am ran o’r flwyddyn weithiau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ateb cannoedd o ymholiadau gan bobl am ystlumod bob blwyddyn.
Mae’r wybodaeth hon yn canolbwyntio ar drwyddedu ystlumod yng Nghymru ac nid yw’n adolygiad cynhwysfawr o ecoleg ystlumod na’r gyfraith sy’n ymwneud ag ystlumod.
Deddfwriaeth
Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn datgan bod y canlynol yn drosedd:
- Dal, anafu neu ladd yn fwriadol unrhyw anifail gwyllt sy’n rhywogaeth a warchodir gan Ewrop
- Tarfu’n fwriadol ar unrhyw anifeiliaid gwyllt o’r cyfryw rywogaethau
- Difa neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o’r fath
Mae tarfu’n cynnwys, ond nid yw wedi’i gyfyngu i, unrhyw darfu sy’n debygol:
- o amharu ar eu gallu –
- i oroesi, bridio neu atgenhedlu, neu i fagu neu feithrin eu rhai bach, neu
- yn achos anifeiliaid rhywogaeth sy’n gaeafgysgu neu sy’n mudo, yn amharu ar eu gallu i wneud hynny
- o effeithio’n sylweddol ar ddosbarthiad neu niferoedd y rhywogaeth y maen nhw’n perthyn iddo yn lleol
Mae yna droseddau eraill yn ymwneud â meddu, cludo a gwerthu. Gweler ‘Meddu ar a Gwerthu Rhywogaethau a Warchodir’ i gael gwybodaeth am hyn.
Trwyddedu
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan Reoliad 55 y Rheoliadau Cynefinoedd fel y gallwch chi weithio o fewn y gyfraith. Rydym yn eu rhoi at ddibenion penodol a restrir yn y Rheoliadau, os ydych chi'n bodloni'r tri phrawf canlynol:
- mae diben y gwaith yn cyd-fynd ag un o'r dibenion sydd wedi'u rhestru yn y Rheoliadau Cynefinoedd (gweler isod);
- does yna ddim dewis arall boddhaol;
- ni fydd y weithred a awdurdodir yn cael effaith niweidiol ar y gwaith o gynnal poblogaeth y rhywogaeth dan sylw ar statws cadwraethol ffafriol yn eu hystod naturiol
Dibenion trwyddedu
O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, gellir rhoi trwyddedau ar gyfer cyfres benodol o ddibenion yn cynnwys:
- diogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd neu unrhyw reswm hanfodol arall sydd o fudd cyhoeddus tra phwysig yn cynnwys rhesymau cymdeithasol neu economaidd eu natur a chanlyniadau buddiol sy’n bwysig iawn i’r amgylchedd
- dibenion gwyddonol ac addysgol
- gosod modrwy neu nod
- gwarchod anifeiliaid gwyllt
Gweler ‘Ffurflen gais am drwydded ystlumod Cyfoeth Naturiol Cymru’ i gael rhagor o wybodaeth am drwyddedau arolygu.
I gael rhagor o wybodaeth am drwyddedau Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop (datblygu) cyfeiriwch at y gyfres o ddolenni defnyddiol ar y dudalen hon.
Os ydych yn pryderu am ystlumod yn eich cartref (ac eithrio ymholiadau sy’n ymwneud â cheisiadau cynllunio neu ddatblygiad) ffoniwch ein Llinell Ymholiadau i gael cyngor ar 0300 065 3000.