Trwyddedau Rheolau Safonol ar gyfer Gweithgareddau gweithfeydd hylosgi canolig a generaduron penodol
Pa fath o drwydded sydd ei angen arnaf?
Rydym yn cynnig wyth dewis o drwyddedau rheolau safonol ar gyfer gweithgareddau gweithfeydd hylosgi canolig neu eneraduron penodol. Os gallwch fodloni'r meini prawf a nodir ar gyfer y set o reolau perthnasol a'r asesiad risg generig cysylltiedig, gallwch fanteisio ar opsiwn rheolau safonol.
Oes modd i mi gymhwyso ar gyfer trwydded rheolau safonol?
Er mwyn cymhwyso ar gyfer trwydded rheolau safonol, mae'n rhaid i chi fodloni:
- rheolau (amodau) y set neu setiau o reolau perthnasol, a'r
- ffyrdd o weithio sy'n cael eu nodi yn yr asesiad risg generig sy'n cyd-fynd â'r set neu setiau o reolau perthnasol
Mae'n rhaid i chi hefyd fod yn hyderus eich bod yn gallu dilyn y canllawiau ynglŷn â sut i gydymffurfio â'r drwydded amgylcheddol.
I weld p’un a oes opsiwn addas ar eich cyfer:
- Edrychwch ar yr opsiynau rheolau safonol ar waelod y dudalen hon
- Darllenwch drwy'r set lawn o reolau safonol a'r asesiad risg generig cysylltiedig yn ofalus
Mae'n rhaid i chi roi sylw at y cyfyngiadau ar leoliad a gweithredu.
Os ydych yn fodlon y gallwch fodloni'r gofynion, gallwch wneud cais am drwydded rheolau safonol gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a'r canllawiau ar waelod y dudalen hon.
Os nad ydych yn gallu bodloni'r holl gyfyngiadau a gofynion, bydd angen i chi wneud cais am drwydded bwrpasol.
Beth ddylwn i ei wybod cyn fy mod yn gwneud cais?
Mae'r ffurflenni cais a'r canllawiau yn dweud wrthoch chi pa adroddiadau, cynlluniau, asesiadau a gwybodaeth arall sydd eu hangen arnom. Bydd ein dogfennau canllaw ar drwyddedau amgylcheddol yn eich helpu i roi'r pethau hyn at ei gilydd.
Sicrhewch eich bod yn darllen yr holl ganllawiau perthnasol ar drwyddedu amgylcheddol ar gyfer gweithgareddau gweithfeydd hylosgi canolig neu eneraduron penodol cyn eich bod yn gwneud cais, a sut i gydymffurfio â'ch trwydded.
Os nad ydych yn sicr o hyd ynglŷn ag a oes angen trwydded arnoch, neu’r hyn sydd angen i chi ei wneud, gallwn eich helpu.
Sut allaf i wneud cais?
Mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:
- Cwblhau pob ffurflen gais berthnasol o'r adran lawrlwytho dogfennau ar waelod y dudalen hon
- Cynnwys y ffi ymgeisio gywir gyda'r cais
- Sicrhau eich bod yn anfon atom yr holl wybodaeth ategol sydd ei hangen arnom er mwyn asesu eich cais
Bydd canllawiau’r ffurflenni cais yn eich helpu. Sicrhewch eich bod yn eu darllen pan fyddwch yn llenwi’r ffurflenni. Os na fyddwch yn anfon atom yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, bydd yn cymryd mwy o amser i asesu eich cais.
Faint o amser sydd ei angen i brosesu cais am drwydded?
Tri mis yw'r canllaw cyfreithiol ar gyfer asesu ceisiadau rheolau safonol ac ildiadau. Mae'n bedwar mis ar gyfer ceisiadau pwrpasol, ac mae'n cymryd dau fis i drosglwyddo deiliad y drwydded. Gall gymryd mwy o amser os bydd angen i ni ofyn i chi am fwy o wybodaeth.
Bydd yr amser yn dechrau pan fyddwn yn eich hysbysu bod gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom. Mae'r wybodaeth sydd ei hangen arnom wedi'i nodi yn y ffurflenni cais a'r canllawiau cysylltiedig.
Edrychwch ar ein lefelau gwasanaeth am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r hyn y gallwch ei ddisgwyl oddi wrthym.
Sut allaf gael cymorth a chyngor?
Darllenwch ganllawiau’r ffurflenni cais cyn eich bod yn llenwi'r ffurflenni. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall y wybodaeth sydd ei hangen arnom.
Darllenwch y canllawiau amgylcheddol perthnasol ynglŷn â gweithgareddau gweithfeydd hylosgi canolig a generaduron penodol cyn eich bod yn gwneud cais, ynghyd â sut i gydymffurfio â'ch trwydded.
Os oes gennych ymholiad cyffredinol ynglŷn â gweithgareddau gweithfeydd hylosgi canolig neu eneraduron penodol, neu os nad ydych yn sicr a allwch fanteisio ar gyfnod pontio, neu ba gyfnod pontio sy'n berthnasol ar eich cyfer, anfonwch e-bost atom yn mcpd.queries@naturalresourceswales.gov.uk
Os oes angen mwy o help arnoch, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio. Efallai y codir tâl ar gyfer hwn. Gallwch siarad â'ch swyddog cydymffurfiaeth â thrwyddedau os oes gennych un yn barod. Os nad ydych yn sicr ynglŷn â phwy yw hwn, neu os nad oes eisoes gennych un, cysylltwch â ni.